Newyddion 2007

Fair Aeaf 2007 - Cynnes tu fewn ac allan

Sioe Aeaf 2007Sioe Aeaf 2007

Wedi’r tywydd gwael adeg y Sioe  yn yr Haf eleni cafodd ymwelwyr i stondin Merched y Wawr yn y Sioe Aeaf ddiwedd mis Tachwedd rywbeth i’w cynhesu yno.    Yn lle te a phice bach ( teisennau cri)  fel arfer, gwydriad o win cynnes (di-alcohol) oedd yr arlwy wrth iddynt edrych ar yr arddangosfa helaeth.  Bu’r cystadlu’n frwd a bron i 200 o addurniadau gogyfer y goeden Nadolig i’w gweld ac roedd pob un yn wahanol, celfydd a lliwgar ac yn wledd i’r llygad .  Yr enillydd oedd Ann Williams o Landeilo, Sir Gaerfyrddin.  I’r gogledd –Pwllheli- yr aeth y wobr am y llyfr lloffion ac eto roedd y cystadlu’n frwd a safon uchel ar y deg ar hugain ymgais.

 


Gŵyl Haf - Machynlleth - Rhialtwch y Rhuddem - 19 Mai 2007

Enillwyr y gystadleuaeth adloniant - Cangen y Parc

Cliciwch yma i weld gweddill y lluniau

Dim ond un o’r cystadleuthau yng Ngwyl Haf Merched y Wawr ym Machynlleth ddydd Sadwrn diwethaf oedd taflu welington goch ond roedd cystadlu brwd a’r enillydd egniol oedd Margaret Davies, Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys.     Rhan o ddathliadau penblwydd y Mudiad yn 40oed oedd taflu’r welington  yn ogystal a chystadleuaeth addurno welington goch , lle cafwyd creadigaethau diddorol amrywiol a chlyfar iawn.  Ar ddechrau’r dydd death cannoedd o ferched ynghyd yn Ysgol Bro Ddyfi i wrando ar anerchiad gan Iona Jones, Prif Weithredwr S4C.  Soniodd hi am y newidiadau ym myd darlledu ac am ddyfodol y sianel- neu sianelau!- a’r her o weithio yn y  cyfryngau heddiw, ac roedd ei neges yn hyderus a chadarnhaol dros barhad a datblygiad  y sianel.

Draw yn y Ganolfan Hamdden roedd cystadlu brwd yn  y chwaraeon  cenedlaethol hefyd gan gynnwys bowlio, tennis bwrdd a dewis dau ddwrn, ac roedd neuadd  yr ysgol yn llawn unwaith eto yn y prynhawn at y gystadleuaeth adloniant ysgafn ar y testun Rhialtwch y Rhuddem ac yna at seremoni gwobrwyo’r dysgwyr.  “Diwrnod o hwyl ac asbri’r dathlu” oedd sylw Tegwen Morris y cyfarwyddwr cenedlaethol, “a nawr edrychwn ymlaen a’r un brwdfrydedd at y Pasiant dathlu yn y Bala ddydd Sadwrn 9ed Mehefin” 

 


Buddugwyr yr Ŵyl Haf 2007

Gwobr Patagonia

Sioned Jones, Cangen Glanrafon am yr erthygl "Dilyn ôl Troed Mary Doladd"

 

Cystadleuaeth Rhaglen y Gangen/Clwb Gwawr

1af       Cangen Deudraeth, Rhanbarth Meirionnydd

2il         Cangen Castell Nedd, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg

2il         Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys

3ydd    Cangen Felinfach, Rhanbarth Ceredigion

 

Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig

Glenys Morgan, Cangen Penrhyncoch, Rhanbarth Ceredigion

Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg

Cwis Hwyl Cenedlaethol

1af       Cangen Bro Radur Rhanbarth y De Ddwyrain

2il         Cangen Llanuwchllyn Rhanbarth Meirionnydd

3ydd    Cangen Sarnau Rhanbarth Meirionnydd

 

Llyfrau Lloffion

1af                   Clwb Gwawr y Gwyniaid, Rhanbarth Meirionnydd

1af                   Cangen Pwllheli, Rhanbarth Dwyfor

2il                     Cangen Abersoch, Rhanbarth Dwyfor

2il                     Cangen Bro Cranogwen, Rhanbarth Ceredigion

3ydd                Cangen Bryneglwys a Llandegla, Rhanbarth Glyn Maelor

clod uchel         Cangen Llandysul, Rhanbarth Ceredigion

clod uchel         Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys

clod uchel         Cangen Llanbedr Pont Steffan, Rhanbarth Ceredigion

clod uchel         Cangen Uwchaled, Rhanbarth Colwyn

Cystadleuaeth Adloniant Gwyneth Evans

1af       Cangen y Parc, Rhanbarth Meirionnydd

2il         Cangen Deudraeth, Rhanbarth Meirionnydd

3ydd    Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn

Addurno Welington Goch

1af       Aeres James, Cangen Trefdraeth, Rhanbarth Penfro

2il         Glenys Morgan, Cangen Penrhyncoch, Rhanbarth Penfro

3ydd    Mary Griffith, Ann Shivlock, Brenda Owen, Beti Rowlands, Cangen Pencaenewydd, Rhanbarth Dwyfor

 

Gyrfa Chwist

1af       Cangen Rhuthun, Rhanbarth Glyn Maelor

2il         Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys

3ydd    Cangen Tegryn A, Rhanbarth Penfro

Bowlio

1af       Cangen Bro Alma, Rhanbarth Caerfyrddin

2il         Cangen Tregaron, Rhanbarth Ceredigion

3ydd    Cangen Crymych, Rhanbarth Penfro

Tenis Bwrdd

1af       Tîm Rhanbarth Glyn Maelor

2il         Cangen Felinfach, Rhanbarth Ceredigion

3ydd    Cangen Llangwm, Rhanbarth Colwyn

Golff

1af       Margaret Jones, Cangen Cemaes, Rhanbarth Môn

2il         Nans Morgan, Cangen Genau’r Glyn, Rhanbarth Ceredigion

3ydd    Ruth Morris, Cangen Bro Ilar, Rhanbarth Ceredigion

 

Badminton

1af       Cangen Dinbych, Rhanbarth Glyn Maelor

2il         Cangen Llanuwchllyn, Rhanbarth Meirionnydd

3ydd    Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys

Taflu Welington Goch

1af       Margaret Davies, Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys

2il         Wendy Hopkins, Cangen Lôn Las, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg

3ydd    Ena Morgan, Cangen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin

Ras Rwystr

1af       Clwb Gwawr Glyndŵr

Dewis Dau Ddwrn

1af       Cangen Beca, Rhanbarth Penfro

2il         Cangen Cylch Aeron, Rhanbarth Ceredigion

3ydd    Cangen Pentrefoelas, Rhanbarth Colwyn

Dominos

1af       Cangen Amlwch, Rhanbarth Môn

2il         Cangen Mynytho, Rhanbarth Dwyfor

3ydd    Cangen Llandeilo, Rhanbarth Caerfyrddin

Dartiau

1af       Cangen Tegryn, Rhanbarth Penfro

2il         Cangen y Foel, Rhanbarth Maldwyn Powys

3ydd    Cangen Llandysul, Rhanbarth Ceredigion

Cystadleuaeth y Dysgwyr - Ysgrifennu Dyddiadur Wythnos ar y Thema 'Dathlu'

1af       Sally Carr

2il         C.A. Jones

3ydd    Margaret Jones-Robinson

 

Cystadleuaeth y Dysgwyr - Sgwrs ar dâp ag aelod o Ferched y Wawr yn trafod unrhyw ddathliad 

1af                   Elinor Joyce Owen

2il                     Geoff Sewell

Cystadleuaeth y Dysgwyr - Poster yn dangos 'Dathlu' ar gyfer y rhai sydd ond megis cychwyn dysgu Cymraeg - wedi derbyn hyd at 100 awr o hyfforddiant

1af       Julia Wilson

2il         Dennis Stephen a Christine Ryder, Mike Dafforne, Lynda Brodie

3ydd    Janet Chester

3ydd    Christina Perry

 


Pasiant y Dathlu Bala 9 Mehefin 2007

Capel Tegid

Wythnos diwethaf gwnaethpwyd mil a mwy o smoothies yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin ond dydd Sadwrn yma sef y 9fed o Fehefin Bala fydd Mecca y Merched. Bydd dros fil ohonynt yn dod i weld Pasiant Dathlu'r Deugain a gynhyrchwyd gan Mair Penri a Nan Lewis ac a berfformir ddwy waith yn Ysgol y Berwyn. Bydd Mary Price y Llywydd Cenedlaethol wrth ei bodd yn croesawi gweddill Cymru i'r Bala i fod yn rhan o Rialtwch y Rhuddem. Wedyn fe aiff yr aelodau ymlaen i Gapel Tegid y Bala i Gymanfa'r Dathlu lle y bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn recordio y digwyddiad hanesyddol yma o dan arweiniad Maureen Hughes a'r Cyfeilydd Nia Morgan. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol Tegwen Morris "Mi fydd yn ddiwrnod bythgofiadwy, cyfle gwych i gymdeithasu a chael gweld gwir dalent yr aelodau gyda chynrychiolwyr o bob rhanbarth yn y cast o bron 300!"

Trefn y Diwrnod

10.55  Croeso i’r Bala gan Mary Price, Llywydd Cenedlaethol

11.00   Pasiant Perfformiad Cyntaf

12.30 Ail Berfformiad y Pasiant

Cyfarwyddwyr - Mair Penri a Nan Lewis

Rheolwr Llwyfan - Penri Jones

Sain a Goleuo - Derek Willams

Côr - Colwyn

Dechreuadau - Meirionnydd

Dawns - Caerfyrddin

Cân Ysgafn - Dwyfor

Sioe Ffasiwn—Môn

Pwnc - Penfro

Noson Lawen - Glyn Maelor

Cerdd Dant - Arfon

Hwiangerdd - Ceredigion

Dosbarth y Dysgwyr - Gorllewin Morgannwg

Y Dyfodol - Maldwyn Powys

Parti Llefaru - Y De-ddwyrain

Côr - Aberconwy

Cydganu Can y Mudiad

Pobl Cyswllt

Ann Rosser a Rita Rosser -  De

Sylwen Davies, Lona Puw a Jane Evans-Gogledd

3.00    Cymanfa Ganu’r Dathlu

Arweinydd : Maureen Hughes

Organydd : Nia Morgan

Llywydd :  Mary Price

Llywydd Anrhydeddus: Marged Lloyd Jones

Unawdwyr - Mair Roberts a Beti Puw Richards

Cyfeilydd - Gwenda Clwyd

Cyflwynir arian y casgliad i gynrychiolwyr o

Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith


 

 

 


Deiseb Ymgyrch Achub Ysgolion Bach Cymru

Llun o aelodau Merched y Wawr yn cyflwyno deiseb ymgyrch diogelu ysgolion bach i Glenys Thomas ein Llywydd Cenedlaethol

 

Llwyddiant, Cydweithio, Lobio, Partneriaeth a Dathlu - dyma rai o'r pwyntiau a drafodwyd ym mhwyllgor rhyngrhanbarthol Cenedlaethol Merched y Wawr dydd Sadwrn 18fed Chwefror.

Gyda'r mudiad ar drothwy dathlu deugain mlynedd - braf iawn ydoedd dathlu llwyddiant gyda chynnydd yn ein haelodaeth ynghyd â chynnydd yn ein grant gan Fwrdd yr Iaith a'r Cyngor Llyfrau. Bydd y grant yma yn ein galluogi i gynhyrchu cylchgrawn "Y Wawr" mewn lliw llawn o fis Mehefin ymlaen.

Mae'n rhyfeddod fod mudiad fel Merched y Wawr erbyn hyn yn cydweithio gyda dros 100 o bartneriaid ac yn cynnal dros dair mil o ddigwyddiadau a chyfarfodydd yn flynyddol.

Credwn yn gryf yn y dywediad "mewn undeb y mae nerth" ac yr ydym fel Merched y Wawr wedi bod yn lobio dros y misoedd diwethaf ar nifer o bynciau gan gynnwys y canlynol:- yr hawl i ddatgan ein Cymreictod ar ffurflen nesaf y cyfrifiad, yr angen am fwy o therapyddion lleferydd Cymraeg a chyrsiau addas ar eu cyfer, stampiau hunan-lynol Cymraeg o'r swyddfa bost, archfarchnadoedd i werthu cynnyrch lleol a Chymreig ac arwyddion dwyieithog o fewn yr archfarchnadoedd a siopau, gwasanaethau Cymraeg gan y banciau a'r ymgyrch i ddiogelu ysgolion bach.

Mae dros 3,000 o bobl eisoes wedi arwyddo y ddeiseb ymgyrch diogelu ysgolion bach ac mi fydd Glenys Thomas ein llywydd cenedlaethol yn cyflwyno'r ddeiseb i'r cynulliad yn fuan.

Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i'r gwyliau cenedlaethol ac yn arbennig i'r Ŵyl Haf a gynhelir ar yr 20fed o Fai ym Machynlleth ar y thema "Iechyd a Ffitrwydd" a Dai Jones Llanilar yn ŵr gwadd - estynnwn groeso cynnes i bawb.


Mae brwdfrydedd a bwrlwm o fewn ein broydd yn adlewyrchiad o'r "wawr"
ffactor sydd hefyd yn bodoli ymysg ein clybiau gwawr bywiog. Mae'r clybiau yn datblygu a thyfu ac yn cynnal nifer cynyddol o ddigwyddiadau ar draws Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Clwb Gwawr neu mewn ymuno yn yr hwyl cysylltwch ar 01970 611 661.

 


Ciniawau Llywydd y De a'r Gogledd

Cinio De 2007

 

Cynhaliwyd Cinio Llywydd y De yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli, ar ddydd Sadwrn 3 Mawrth 2007. Y Siaradwraig wadd oedd y Dr Rosina Davies, a'r Artistiaid gwadd oedd Glesni Fflur a Kiern Carter. Y cyfeilydd oedd Catherine Lodwick.

Cinio'r Gogledd 2007

Cynhaliwyd Cinio Llywydd y Gogledd ar ddydd Sadwrn 10 Mawrth 2007. Y siaradwraig wadd oedd Nerys Jones a’r adloniant gan Rhys Jones, Elin Blake a Meilir Wyn. Cyfeilydd oedd Magwen Pughe.

Mae llwyddiant digwyddiadau cymdeithasol o'r math yn boblogaidd iawn gyda aelodau Merched y Wawr a'r Clybiau Gwawr.

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007

Eisteddfod 2007

Marged Jones, Llywydd Anrhydeddus, Mary Price, Llywydd Cenedlaethol, Tegwen Morris, Cyfarwyddwr ynghyd â chyn lywyddion Cenedlaethol Merched y Wawr yn dathlu'r rhuddem yn Eisteddfod 2007.

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.