Mudiad Merched y Wawr
Pwy yw Merched y Wawr?
- Merched o bob oedran.
- Croeso cynnes i ferched sy’n dysgu Cymraeg.
Ble mae’r canghennau?
- Mae dros 250 o ganghennau yng Nghymru – mae cangen neu glwb lleol i chi.
- Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Rhanbarthol neu’r Ganolfan Genedlaethol.
Pryd maen nhw’n cyfarfod?
- Unwaith y mis gan amla.
Beth maen nhw’n wneud?
Pob math o bethau! – Coginio, crefftau, ciniawa, teithio, chwaraeon, darlithiau, helpu elusennau, canu, cwisiau – CHI fydd yn penderfynu
Pam ddylwn i ymuno?
Dyma gyfle i gymdeithasu a gwneud rhywbeth cadarnhaol trwy gyfrwng yGymraeg. Dyma gyfle i hyrwyddo Cymreictod yn eich arda chi a chael hwyl wrth wneud hynny.
Mae Merched y Wawr yn ymgyrchu dros hawliau’r iaith Gymraeg a hawliau merched:
- cyhoeddi cylchgrawn Y Wawr
- wedi sefydlu ysgolion meithrin
- cefnogi yr ymgyrchoedd dros S4C a Deddf Iaith
- coffau’r Dywysoges Gwenllian
- adnewyddu ty i’r anabl yn Nant Gwrtheyrn
- codi arian at gancr y fron
- cefnogi datblygiad cymunedol yn Lesotho
- cefnogi gwragedd fferm Cymru
- tapio casetiau ar gyfer y deillion
- addysgu am warchod ein hamgylchedd
Mae Merched y Wawr yn fudiad gwladgarol