Newyddion 2006
Taith grwp cerdded Merched y Wawr, Pontarddulais
Dyma lun o ferched grwp cerdded Merched y Wawr, Pontarddulais ar eu hymweliad a Prague fis Mai 2006.

(O'r chwith i'r dde) Yn yr hen sgwâr- Delyth Williams, Gwenda Miles, Beth Leyshon, Esyllt Jones, Einir Evans a Eryl Williams.
Dathlu'r Deugain - Digwyddiadau diddorol yn 2006-2007
Mae llu o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu gan Ferched y Wawr i ddathlu deugain mlynedd o fodolaeth y mudiad.
Bydd garddwest yn cael ei chynnal ar brynhawn Sadwrn 16 Medi 2006, bydd croeso cynnes i holl aelodau y mudiad a chyfeillion i ymuno - Rhaid archebu tocynnau o'r Ganolfan Genedlaethol
Cymanfa Ganu yng Nghapel Tegid yn Y Bala ar Ddydd Sadwrn 9fed o Fehefin 2007.
Pasiant gan Aelodau o Ferched y Wawr wedi ei ysgrifennu gan Mair Penri a Nan Lewis hefyd i'w gynnal ar Ddydd Sadwrn 9fed o Fehefin.
Bydd Garddwest yn Plas Newydd Sir Fôn ar ddydd Sadwrn Medi 15fed 2007 - bydd tocynnau ar gael o'r Ganolfan Genedlaethol.
Bydd cynnyrch arbennig ar gael i ddathlu y deugain mlynedd sef plât a llechi a llyfr lliwio. Edrychwch o dan y nwyddau i gael gweld mwy!
Taith Gerdded
Aeth Catrin Stevens ein cyn-lywydd cenedlaethol o amgylch y 14 o ranbarthau a threfnwyd taith gerdded ymhob un o'r lleoliadau godidog. Codwyd llawer iawn o arian at achosion da. Dyma rai o'r aelodau gweithgar a ymunodd ar y daith:-


Sioe Amaethyddol Cymru 2006
Dyma rai lluniau o Sioe Llanelwedd yn dangos y buddugol yng Nghwpan Radi Thomas sef Rhanbarth Ceredigion a dwy o'r aelodau yn derbyn y cwpan gan lysgenhades y Sioe, yn ail yr oedd Rhanbarth Maldwyn Powys ac yn drydedd Rhanbarth Caerfyrddin.
Yna lluniau o'r cyntaf ac ail am osod y blodau lle y daeth Ceredigion yn gyntaf, Caerfyrddin yn ail a Meirionnydd yn drydydd.
Hefyd llun o ferch Mim sydd wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar i roddi trawsblaniad "bone - marrow". Yna llun o aelodau clwb gwawr Glyndŵr yn gweini paned o de ac Elen Pencwm o deledu Bwmerang yn ffilmio ar ein stondin, a llun o Glenys Thomas, Mary Price, Einir Wyn a Andy Misell o Diabetes Cymru yn lansio ein llyfryn newydd "Diabetes eich dewis o fwyd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ysbrydolwyd aelodau'r mudiad gan gyflwyniad arbennig aelodau Merched y Wawr Gorllewin Morgannwg a gynhyrchwyd gan Catrin Stevens ac a noddwyd gan Afon Tinplate, ar lwyfan y brifwyl Dydd Mercher 9fed Awst.
Tywyswyd hwy'n gelfydd iawn ar daith hanesyddol a diwylliannol Merched y Fro. Cyfarfu â menywod cocos Penclawdd, yna merched y gwaith tun, cyn cael eu harwain gan ferched y diwygiad a gorffen y daith addysgiadol gyda gwragedd y glowyr.
Yn dilyn y cyflwyniad urddwyd Mary Price o Fachynlleth yn Lywydd Cenedlaethol Merched y Wawr 2006-2008 - a hynny ar lwyfan y brifwyl am y tro cyntaf yn hanes deugain mlynedd o fodolaeth y mudiad.
Yn hwyrach yn y prynhawn daeth 400 o gyfeillion ynghyd i dderbyniad i longyfarch Mary lle cafwyd cyfle i fwynhau adloniant gan aelodau gweithgar a nifer o ddysgwyr o Sir Drefaldwyn.
Bu bwrlwm gydol yr wythnos ar stondin Merched y Wawr gydag arddangosfa fendigedig ar y thema Pileri, a chroeso arferol efo paned cymorth deg a phicen ar y maen.
Ymweliad â'r Senedd Ewropeaidd
Llun Senedd Ewropeaidd
Ar un o’r ychydig foreau braf ym mis Mai eleni, cychwynnodd 27 o Ferched y Wawr am Frwsel. Trefnwyd y daith i ymweld â’r Senedd Ewropeaidd gan bwyllgor Cangen y Garth ac yn ogystal â’r dwsin o aelodau o Gangen y Garth daeth ffrindiau o ganghennau eraill a rhai o swyddogion cenedlaethol y mudiad.
Cawsom daith hwylus gyda Gareth o gwmni Edwards yn yrrwr gofalus ohonom a pharod ei gymwynas. Treuliwyd y ddwy noson yng ngwlad Belg yn nhref brydferth Bruges (neu Brugge yn yr iaith Fflemeg)ac ar ddydd Mercher Mai 10ed dim ond taith awr oedd gyda ni i ddinas Brwsel. Gwenodd yr haul a chawsom fore hyfryd o grwydro o amgylch canol hynafol yr hen ddinas...ac efallai mai “crwydro” oedd y gair gorau i ddisgrifio hanes hanner dwsin o’r merched – bu bron i’r bws orfod gadael am y Senedd hebddynt am iddyn nhw gamddeall lleoliad y man cyfarfod. Ond â ninnau ar bigau’r drain heb wybod beth i’w wneud, dyma nhw yn rhuthro â’u gwynt yn eu dwrn i fyny’r rhiw am yr Eglwys Gadeiriol. Roedden nhw wedi anelu am eglwys arall!
Yn griw cyflawn, hapus unwaith eto, cyrhaeddom y Senedd ac wedi mynd trwy rigmarol diogelwch aethom i fewn i’r cyntedd ac yno i gwrdd â ni yr oedd Jill Evans, Aelod Plaid Cymru yn Senedd Ewrop ynghyd â Haf Elgar a Sara sydd yn rhedeg ei swyddfa. Bu Jill yn ein hannerch am rhyw hanner awr mewn ystafell seminar gan egluro beth yw gwaith ASE, pa fath o bwyllgorau y mae hi’n eistedd arnynt a sut yr oedd yn rhannu ei gwaith rhwng Cymru a Brwsel. Mae teithio yn rhan annatod o’r swydd gan ei bod yn cynrychioli Cymru gyfan ac yn teithio led-led Cymru pan fydd hi adre yn ogystal â theithio’n wythnosol i Frwsel ac yn ôl. Ar ben hyn, mae’r Senedd yn cyfarfod unwaith y mis yn Strasbourg a rhaid codi pac a mynd â’r holl bapurau, pamphledi ayyb i lawr yno. Eglurodd Jill bod yr holl aelodau o Senedd Ewrop am newid y drefn hon ond gan ei fod yn ysgrifenedig yn y cytundeb gwreiddiol bod 12 cyfarfod y flwyddyn i fod yn Ffrainc, nid yw llywodraeth Ffrainc am ildio er bod yr Undeb Ewropeaidd wedi newid cryn dipyn ers y dyddiau cynnar. Yn dilyn anerchiad Jill, cawsom gyfle i’w holi ac yr oedd y llu cwestiynau yn dangos y diddordeb mawr yn y Sefydliad ac yng ngwaith Jill. Yn wir, gymaint oedd y nifer y cwestiynau, bu raid i ni ddod â’r cyfarfod i ben wedi awr a chwarter gan fod cyfarfod arall gyda Jill ac yr oedd wedi trefnu ffotograffydd i dynnu ein llun ni gyda hi cyn iddi adael. Dilynwyd hyn gan sesiwn gydag un o’r swyddogion Saenseg a aeth â ni i weld y Siambr a diddorol oedd gweld yr holl flychau ar gyfer y cyfieithwyr, ond trist yw nodi nad yw’r Gymraeg eto yn iaith gydnabyddedig yn Senedd Ewrop. Y mae Prif Weinidog Sbaen newydd sicrhau bod Catalaneg, Basgeg a Galisieg yn cael eu cyfrif yn ieithoedd swyddogol gyda chyfieithwyr wrth law i gyfieithu unrhyw araith yn yr ieithoedd hynny. Ond oni wnaiff ein prif-weinidog ni newid ei gân a phledio achos y Gymraeg, ni fydd y Gymraeg yn cael ei chydnabod yn y Siambr. Yn ôl Jill, pan gododd hi’r mater gydag ef, wfftio a wnaeth a thrin ei chwestiwn fel jôc.
Un pwynt arall a godwyd oedd cysylltiad y pedwar Aelod o Gymru â’i gilydd a siom fawr i ni oedd sylweddoli nad ydynt yn cyfarfod fel grŵp Cymraeg trawsbleidiol i godi llais dros Gymru a sicrhau bod sylw yn cael ei roi i Gymru ar wahan i Loegr. Yr ydym fel cangen yn golygu ysgrifennu atynt i bwyso arnynt i roi eu hymlyniad at blaid yn ail i’w hymlyniad dros bledio achos Cymru yn Ewrop.
Wedi prynhawn o ddysgu a thrafod, roedd yn braf cael ymlacio yn nhawelwch camlesi Bruges a mwynhau swper blasus yn un o’r bwytai bach yn y strydoedd hynafol. A chyn ymadael am adre y bore canlynol, rhaid oedd cael un trip bach arall i siopa neu i fynd yn hamddenol mewn cwch ar hyd y camlesi o dan awyr ddigwmwl.
Aeth i tri diwrnod heibio yn rhy gyflym – gwelsom gymaint ac fe wnaethom ddysgu cymaint a mwynhau mas draw...a sylweddoli hefyd mor agos yw tir mawr Ewrop wedi’r cyfan wrth inni gael brecwast yng Nghaerdydd a swper ym Mruges, ac mor bwysig yw hi i ni ddysgu mwy am Ewrop a’i sefydliadau sydd yn cael cymaint o ddylanwad ar y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau.
Cynhelir taith gerdded y rhanbarthau i ddathlu’r deugain ar 14 Gorffennaf 2006. Am fanylion pellach cysylltwch â’r Ganolfan Genedlaethol, eich Swyddog Datblygu neu swyddogion y rhanbarth.
Bydd y canlynol yn bresennol yn y rhanbarthau:
Aberconwy Maureen Hughes, Ysgrifennydd Cenedlaethol
Arfon Rhianwen Huws Roberts, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Caerfyrddin Margarette Huws, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Ceredigion Glenys Thomas, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Colwyn Elinor Davies, Is-Drysorydd Cenedlaethol
De-Ddwyrain Esyllt Jones, Is-lywydd Cenedlaethol
Dwyfor Einir Wyn, Is-ysgrifennydd Cenedlaethol
Glyn Maelor Mair Penri, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Gorllewin Morgannwg Catrin Stevens, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Maldwyn-Powys Mary Price, Llywydd Cenedlaethol
Meirionnydd Marged Jones, Llywydd Anrhydeddus
Sylwen Davies, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Môn Gwyneth Morus Jones, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Penfro Eirlys Peris Davies, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Ras Balŵns - bydd cardiau ar werth yn y teithiau cerdded., gyda’r elw yn mynd tuag at Loches Merched Cymru. Bydd gwobr o £100 i’r balwn sy’n teithio bellaf, a gwobr o £20 i’r person sy’n dychwelyd y balŵn. Bydd y balŵns yn cael eu gollwng yn rhydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar brynhawn dydd Mercher.