Kitty Roberts Caernarfon
Cerddai i lawr Stryd Llyn, Caernarfon yn fân ac yn fuan. Gwisgai sodlau main a dillad ffasiynol. Gyda gwên ar ei genau arhosai i siarad efo hwn a’r llall. Er fod ei gwallt yn donnau taclus, fel pob dydd Iau arall ers ugain mlynedd aeth i mewn i gael sét yn siop Cameo. Hawdd fuasai meddwl ei bod tua 66 oed, ond rhaid troi y rhifai â’u pennau i lawr gan fod Kitty Roberts wedi dathlu ei phenblwydd yn 99 oed fis Rhagfyr!
CYMDEITHASAU
Ni fydd yn colli’r un oedfa yn Seilo gan gynnwys y Seiat, Cymdeithas y Merched a’r Gymdeithas Lenyddol. Mae’n aelod o “Taro i Mewn” ac yn ciniawa yn wythnosol ar ôl y cyfarfod. Os oes cyngerdd neu ddarlith yn y dref mi fydd hi yno a gyda’r nosau caiff ei chludo gan ffrindiau sy’n mwynhau ei chwmni difyr. Ond mae’n wraig annibynnol ac yn aml bydd yn neidio ar ddau neu dri býs i gyrraedd pen ei thaith. Mae croeso i bawb yn ei chartref cysurus a’r sgwrs yn felys.
DYDDIAU CYNNAR
Ganwyd Kitty Roberts yn Nant Peris a chofia deithio gyda char a cheffyl i Lanberis. Roedd y prifathro yn Gymro ardderchog ac yno y cafodd flas ar lenyddiaeth Gymraeg. Ar ôl gadael ysgol ramadeg Brynrefail bu’n gweithio ym Manceinion am gyfnod gan fwynhau dawnsio, mynychu Clwb y Ddraig Goch a Chapel Cymraeg Moss Side. Ond un gwyliau haf daeth John, hogyn ifanc o Lanberis heibio a doedd dim troi’n ôl wedyn. Mae’n dal i drysori’r anrheg cyntaf roddodd iddi sef, Cerddi’r Haf- R.Williams Parry.
Symudodd i Aberystwyth gan fod John yn fyfyriwr yno, lle y cyd-weithiodd yn hapus gyda Dorothy a John Morgan Jones. Bu’n ail gartref iddi am dair blynedd.
GWRAIG GWEINIDOG.
Yn 1939 priododd â’r Parchedig J.D.Roberts a mynd yn syth i’r ofalaeth gyntaf yn Rhydleos ac roedd wrth ei bôdd gyda phobl Pen Llŷn.Yno y ganwyd Buddug a Huw. Symudodd y teulu i Flaenau Ffestiniog yn 1950 ac yna i’r Waunfawr. Bu’n wraig gweinidog weithgar a phoblogaidd am hanner can mlynedd.
MERCHED Y WAWR
Yn 1966 cefnogodd Kitty syniad Mary Vaughan Jones i sefydlu cangen o Ferched y Wawr yng Nghaernarfon.Teithiodd criw o’r Waun ar fýs arbennig nes chwyddodd yr aelodaeth i gant. Yna agorwyd cangen yn y Waunfawr ond parhaodd Mary a Kitty i fod yn aelodau yn y ddau le. Mae pedair o aelodau gwreiddiol Caernarfon yn dal yn selog –Gweneirys Jones, Kitty Roberts, Rhiannon Ellis a Mary Land.
Bu Mrs Roberts yn weithgar gydag aelodau Merched y Wawr yn sefydlu Ysgol Feithrin yn y Waun. Cafwyd sawl bore coffi i hel arian. Ar ôl chwys a llafur agorwyd yr ysgol ar Ddydd Gŵyl Ddewi gyda Marion Iwan yn athrawes ddi-dâl.
Cofia benwythnos breswyl gyntaf y mudiad yn Neuadd Pantycelyn; ni chollodd yr un wedyn tan fu farw ei ffrind Mary Vaughan. Erbyn 1976 roedd Kitty Roberts yn byw yng Nghaernarfon a bu’n llywydd ac ysgrifennydd y gangen.
Yn ystod dathlu’r deugain bu yng Ngŵyl y Pum Rhanbarth ym Mangor, yn nathlu’r rhanbarth yn Llanberis ac yn y Bala wrth gwrs. Wedi Sadwrn hir a phoeth roedd yn y capel wedyn fore Sul.
Y TEULU
Mae wrth ei bodd yn sôn am ei theulu yn cynnwys ei mab Huw fu’n gweithio i’r Cyd-bwyllgor Addysg yng Nghaerdydd, a’i wraig Y Parchedig Lona Roberts. Cafodd ergyd drom pan gollodd ei merch Buddug, yn 52 oed. Ond mae’n mwynhau bod yn nain i chwech a hen nain i wyth yn cynnwys efeilliaid ugain mis oed ymwelodd â hi ar ddydd ei phenblwydd.
Dyma beth ysgrifennodd Nan Parri amdani yn ein Llyfr Lloffion “Dydi hi ddim wedi newid dim ers pan welais hi gyntaf yn nechrau chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Mae ei meddwl yr un mor finiog a’i cherddediad yr un mor sionc.Gallai fod wedi gwerthfawrogi a llwyddo mewn cwrs prifysgol ond chafodd hi mo’r cyfle. Mae’n wraig gyda safonau Cristnogol uchel ond heb gulni.”
CINIO NADOLIG 2008
Wedi’r gwledda yng nghinio Nadolig Merched y Wawr cafodd Kitty Roberts syrpreis pan gyflwynodd Alwena Lewis flodau iddi. Yna cafwyd hwyl yn canu geiriau yn sôn amdani ar yr alaw Milgi Milgi. Dyma bennill:
Ers deugain mlynedd diwyd fu
Fel Merch y Wawr o’r dechrau,
Yn aelod yn Waunfawr a’r Dre,
Yn weithgar gyda’i ffrindiau.
Cytgan.
Kitty Roberts, Kitty Roberts,
Sy’n fythol wyrdd a heini,
Kitty Roberts, Kitty Roberts,
Mae’n naw deg naw eleni.
Margaret Wyn Roberts.