Mudiad Cenedlaethol i Ferched Cymru
Croeso i'n gwefan....

CWRS PRESWYL YSGRIFENNU CREADIGOL
Cynhelir Cwrs Preswyl ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ty Newydd ar Ddydd Sadwrn 14eg a Dydd Sul y 15fed 2012.
- Thema: Sgwennu o brofiad.
- Tiwtor: Manon Rhys
- Nos Sadwrn bydd Eigra Lewis Roberts yn ymuno i sgwrsio gyda Manon Rhys
- Cwrs anffurfiol a chyfeillgar i ddatblygu doniau a syniadau aelodau Merched y Wawr yn y grefft o ysgrifennu yn greadigol.
- Bydd angen cyrraedd Tŷ Newydd yn brydlon erbyn 1.00 o’r gloch dydd Sadwrn er mwyn dod i adnabod ein gilydd cyn cychwyn y cwrs am 2.00 o’r gloch.
- Bydd y cwrs yn gorffen erbyn 4.00 prynhawn Sul.
- PRIS: PRESWYL: £120 (ystafell sengl) £100 (rhannu stafell) Di-breswyl £75
- Pris mynediad i’r rhai fydd ond yn dod nos Sadwrn yn unig i’r noson yng nghwmni Eigra Lewis Roberts: £3 y pen
- Dim ond lle i nifer cyfyngedig fydd ar y cwrs felly i sicrhau lle neu i archebu tocynnau ar gyfer y nos Sadwrn, ffoniwch 01766 522811 neu anfonwch e-bost i post@tynewydd.org
Cyrsiau Crefft 2012
Cynhaliwyd Cwrs Crefft y Gogledd ar 21 Ionawr yn y Bala. Bu 10 aelod yn gwneud blychau adar o dan gyfarwyddyd Kelvin Jones, a 14 aelod yn gwneud cyfareddwyr. Tiwtor y cwrs hwn oedd Ela Jones.

Cynhelir Cwrs Crefft y De ar Fawrth y 3ydd yn Llandeilo. Am fanylion pellach a ffurflen gofrestru cliciwch yma. Ffurflen gofrestru'r Cwrs Crefft y De ...
Swyddog Datblygu Y De-Ddwyrain a De Powys
Rydym yn chwilio am aelodau o staff egniol a brwdfrydig i weithio fel:
Swyddog Datblygu Y De-Ddwyrain a De Powys(7.3 awr yr wythnos).
Mae’n hanfodol fod yr ymgeisydd yn rhugl yn y Gymraeg ac yn medru gyrru car. Bydd yr ymgeisydd yn gweithio o adref. Graddfa 23-27 (pro rata). Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad Swyddog Datblygu Y De-Ddwyrain a De Powys. Cliciwch yma am gopi o'r ffurflen gais, neu medrwch lenwi'r ffurflen gais electroneg.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Ganolfan Genedlaethol Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1JH swyddfa@merchedywawr.com, rhif ffôn 01970 611 661.
Cystadlaethau Gwyl Haf 2012
Cystadlaethau Adloniant - dyddiad cau Mai 1af
1. Sgets yn seiliedig ar adar neu aderyn - dim mwy na 5 munud
2. Parti canu a/neu lefaru (cyfuniad yn dderbyniol) yn seiliedig ar adar neu aderyn - dim mwy na 5 munud
Un tîm o bob rhanbarth ar gyfer y ddwy gystadleuaeth.Gellir uno canghennau a chlybiau os dymunir.
Tlws y Llenor - dyddiad cau Mawrth 1af
Cystadleuaeth ysgrifenedig
Stori yn seiliedig ar enw lle yng Nghymru (gall fod yn ddychmygol neu ffeithiol) – gwaith gan unigolyn
Crefft - cofrestru ar y dydd
1. Gwneud ac addurno blwch adar
2. “Nant y Mynydd” (unrhyw gyfrwng) e.e. ffotograffiaeth, brodwaith, paentio ayyb
3. Gemwaith (unrhyw gyfrwng)
Cyfansoddi Pennill/Englyn - dyddiad cau Mawrth 1af
Cyfansoddi pennill/englyn a ellir ei ddefnyddio mewn cerdyn Nadolig y mudiad (rhaid fod y gwaith yn wreiddiol)
Cystadlaethau Sioe Llanelwedd 2012
Cystadleuaeth Cwpan Radi Thomas2012Pum eitem o grefft i’w beirniadu’n unigol Thema: Mynyddoedd a/neu Llynnoedd Cymru 1. Ffotograffiaeth - un llun dim llai na 7 x 5 wedi/heb ei fowntio/fframio 2. Bag i’w ddefnyddio wrth fynd i grwydro/cerdded ym Mannau Brycheiniog (unrhyw gyfrwng) 3. Eitem yn defnyddio gwlân – gwau, crosio, gwehyddu, brodio gemwaith a.y.y.b. (unrhyw gyfrwng) 4. Trefniant o flodau ffres yn defnyddio neu gynnwys pedol 18 x 18 uchafswm 5. Bara Brith – unrhyw rysait ond heb ddefnyddio burum |
Rhoddir marciau am y pum eitem o grefft yn unig. Ni fydd marciau am lwyfannu na dehongli. Y Babell FlodauThema – Mynyddoedd a/neu Llynnoedd Cymru Rheolau llawn ar gael o'r Ganolfan Genedlaethol a'r Gangen/Clwb. |
Tair cystadleuaeth ar gyfer dysgwyr
Dyma destunau cystadlaethau'r dysgwyr ar gyfer 2012.
1. Lefel Uwch (tua lefel 4) Stori Fer ar y thema adar neu aderyn
2. Lefel ganolradd (tua lefel 3) Llythyr Diolch
3. Lefel isaf (tua lefel 1 a 2) Cerdyn Post
Mae’r cystadlaethau yn agored i bawb sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith.
Mae hawl ymgeisio yn y dair gystadleuaeth.
Nid oes hawl ymgeisio ar gystadleuaeth ar ôl ennill arni, ond caniateir cystadlu ar gystadleuaeth arall.
Bydd y buddugwyr yn derbyn tocyn llyfr a thlws yn yr Ŵyl Haf ym Machynlleth ar 19eg o Fai 2012. Os mai merch fydd yn fuddugol, bydd yn derbyn aelodaeth blwyddyn o Ferched y Wawr.
Danfonwch y ceisiadau i’r cyfeiriad isod erbyn 1af o Fawrth 2012: Cystadleuaeth y Dysgwyr, Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail,Aberystwyth, Ceredigion SY23 1JH
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Genedlaethol ar 01970 611 661 neu swyddfa@merchedywawr.com
Clybiau Gwawr
 | Cyfle i fenywod ifanc i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, fel arfer unwaith y mis mewn tafarn neu glwb. Mae'r mudiad yn cael eu harwain gan yr aelodau ac maent yn darparu cyfle unigryw i chi Cliciwch yma am fwy... |
Prosiect Blychod Adar
Lansiwyd prosiect blychod adar Merched y Wawr gan Kelvin Jones, Swyddog Datblygu Ymddiriedolaeth Adareg Cymru yn ystod Penwythnos Preswyl Bwrlwm a Bantams Bangor. Cliciwch yma am ganllawiau BTO Cymru ...
"Y Wawr" Gaeaf 2011 - Rhifyn 173
 | Mae rhifyn y gaeaf o gylchgrawn Y Wawr wedi cyrraedd y gangen a'r clwb erbyn hyn, ac ar werth mewn nifer o siopau llyfrau Cymraeg. |
Cliciwch yma am delerau hysbysebu Y Wawr ...
Grŵp Trafod Llyfrau Merched y Wawr
Mae Mudiad Merched y Wawr mewn cydweithrediad â ’r Cyngor Llyfrau wedi sefydlu grwpiau trafod llyfrau Cymraeg. Ar hyn o bryd mae dros 30 o grwpiau wedi cychwyn ledled Cymru yn darllen a thrafod Llyfr y Mis. Fel Mudiad sy’n hyrwyddo addysg a diwylliant i ferched Cymru teimlwn ni hi’n ddyletswydd i hybu llenyddiaeth Gymraeg a rhoi cyfle i’n haelodau fwynhau darllen a thrafod llyfrau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Blagurodd y syniad yma wrth i Mererid Jones, ein Llywydd Cenedlaethol ddewis y thema ‘Geiriau’ am y flwyddyn 2011, ac mae’n gyffrous gweld cynifer o ferched yn mwynhau cael trafodaeth fywiog ar draws Cymru. Wedi esblygu o’r syniad gwreiddiol, mae nifer o brosiectau cyffrous eraill ar y gweill, gan gynnwys, Tlws y Llenor a Thlws y Dysgwr yn yr Ŵyl Haf; prosiect casglu enwau; cwrs ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd; cyhoeddi llyfr ar y Mudiad a Sodlau’n Siarad.
Os ydych am ffurfio grŵp darllen a fyddech mor garedig â chysylltu â Chanolfan Genedlaethol Merched y Wawr er mwyn cofrestru eich grŵp ac er mwyn i ni anfon manylion pellach atoch. Mae gan y Cyngor Llyfrau syniadau a chynghorion ar eu gwefan. Gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau yma i fynd i’r manylion ... Cyngor Llyfrau, yna teipio “Grwpiau darllen”, derbyn, yna ar y dde fe welwch y geiriad ‘Rhannu’r Wefr’ cliciwch ar hwn ac fe gewch weld dogfen 28 tudalen llawn syniadau. Os nad oes gennych gyswllt a’r we ac y dymunwch gael copi caled – ffoniwch ni yn y swyddfa 01970 611 661.
Nofel y Mis - Ionawr 2012 Barato - Gwen Pritchard Jones ISBN: 9781907424243 (1907424245) Gwasg y Bwthyn, Caernarfon Nofel mis Chwefror: Yr Alarch Du
|  |
Nofel y Mis - Chwefror 2012 Yr Alarch Du - Rhiannon Wyn ISBN: 9781847713612 (1847713610) Gwasg Y Lolfa, Tal-y-bont
|  |
Cwis Hwyl Cenedlaethol
Cynhaliwyd ein Cwis Hwyl Cenedlaethol mewn 13 o leoliadau ar draws Cymru ar nos Wener 18 Tachwedd 2011, gyda 230 o dimau yn cymryd rhan. Roedd y cwestiynau ar y themau canlynol: (1) Hanes Cymru; (2) Merched; (3) Y Mudiad, Bwyd a Chwaraeon (4) Sefydliadau Cymru.
Llongyfarchiadau i'r canlynol am ddod i'r brig:
1af: Penrhosgarnedd 1, Rhanbarth Arfon gyda 73 o farciau. Aelodau'r tim: Rhianwen Huws Roberts, Cynthia Owen, Lis Jones a Sioned Jones
2il: O'r Gwter, Y Gwter Fawr, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg gyda 72 o farciau (ac ennill y cwestiwn datglwm). Aelodau'r Tim: Mair Thomas,Sarah Hopkin, Meiriona Jones a Mary Jones.
3ydd: Cangen Bro Ilar B, Rhanbarth Ceredigion gyda 72 o farciau. Aelodau'r tim: Ada Evans, Jane Edwards, Jean Evans, Siân Lewis.
Am weld y canlyniadau yn llawn cliciwch yma
Chwaraeon Cenedlaethol Merched y Wawr
Cliciwch yma i lawrlwytho'r rheolau ...
Taflen Farchnata Merched y Wawr
cliciwch yma...
Digwyddiadur 2012
Ionawr 21ain: Cwrs Crefft y Gogledd yn Plas yn Dre Bala
Chwefror 4ydd: Is-bwyllgorau Cenedlaethol
Chwefror 18fed: Pwyllgor Rhyngranbarthol
Mawrth 3ydd: Cwrs Crefft y De yn Yr Hydd Gwyn, Llandeilo
Mawrth 17eg: Cinio'r Llywydd yn y Gogledd, Kinmel Manor, Abergele
Mawrth 24ain: Cinio'r Llywydd yn y De, Hanner Ffordd Nantgaredig
Mai 12fed: Gŵyl y Pum Rhanbarth
Mai 19eg: Gŵyl Haf, Cyfarfod Blynyddol a Chwaraeon
Mehefin 4-9: Eisteddfod yr Urdd - Eryri
Gorffennaf 23-2: 6 Sioe Llanelwedd - Brycheiniog
Awst 4-11: Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg
Medi 7-9: Penwythnos Preswyl yn Llanbedr Pont Steffan
Hydref 6ed: Is-bwyllgorau Cenedlaethol
Hydref 20fed: Pwyllgor Rhyngranbarthol
Tachwedd 16eg: Cwis Cenedlaethol
Tachwedd 26-27: Ffair Aeaf
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg


Cliciwch yma am fwy...
Ymgyrch ‘Mae Gen ti Ddewis’

PROSIECT HANES LLAFAR MENYWOD YNG NGHYMRU 1920-1960
Cliciwch yma am fwy...
Nwyddau Merched Y Wawr
Nwyddau i'w prynu yng ngweithgareddau Merched y Wawr neu oddi wrth eich Swyddog Datblygu ...
am fwy cliciwch yma....
CYFANSODDIAD MERCHED Y WAWR
Cyfansoddiad Merched y Wawr
am fwy cliciwch yma....
ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR
Adroddiad Blynyddol Merched y Wawr
am fwy cliciwch yma ....
CYNLLUN CORFFORAETHOL
Cynllun Corfforaethol 2008 – 2011
am fwy cliciwch yma ...
Logo Merched y Wawr
Am logo'r Mudiad, cliciwch yma...