Hanes Merched y Wawr
O’r merched gad welediad – yn y Parc
Ganwyd perl o fudiad,
A rhain sy’n rhoi arweiniad
Yn glir dros ryddid ein gwlad.
Emrys Jones
Sefydlwyd Merched y Wawr ym 1967 yn y Parc ger y Bala.
Mae nifer wedi gofyn sut y cychwynnodd y mudiad - dyma hanes y sefydlu:
Ym mis Rhagfyr 1966 ymwelodd swyddogion Sefydliad y Merched, Meirionnydd, â changen Y Parc am eu bod yn anfodlon fod y gangen wedi anfon erthygl i’r Cymro yn beirniadu Sefydliad y Merched. Y feirniadaeth oedd fod y W.I. yn anfon papurau swyddogol uniaith Saesneg i ganghennau a gynhaliai eu holl weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Cwynai’r erthygl hefyd am nad oedd gair o Gymraeg yn y ‘North Wales Edition’ o gylchgrawn y mudiad hwnnw.
Yn y cyfarfod yn Y Parc eglurwyd i’r aelodau mai mudiad Saesneg oedd y W.I. ac yna awgrymwyd, os nad oeddynt yn fodlon perthyn i fudiad Saesneg, y dylid cau’r gangen a throsglwyddo’r papurau swyddogol i swyddogion y sir. Er nad oedd merched y Parc ar y dechrau wedi bwriadu torri i ffwrdd o’r W.I. teimlent nad oedd ganddyn nhw fawr o ddewis dan yr amgylchiadau heblaw derbyn yr awgrym a gweithredu yn unol â hynny.
Y noson honno penderfynwyd cychwyn cymdeithas newydd i ferched Cymru fyddai’n rhoi lle urddasol i’r Gymraeg. Yn ystod gwanwyn 1967 y bwriad oedd cychwyn ymgyrch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala yn Awst, ond cyn hynny rhaid oedd cael ychydig o arian wrth gefn. Yn Ffair Glame yn nhre’r Bala roedd stondin gan ferched Y Parc i godi arian, ac fe holodd y diweddar Meirion Jones, prifathro’r Ysgol Gynradd, beth oedd diben y stondin. Wedi clywed yr hanes, fe gysylltodd yn syth â’r wasg a’r cyfryngau, a gwnaed y bwriad yn gyhoeddus ar Fai 15fed. O fewn wythnos roedd cangen arall o Ferched y Wawr wedi’i sefydlu yn Y Ganllwyd gyda rhyw 34 o aelodau.
Y ddwy gangen arloesol hyn a aeth yn gyfrifol am drefnu Pabell Merched y Wawr ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala ac am gynnal cyfarfod cyhoeddus ar y Maes. O ganlyniad uniongyrchol i’r cyfarfod hwnnw, fe gododd llawer iawn o ganghennau ledled Cymru a chyn bo hir fel drefnwyd Pwyllgorau Rhanbarth.
Ym mis Rhagfyr 1967 bu cynhadledd Genedlaethol yn Aberystwyth. Fe dyfodd y Mudiad fel caseg eira, ond nid heb lawer o waith trefnu gan ferched Y Parc.
Y swyddogion cyntaf oedd:
Zonia Bowen; Ysgrifennydd
Gwyneth Evans; Llywydd
Kitty Edwards; Trysorydd
Llywyddion Anrhydeddus y Mudiad;
Gwyneth Evans 1970 – 1992 (m)
Zonia Bowen 1972 -1975 (ym)
Marged Jones 1995 - 2008 (m)
Trefnyddion:
Mair Elvet Thomas 1982 - 1984
Mererid James 1984 - 1994
Eleri Non Griffiths 1994 - 1998
Tegwen Morris 1999 - Presennol
Cafwyd dathliadau arbennig ar achlusur 25 mlynedd merched y Wawr yn Y Parc.

Llun y dathliadau yn y Parc ym 1992
Cafodd Cwilt arbennig ei bwytho gan aelodau Merched y Wawr o dan gyfarwyddyd Joyce Jones. Y mae y cwilt bellach wedi ymgartrefi yn ein Canolfan Genedlaethol yn Aberystwyth. Hefyd yn y flwyddyn 2000 pan agorwyd y Ganolfan Genedlaethol yn Aberystwyth fe wnaethpwyd baner newydd gan Llinos Roberts o Ranbarth Colwyn.
![]() |
CYN-LYWYDDION CENEDLAETHOL
1968 -1970 - Gwyneth Evans (m. Hydref 1992)
1970 -1972 - Marged Jones
1972-1974 - Beti Hughes (m. Awst 1981)
1974-1976 - Sioned Penllyn (m. Mehefin 2004)
1974-1976 - Eleanor Glyn Thomas
1976-1978 - Wendy Richards (m. Mai 1999)
1978-1980 - Jennie Eirian Davies (m . Mai 1982)
1980-1982 - Megan Creunant Davies (m. Chwefror 2005)
1982-1984 - Rebecca Powell (m. Ionawr 1993)
1984-1986 - Eirlys Peris Davies(m. Medi 2007)
1986-1988 - Eirlys Lewis Evans
1988-1990 - Margarette Huws
1990-1992 - Mair Penri Jones
1992-1994 - Nan Lewis
1994-1996 - Rhianwen Huws Roberts
1996-1998 - Valerie James
1998-2000 - Sylwen Davies
2000-2002 - Catrin Stevens
2002-2004 - Gwyneth Morus Jones
2004- 2006 - Glenys Thomas
2006 - 2008 - Mary Price
2008 - 2010 – Esyllt Jones
2010 - 2012 - Mererid Jones
