Ffair Aeaf 2010
![]() ![]() |
Cafodd Merched y Wawr Ffair Aeaf llwyddiannus dros ben yn Llanelwedd eto eleni. Bu'r cystadlu'n frwd ymysg y canghennau a’r clybiau. Un o'r themâu eleni oedd creu angel mewn unrhyw gyfrwng, a’r angel a ddaeth i'r brig eleni oedd angel Dilys Richards o Gangen Penybont ar Ogwr, Rhanbarth y De Ddwyrain. Angel brydferth iawn wedi ei gwnïo â lliwiau tymhorol o aur, coch a hufen.
Llongyfarchiadau hefyd i Rhiain Bebb o Gangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys am ddod yn ail ac i Medwen Charles o Gangen Maesywaen, Rhanbarth Meirionnydd ar gael y drydedd wobr.
Roedd arddangosfa arbennig o bwdinau Nadolig yng nghystadleuaeth coginio Merched y Wawr yn Ffair Aeaf Llanelwedd eleni. Yn ogystal ag edrych yn hynod ddeniadol roeddent hefyd yn hynod o flasus ac yn bleser i'w beirniadu. Roedd y pwdin a ddaeth yn gyntaf yn ddeniadol iawn gydag aeron coch wedi eu gwneud â llaw yn ei addurno ac roedd blas y ffrwythau yn felys a'r cydbwysedd gyda'r brandi yn hyfryd. Llongyfarchiadau i Winnie James o Gangen Tegryn, Rhanbarth Penfro am ddod yn gyntaf. Mae rhaid bod 'na gogyddion pwdin Nadolig da yn ardal Tryweryn ym Meirionnydd hefyd! Daeth Nen Davies a Morfydd Thomas o Gangen Bro Tryweryn yn ail ac yn drydydd yn y gystadleuaeth.
Un o'r themâu crefft yng nghystadleuaeth Merched Y Wawr oedd lapio parsel Nadolig yn defnyddio unrhyw addurn mewn unrhyw gyfrwng. Llongyfarchiadau di-ri i Dewina George o gangen Capel Newydd, rhanbarth Penfro a ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth. Cyflwynodd Dewina anrheg wedi ei lapio mewn papur disglair coch, gyda phlu eira wedi eu gwneud â llaw, rhuban arian a robin goch del yn dal y cerdyn cyfarch yn ei big. Roedd y manylder yn berffaith ac yn ysbrydoli unrhyw un i fynd at i lapio anrheg Nadolig arbennig yn defnyddio'r dyluniad yma.
Llongyfarchiadau hefyd i Eryl Evans, Cangen Talybont, Rhanbarth Ceredigion am ddod yn ail yn y gystadleuaeth ac i Margaret Jones, Cangen Bro Radur, Rhanbarth y De Ddwyrain am ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth eleni.
I weld mwy o luniau, cliciwch yma
Teithiau Cerdded Noddedig Clybiau Gwawr i godi arian at offer Ambiwlans Awyr Cymru a Merched y Wawr.
Cynhaliwyd Teithiau Cerdded Noddedig Clybiau Gwawr a Merched y Wawr ar ddydd Sadwrn y 19eg o Fehefin, un taith gerdded yn y Gogledd a'r llall yn y De. Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan, neu helpu mewn unrhyw ffordd.
Taith Gerdded Y De
Tua tair milltir o hyd oedd y daith gerdded yma, yn dechrau ac yn gorffen ym maes parcio Parc Margam. Codwyd arian tuag at offer i Ambiwlans Awyr Cymru a Merched y Wawr.
Cysylltwch gyda Ruth Morgan am fwy o wybodaeth ar 01269 860454 / 07811 692933 neu e-bostwich ruthpennant@yahoo.co.uk gallwch lawrlwytho'r ffurflen noddi yma

Y Merched yn mwynhau'r cerdded
Taith Gerdded Y Gogledd
Trefnwyd Taith Gerdded noddedig Gogledd Cymru y Clybiau Gwawr a Merched y Wawr eleni yn Llandudno. Roedd y daith yn dechrau am 2.00y.p wrth Bwll Padlo Craig y Don (gyferbyn ag arwydd Fferm Bodafon ac Ysgol y Gogarth) ar ochr orllewinol y Prom. Cerddwyd ar hyd y Prom o Drwyn y Fuwch (Little Orme) at Dollborth y Gogarth. Mae'r daith gwta 2 filltir (pedair os am ddychwelyd at y man cychwyn).
Os am fwy o wybodaeth am daith y Gogledd cysylltwch gyda Nia Llywelyn ar e-bost: nia.llywelyn@googlemail.com. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen noddi yma

Prosiect Merched y Wawr a ‘Choed Cadw’
Mae’r Mudiad ar hyn o’r bryd yn cydweithio â Choed Cadw mewn prosiect newydd i wella’r amgylchedd. Yn y sefyllfa bresennol, mae Cymru yn un o’r gwledydd ag ynddi’r nifer lleiaf o goed yn Ewrop, gan y dinistriwyd hanner cant o goetir hynafol gwledydd Ewrop a difethwyd 190,000 cilomedr o’r cloddiau a’r gwrychoedd ers 1930.
Cafodd pawb a fynychodd y Penwythnos Preswyl yn Aberystwyth eleni goeden yn anrheg wrth ymadael, ac anogwyd hwy i’w plannu yn eu cartrefi neu yn eu cymunedau.
Yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron eleni, plannwyd coeden gan y Mudiad, a bydd coed yn cael eu plannu yn y Sioe Frenhinol ac yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.
Mae gennym yn y Swyddfa fap yn dangos lleoliadau yr holl goed sydd wedi eu plannu gan Ferched y Wawr/Clybiau Gwawr eleni, fel arwydd o waith caled ein mudiad, ac er mwyn dangos bodolaeth Merched y Wawr ym mhob bro yng Nghymru. I weld y map hyd yma, cliciwch yma...
Felly os ydych wedi plannu coeden fel rhan o’r cynllun, cofiwch roi gwybod i ni, er mwyn i ni eich ychwanegi chi ar ein map, fel y gwnaeth y tair cangen isod:
Cangen Morfa Nefyn

Plannwyd dwy goeden afalau yn Ysgol Morfa Nefyn, ac mae’r plant yn edrych ymlaen yn fawr am yr afalau cyntaf!
Cangen Bro Ilar

Plannwyd coeden ‘Cerdinen’ ger y llyn yn Hen Orsaf y Rheilffordd yn Llanilar.
Cangen Pencader a’r Cylch

Penderfynodd Cangen Pencader a’r Cylch blannu ei coeden hwy ym Mynwent Capel Gwyddgrug, Pencader, oherwydd yn Festri’r Capel y cychwynnodd y ganen, deugain mlynedd yn ôl.
Cofiwch, dydy hi ddim yn rhy hwyr i blannu coeden! Ewch ati i blannu!!
Gwyl Haf 2010
Ar ddydd Sadwrn y 15fed o Fai, cynhaliwyd Gwyl Haf Merched y Wawr 2010.
Roedd yn ddiwrnod llawn o ddigwyddiadau eleni gyda Chwaraeon, Y Cyfarfod Blynyddol, Alun Ffred Jones AC Gweinidog Treftadaeth yn siaradwr gwadd, Seremoni Cadeirio, Seremoni'r Dysgwyr, Adloniant, Cystadleuthau Canu, stondinau amrywiol a Chystadlaethau Crefft.
Diolch i'r canoedd o aelodau a ddaeth draw i ddathlu'r Wyl Haf eleni, cafwyd diwrnod braf ym Machynlleth, ac roedd y niferoedd i weld yn cael amser da.
Cliciwch yma am canlyniadau'r Wyl Haf
Lansiad Cenhinen Bedr 'GWAWR' yn Sioe Arddwriaethol Frenhinol Caerdydd

Ar ddiwrnod o wanwyn braf, yn Sioe Arddwriaethol Frenhinol Caerdydd, lansiwyd blodyn arbennig iawn, sef, cenhinen bedr newydd o’r enw ‘Gwawr’!
Ymhlith y 24,000 o ymwelwyr i’r sioe yr oedd cynulleidfa o aelodau lleol wedi dod ynghyd i ddathlu’r lansiad arbennig yma.
Cafwyd y syniad i greu blodyn arbennig i gynrychioli Mudiad Merched y Wawr gan ein Llywydd Cenedlaethol presennol, Dr Esyllt Jones.
Mae Dr Esyllt Jones wedi bod yn gweithio gyda chwmni Ron Scamp, o Gernyw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i greu’r blodyn arbennig yma.
Meddai’r Dr Esyllt Jones:
“Blodyn hufen golau gyda chanol oren i symbylu’r wawr ydy’r blodyn, ac mae’n brydferth iawn. Hoffwn ar ran ein Mudiad, ddiolch i Ron Scamp a’i gwmni ac i’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gael gweld Gwawr yn cael ei phlannu yng ngerddi Cymru i ddathlu’r ffaith bod y blodyn arbennig yma wedi cael ei ddatblygu. Dw i’n sicr y bydd ei phrydferthwch yn dod â gwen i unrhyw un y gwanwyn nesaf!”
Y bwriad yn yr hir dymor ydyw gwerthu y bylbiau i’r aelodau a’r cyhoedd, bydd mwy o fanylion yn dilyn yn ystod y misoedd nesaf.

Sioe ffordd Merched y Wawr yn Nrefach Felindre 16 Ebrill 2010

Cynhaliwyd trydedd Sioe Ffordd Merched y Wawr a'r Clybiau Gwawr yn Amgueddfa Wlân Cenedlaethol Cymru yn Nrefach Felindre, dydd a nos Wener yr 16eg o Ebrill.
Yn ystod y dydd cafwyd sesiynnau blasu diddorol iawn ar wahanol ffurf o ddefnyddio gwlân a teithiau tywysedig bendigedig gan Keith ac orig ddiddorol o gymdeithasu. Cafwyd hefyd cyflwyniad i'r ardal gan Brenda Jones a dysgwyd llawer am y fro.
Mewn noson arbennig, daeth cynulleidfa ynghyd i gael eu diddanu gan y ddwy Ddafydd, Fflur Dafydd a Catrin Dafydd. Roedd yn noson wych a llawer o hwyl. Cafwyd caneuon swynol gan Fflur Dafydd a'r Barf oddi ar eu halbym newydd, 'BydBach', a chafwyd ymweliad arbennig gan 'Evita Morgan' o Batagonia.
Yng nghanol y joio a'r chwerthin a'r digrifwch i gyd cynhaliwyd cystadleuaeth hwyliog i greu limerig, a limerig Sylvia a Marian a ddaeth i'r brig! Cafwyd seremoni cadeirio a'r wobr; pei Fray Bentos i'r ddwy gan Evita o Batagonia!!
Un noson yng nghwmni Evita
Y pishyn ddaeth o Batagonia
Fe syrthiodd 'rhen Keith
Mewn caraid yn syth
Anghofiodd y cwbl am wlana!
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi'r digwyddiad a diolch yn arbennig i Gyngor Sir Gaerfyrddin am y nawdd RDP i gynnal y digwyddiad.
Urddo'r Llywydd - Mererid Jones
Dyma Esyllt Jones a Mererid Jones, ein cyn-lywydd, a'n llywydd newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd. I ddarllen mwy am yr Eisteddfod, ewch i Newyddion.

Sioe Llanelwedd 2010
Dyma'r Mudiad yn plannu coeden ar faes y Sioe Frenhinol, yn ystod y Sioe eleni. I ddarllen mwy am hanes y Sioe, ewch i'r Newyddion.
Newyddion 2010
Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd
Eleni eto, bu Merched y Wawr yn brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd stondin y mudiad yn brysur iawn drwy’r wythnos, gydag aelodau, ffrindiau a swyddogion yn mwynhau paned, picau ar y maen a chlonc. Roedd y babell yn llawn bwrlwm a thynnu coes o ddydd Sul i ddydd Sadwrn, a diolch yn fawr i ganghennau a chlybiau y De-Ddwyrain am eu gwaith yn ystod yr wythnos ac o flaen llaw yn paratoi’r arddangosfa, a’r stondin yn gyffredinol – gwnaethoch waith gwych! Dyma lun o'r stondin, gyda'r arddangosfa yn y cefndir.

I goroni’r cyfan, enillodd stondin Merched y Wawr Dlws Sefydliad y Merched am y stondin gorau ar faes yr Eisteddfod. Clod ac anrhydedd mawr i ni fel mudiad!
Dyma Gill Griffiths a Hannah Lowe yn derbyn y tlws:

Roedd eleni yn flwyddyn fawr i Mererid Jones, sydd erbyn hyn wedi ei hurddo yn Llywydd Cenedlaethol y Mudiad. Llongyfarchiadau mawr i chi Mererid!
Cafwyd perfformiad graenus gan ferched y De-Ddwyrain ar y llwyfan brynhawn Mercher; roedd yn werth eich gweld! Yna cafwyd seremoni fer o drosglwyddo’r lywyddiaeth drosodd oddi wrth Esyllt Jones i Mererid Jones. Yn hwyrach y prynhawn hynny, cafwyd derbyniad a the urddo’r Llywydd, lle cafodd pawb wydraid o win a chaws, wrth wrando ar berfformiadau gan gangen Beulah a rhanbarth Colwyn i groesawi Mererid i’w swydd newydd. Lansiwyd llyfr Braille gan Bethan Gwanas hefyd brynhawn Mercher. Roedd Pabell y Cymdeithasau yn llawn merched Cymru, ac fe fu’n brynhawn hwylus a llwyddiannus iawn!
Rhan o'r perfformiad ar lwyfan y Brifwyl:

Cor Rhanbarth Colwyn yn cyfarch Mererid:

Fel mudiad rydym hefyd yn ymhyfrydu yn llwyddiant Glenys Roberts, Cangen Y Garth ar ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a hefyd Julia Hawkins, Clwb Gwawr y Fenni ar gael yr anrhydedd haeddiannol o fod yn ddysgwraig y flwyddyn 2010. Cafwyd cyfle i’w croesawu a’u llongyfarch yn ein pabell dydd Gwener. Hefyd llongyfarchiadau i Marged Robinson, Cangen y Fenni ar ennill Cadair y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Sioe Llanelwedd
Bu’r Sioe eleni eto yn un llwyddiannus iawn i’r Mudiad. Bu’r stondin yn brysur iawn, ac roedd arddangosfa Ceredigion, sef cyfres o furluniau yn dehongli awdl y cynhaeaf gan Dic Jones yn werth eu gweld! (Gwler y llun isod)
Llongyfarchiadau mawr i ranbarth Arfon am ennill Cystadleuaeth Cwpan Radi Thomas.
Dyma’r canlyniadau:
Crefft – Creu Tegan
1. Glyn Maelor
2. Aberconwy
3. Maldwyn
Coginio:
1. Meirionnydd
2. Colwyn
3. Penfro a Dwyfor
Ffotograffiaeth
1. Arfon
2. Meirionnydd
3. Ceredigion
Gosod Blodau
1. Caerfyrddin
2. Colwyn
3. Glyn Maelor a Meirionnydd
Llyfr Lloffion
1. Arfon
2. Penfro
3. Colwyn
AR DDIWEDD Y CYSTADLU:
1. Arfon
2. Penfro
3. Colwyn
4. Glyn Maelor
Dyma arddangosfa Arfon, y buddugwyr:

Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth, a chofiwch alw mewn i’n gweld yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd! Cewch baned a ‘welsh cake’!
Sioe Ffasiwn Gŵyl Rhanbarth Maldwyn
Daeth trefnu'r Ŵyl Ranbarth i ran Cangen Merched y Wawr Carno eleni. Gwnaed y penderfyniad cryn flwyddyn yn ôl i ddathlu'r Ŵyl trwy gynnal Sioe Ffasiwn. Yr oedd nifer o gymhellion ac nid y lleiaf ohonynt oedd agoriad Siop Ddillad Ji-binc ym Machynlleth. Yr oedd siopau'r cwmni yn Aberaeron ac Aberystwyth yn edrych yn ffres ac yn fodern ac yr oedd aelodau Carno yn falch o groesawu busnes oedd yn gynhenid Gymraeg a Chymreig.

Bu llawer o ffonio ac e-bostio rhwng Carno ac Aberaeron a llawer o drafod yn y Gangen ac yng nghartrefi’r aelodau. Cynhaliwyd yr Ŵyl Nos Wener y 6ed o Dachwedd o dan cyd-Lywyddiaeth Eleri Williams a Liz Jones. Bu'r aelodau yn paratoi drwy'r dydd. Cyrhaeddodd Rhian Dafydd a'i Staff - a'r dillad i gyd tua pedwar y prynhawn ac o dipyn i beth daeth criw tacluso gwallt a choluro salon Richard Lloyd Machynlleth a'r modelau i gyd i'r fei yn ogystal a Sarah a Myra i gadw trefn ar bethau yn yr ystafell gefn. Yr oedd siom o glywed bod cyflwynydd y noson Huw Rees wedi gorfod torri ei siwrnai rywle yn Ne Powys oherwydd damwain ffordd (i rywun arall) ac y byddai yn hwyr yn cyrraedd a pan ddechreuodd y Sioe Rhian Dafydd ei hun oedd yn sylwebu. Y modelau oedd cyfuniad cyfareddol o ferched Carno, staff swyddfa'r mudiad a dau o ddynion glan Carno sef Eirian Williams a Rhys Davies.

Cyrsiau Crefft y Gwanwyn 2010
![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Cynhaliwyd y cyrsiau crefft eto eleni. Yng Nghanolfan Cywain yn y Bala y cynhaliwyd cwrs crefft y gogledd yn ystod mis Ionawr. Bu pawb wrthi'n brysur iawn yn dysgu sgiliau trefnu blodau, creu cardian a gwaith brodwaith gyda pheiriant. Cafwyd hwyl drwy'r dydd ac roedd y crefftau a grewyd yn werth i'w gweld.
Yn ystod mis Mawrth daeth aelodau'r Mudiad draw i Westy'r Hydd Gwyn, Llandeilo i gwrs crefft y de. Cafwyd diwrnod diddorol yng nghwmni Ruth Jen oedd yn rhanu ei sgiliau paentio gyda'r criw, Donald Morgan a fu'n rhannu syniadau a'i sgiliau arbennig i drefnu blodau. Crewyd cardiau pert iawn gyda Bethan Evans, Abercardabra.
Diolch i bawb am ddod ac i'r trefnwyr hefyd. 'Dy'n ni'n edrych ymlaen at y flwyddyn nesa'n barod!
![]() |





