POSTIAD I'R CANGHENNAU A'R CLYBIAU - Chwefror 2013
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflenni/taflenni canlynol:
- Manylion y Daith i Sir Benfro 27 – 29 Mehefin
- Digwyddiadur
- Ryseitiau enghreifftiol ar gyfer Cystadleuaeth Sioe Llanelwedd
Bydd manylion y Penwythnos Preswyl a gynhelir yng Nghaerdydd ym mis Medi gennych yn y dyfodol agos, y dyddiadau fydd 6 - 8 Medi 2013.
CWRS CREFFT Y DE
Cynhelir Cwrs Crefft y De yng Ngwesty’r Hydd Gwyn, Llandeilo,Dydd Sadwrn, 2 Mawrth 2013, rhwng 10 – 4 o’r gloch. Medrwch fynychu un o’r cyrsiau canlynol: Gwneud Bagiau – tiwtoriaid - Esyllt Jones a Monica Evans £15, Gwaith Repousse – tiwtor -Bethan Green £15, Cymorth Cyntaf – tiwtor - Michael Morgan £10. Cost y diwrnod uchod yn cynnwys tâl cofrestru, tâl tiwtoriaid, pecynnau a lleoliad.
Lluniaeth – Paned wrth gyrraedd ac wrth ymadael. Cinio yn cynnwys dewis o Ham, Cyw Iâr neu Lleden gyda sglodion/tatws pôb, pwdin, te/coffi - £9.
Cyfyngir y cyrsiau i 15 aelod y cwrs, felly'r cyntaf i ymateb a gaiff le! I gofrestru, neu am wybodaeth pellach cysylltwch â'r Ganolfan Genedlaethol ar 01970 611 661.
CWRS CREFFT Y GOGLEDD
Oherwydd y tywydd garw, gohiriwyd Cwrs Creff y Gogledd oedd i'w gynnal ar Dydd Sadwrn 19 Ionawr. Bydd dyddiad newydd ar gael yn fuan.
Cynhelir Cwrs Crefft y Gogledd yng Nghanolfan Y Groes Goch, Abergele, Dydd Sadwrn, 19 Ionawr 2013, rhwng 10 - 4 o’r gloch. Medrwch fynychu un o’r cyrsiau canlynol: Cymorth Cyntaf – tiwtor - Dafydd Beech o’r Groes Goch - £25, Gwneud Bagiau - tiwtoriaid - Llinos Roberts a Mary Mars Lloyd £20, Gemwaith - tiwtor - Gaenor Roberts, Cwmni Tlws - £20. Cost y diwrnod uchod yn cynnwys tâl cofrestru, tâl tiwtoriaid, pecynnau a lleoliad.
Cyfyngir y cyrsiau i 15 aelod y cwrs, felly'r cyntaf i ymateb a gaiff le!
Cyfyngir y cyrsiau i 15 aelod y cwrs, felly'r cyntaf i ymateb a gaiff le! I gofrestru, neu am wybodaeth pellach cysylltwch â'r Ganolfan Genedlaethol ar 01970 611 661.
Gwanwyn 2012
Cofiwch am y Daith Feicio lle mae’r arian yn mynd at ‘Weithredu ar Gancr yr Wygelloedd’, ac mae croeso cynnes i chi ymuno ar y daith. Os hoffech noddi, a fyddech mor garedig a dychwelyd y ffurflen i’r swyddfa a gwneud y sieciau’n daladwy i ‘Merched y Wawr’.
Bydd llyfr newydd ‘Merched y Wawr’ ar gael yn y Fedwen Lyfrau ar y 5ed o Fai yn Y Bala. Bydd yn cael ei lawnsio’n swyddogol yn yr Ŵyl Haf ar y 19eg o Fai, ac fe fydd yn cael ei lawnsio eto yn Llyfrgell newydd Aberystwyth ar 29ain o Fai.
Bydd orig yng nghwmni ein Llywydd newydd, Gill Griffiths yn y Babell Lên ar ddiwedd prynhawn dydd Mercher yr 8fed o Awst, ni fydd angen tocynnau arnoch. Ceir rhagor o fanylion am y Seremoni Urddo a’r digwyddiad yma yn y dyfodol agos.
Cliciwch i weld y dogfennau canlynol:
Ffurflen gofrestru Penwythnos Preswyl, Llanbedr Pont Steffan 7 – 9 Medi 2012
Cystadlaethau’r Ffair Aeaf - 26/27 Tachwedd 2012
Ffurflen noddi Taith Feicio 2012 – Yr Arian at ‘Gweithredu ar Gancr yr Wygelloedd’. Bydd croeso i chi ymuno ar y daith, ac mae’r manylion ar gefn y ffurflen. Os hoffech fwy o fanylion cysylltwch â’r swyddfa.
Ffurflen i gofnodi hynt yr adar yn eich blychau nythu. Rhan o gynllun y BTO.
Ffurflen archebu cardiau Nadolig 2012.
Adroddiad Blynyddol 2010-2011
Grŵp Trafod Llyfrau Merched y Wawr
Mae Mudiad Merched y Wawr mewn cydweithrediad â ’r Cyngor Llyfrau wedi sefydlu grwpiau trafod llyfrau Cymraeg. Ar hyn o bryd mae dros 30 o grwpiau wedi cychwyn ledled Cymru yn darllen a thrafod Llyfr y Mis. Fel Mudiad sy’n hyrwyddo addysg a diwylliant i ferched Cymru teimlwn ni hi’n ddyletswydd i hybu llenyddiaeth Gymraeg a rhoi cyfle i’n haelodau fwynhau darllen a thrafod llyfrau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Blagurodd y syniad yma wrth i Mererid Jones, ein Llywydd Cenedlaethol ddewis y thema ‘Geiriau’ am y flwyddyn 2011, ac mae’n gyffrous gweld cynifer o ferched yn mwynhau cael trafodaeth fywiog ar draws Cymru. Wedi esblygu o’r syniad gwreiddiol, mae nifer o brosiectau cyffrous eraill ar y gweill, gan gynnwys, Tlws y Llenor a Thlws y Dysgwr yn yr Ŵyl Haf; prosiect casglu enwau; cwrs ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd; cyhoeddi llyfr ar y Mudiad a Sodlau’n Siarad.
Os ydych am ffurfio grŵp darllen a fyddech mor garedig â chysylltu â Chanolfan Genedlaethol Merched y Wawr er mwyn cofrestru eich grŵp ac er mwyn i ni anfon manylion pellach atoch. Mae gan y Cyngor Llyfrau syniadau a chynghorion ar eu gwefan. Gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau yma i fynd i’r manylion ... Cyngor Llyfrau, yna teipio “Grwpiau darllen”, derbyn, yna ar y dde fe welwch y geiriad ‘Rhannu’r Wefr’ cliciwch ar hwn ac fe gewch weld dogfen 28 tudalen llawn syniadau. Os nad oes gennych gyswllt a’r we ac y dymunwch gael copi caled – ffoniwch ni yn y swyddfa 01970 611 661.
Nofel y Mis - Gorffennaf 2012 Nofel y Mis - Awst 2012 Ras Olaf Harri Selwyn gan Tony Bianchi Nofel y Mis - Medi 2012 Y Groes Naidd gan Lynn Jones a Melfyn Hopkins Nofel y Mis - Hydref 2012 Llwch yn yr Haul gan Marlyn Samuel ISBN: 9780860742821 (0860742822) Gwasg Gwynedd Nofel y mis - Tachwedd 2012 Dawns Canol Dydd gan John Gruffydd Jones
Cig a Gwaed gan Dewi Prysor |