Y Ganolfan Genedlaethol

Eisiau llogi ystafell yn Aberystwyth?... cliciwch yma...

Gwireddwyd breuddwyd yn y flwyddyn 2000 pan fuddsoddodd y mudiad mewn canolfan yn Aberystwyth.  Prynwyd yr hyn a oedd yn ganolfan Urdd Sant Ioan a’r Groes Goch yn flaenorol, a chyn hynny yn gapel o dan ofal y Parch Aseriah Shadrach.

Agorwyd ar Fawrth 1af 2000 gan Marged Jones ein Llywydd Anrhydeddus yng nghwmni Sylwen Lloyd Davies y Llywydd presennol.

Y Ganolfan Genedlaethol

Cafwyd Cyngerdd agoriadol a gwahoddwyd cynrychiolwyr o’r mudiad ynghyd a gwesteion eraill i ymuno gyda ni.

Marged Jones yn Cyflwyno Cloc ir Ganolfan GenedlaetholBanner Penfro
Marged Jones yn Cyflwyno Cloc i'r Ganolfan GenedlaetholMae pob rhanbarth yn arddangos baner yn y ganolfan

 

Erbyn hyn y mae yn adnodd cymunedol ac yn adeilad a ddefnyddir yn rheolaidd gan 50 o sefydliadau a mudiadau. Mae yna Ystafell Gynhadledd ac Ystafell Weithgareddau, lolfa, cegin bwrpasol a gardd fechan gymunedol.  Mae lluniaeth lleol ar gael am bris rheymol.  Mynediad i’r anabl a lifft i fyny i’r llawr cyntaf.

Ystafell GynhadleddGegin

 

Mae yn lle delfrydol i gynnal digwyddiad, cyfarfod neu barti. 

Ystafell Gynhadledd


Prisiau

Gellwch logi ystafell am cyn lleied a £10.00 am fore, prynhawn neu noson.

Adnoddau: teledu a fideo, byrddau gwynion, bwrdd du, teganau i blant, cyfrifidur, llun-gopiwr,  offer cyfieithu, meicroffon, uwchdaflunydd, taflunydd a llawer iawn mwy.

Gallwch ymlacio yn yr ardd fechan gymunedol a wnaethpwyd o dan gynllun ymddiriedolaeth y tywysog.

Yr ArddYr Ardd

 

'Yn y Ganolfan Genedlaethol fe gewch groeso cynnes a gwasanaeth derbynnydd, cewch eich croesawu gan Delyth neu Jayne, ac yn aml iawn mi fydd Tegwen neu Miriam swyddog cyllid y mudiad hefyd yn gweithio yn y swyddfa ac fe gewch wasanaeth penigamp gan y gofalwr Mr. Brian Ishmael.

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.