ADRODDIAD EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2009
Newyddion 2008
Pwy sydd wedi ennill y £100
Cafodd Cwisiau Cenedlaethol Merched y Wawr eu cynnal ym mhob rhanbarth drwy Gymru gyfan nos Wener 7 Tachwedd 2008, ac er i bawb fynd ati yn ddygn i ateb y cwestiynau dwy gangen a ddaeth i’r brig.
Roedd dros 100 o dimau yn cystadlu yn y cwis drwy Gymru a changen Rhiwlas, Rhanbarth Arfon a Changen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin a ddaeth i’r brig ac ennill y £100.
Cafodd y cwis Cenedlaethol sydd yn rhan bwysig o galendr blynyddol Merched y Wawr ei ail strwythuro eleni gan roi dewis o bedwar ateb i’r timau.
Bron nad oedd y cwis eleni yn efelychu'r cwis deledu poblogaidd ‘Who wants to be a Millionaire’ arwahan i’r ffaith mai can punt oedd ar gyfer yr enillwyr. Roedd y cwis yn cael ei noddi unwaith eto eleni gan y rhanbarthau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Tegwen Morris bod y cwis ar ei newydd wedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol a bod y noson yn y gwahanol ranbarthau wedi bod yn rhai hwyliog dros ben.
“Gwych, noson benigamp! Roeddwn yn cadw cysylltiad gyda’r holl ranbarthau ar y ffôn ac erbyn deg o’r gloch y nos roeddwn yn gwybod pa ganghennau oedd wedi dod i’r brig. Roedd y cwis yn wych a phawb wedi mwynhau.”
“Llongyfarchiadau i Gangen Rhiwlas a Changen Pencader am ddod i’r brig, ac i’r holl ganghennau eraill am gystadlu ac am fwynhau Cwis Cenedlaethol y Mudiad. Mae’n galonogol gweld bod mwy o dimau yn cystadlu bob blwyddyn,” ychwanegodd.
Yn nhîm Cangen Rhiwlas oedd Lynda Jones, Nia Jones, Annes Glyn a Iona Jones ac yn nhîm Pencader oedd Deci Evans, Sali, Sally Jones a Yvonne Griffiths .
Yn drydydd roedd Cangen Bro Ilar, Rhanbarth Ceredigion. Aelodau’r tîm oedd Siân Lewis, Ada Evans, Jean Evans a Jane Edwards.
Ffair Aeaf 2008
Cynhaliwyd y Ffair Aeaf lwyddiannus iawn ar 1-2 Rhagfyr 2008.
Roedd safon gwaith cystadlaethau Merched y Wawr yn arbennig, ac mae’n amlwg bod yr aelodau wedi bod yn brysur iawn yn paratoi’r gwaith.
Eleni roedd y neuadd arddangos yn werth ei gweld gyda nifer o gacennau ffrwythau, ffotograffau a thorchau ar gyfer y Nadolig yn addurno’r lle i gyd, a phawb yn ceisio ac yn gobeithio am y wobr gyntaf.
Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr am sicrhau cystadleuaeth o’r safon uchaf bosibl. Dyma’r canlyniadau:
Cacen Ffrwythau
1af: Ann Owen, Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys
2ail: Eiriola Williams, Cangen Bro Tryweryn, Rhanbarth Meirionnydd
3ydd: Meinir Lloyd Lewis, Cangen Harlech, Rhanbarth Meirionnydd

Torch ar gyfer y Nadolig
1af: Jaqui O’Sullivan, Cangen Llannau’r Tywi, Rhanbarth Caerfyrddin
2ail: Llinos Roberts, Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn
3ydd: Ann Richards, Clwb Gwawr Llangadog, Rhanbarth Caerfyrddin

Ffotograffiaeth – ‘Merched wrth eu gwaith’
1af: Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
2ail: Janice Hughes, Cangen Capel Newydd, Rhanbarth Penfro
3ydd: Bethan Jones, Clwb Gwawr Y Gwyniaid, Rhanbarth Meirionnydd

Gwe Ddarlledu

I wylio clipiau or penwythnos preswyl 2008 cliciwch yma
Gwyl Haf 2008
Mae Geraint Lloyd, Radio Cymru yn cyfaddef nad oes dim yn well na diwrnod o hwyl gyda’r merched a dyma yn union a gafwyd ddydd Sadwrn diwethaf pan ddaeth dros 700 o aelodau a ffrindiau Merched y Wawr ynghyd i’r Ŵyl Haf.
Cynhaliwyd yr ŵyl ym Machynlleth am y drydedd flwyddyn yn olynol a daeth aelodau o ganghennau a chlybiau ar draws Cymru gyfan ynghyd i gystadlu yn y chwaraeon ac i fwynhau pnawn o adloniant yng nghwmni eu cyd-aelodau.
Yn ogystal ag ychydig o golff, badminton, dartiau a llawer mwy cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol.
“Mae’n ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr y mudiad, ac mae pawb wrth eu boddau yn dangos eu sgiliau ym myd y chwaraeon ac ar yr un pryd yn cael y cyfle i glywed datblygiadau’r mudiad yn y cyfarfod,” meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Mudiad.
“Roedd yr Ŵyl Haf eleni yn llwyddiant ysgubol, a mwy o ffrindiau ac aelodau yn mynychu’r ŵyl nag erioed. Yn bendant roedd yr ŵyl yn hwyliog iawn eleni gyda nifer o’r canghennau yn cymryd rhan yng nghystadlaethau’r meim a’r band. Diwrnod bendigedig,” ychwanegodd Tegwen.
Fel rhan o ddigwyddiadau’r diwrnod fe gyflwynwyd gwobr Patagonia i Eiddwen Jones, Cangen Abergele.
“Gofynnwyd i Geraint Lloyd i edrych drwy ôl-rifynnau cylchgrawn Y Wawr eleni a dewis un erthygl a oedd yn denu ei sylw a’i ddiddordeb. Roedd Eiddwen Jones yr enillydd wedi ysgrifennu am daith i bendraw’r byd ac yn ôl a chafodd ei chyflwyno gyda llun o Batagonia sef rhodd gan Gymdeithas Cymraeg y Gaiman i’w gadw am y flwyddyn ynghyd â thystysgrif a rhodd ariannol,” meddai Tegwen Morris.
Daeth y diwrnod i ben a phawb yn ffarwelio ac yn ei throi am adre yn dilyn prynhawn hwyliog. Braf oedd clywed pawb yn canmol yr Ŵyl Haf eleni wedi diwrnod arbennig iawn yn Ysgol a Chanolfan Bro Ddyfi yng nghalon Sir Drefaldwyn.
Dyma restr o fuddugwyr 2008.
Gwobr Patagonia am yr erthygl “I Ben Draw’r Byd ac yn ôl” Rhifyn Haf 2007
Eiddwen Jones, Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn
Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig 2008
Rhian Rees, Cangen Bronant, Rhanbarth Ceredigion
Glenys Williams, Cangen Llanrhaeadr YC, Rhanbarth Glyn Maelor
Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
G Angela Jones, Cangen Llangernyw, Rhanbarth Colwyn
Cwis Hwyl Cenedlaethol
1af: Prentisiaid, Cangen Bro Radur, Rhanbarth Y De-Ddwyrain
Cydradd 2il Cangen Talwrn, Rhanbarth Môn,
Cangen Prestatyn, Rhanbarth Colwyn
Cydradd 3ydd: Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn,
Cangen Aberystwyth A, Rhanbarth Ceredigion
Cangen y Bala, Rhanbarth Meirionnydd
Ffotograffiaeth
1af: Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
2il: Jen Macdonald, Cangen y Garth, Rhanbarth Y De-Ddwyrain
Cydradd 3ydd: Janice Hughes, Cangen Capel Newydd, Rhanbarth Penfro, May Jenkins, Cangen Hwlffordd, Rhanbarth Penfro
Addurno Bag Glas
1af: Mair Davies, Cangen Abergorlech, Rhanbarth Caerfyrddin
2il: Olive Roberts, Cangen Llanfair DC, Rhanbarth Glyn Maelor
3ydd: Cangen Cylch Teifi, Rhanbarth Ceredigion
Cystadleuaeth Meimio unrhyw gân neu hwiangerdd Gymraeg
1af: Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion
2il: Cangen Gorseinon, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
3ydd: Cangen Ffynnon Groes, Rhanbarth Penfro
Cystadleuaeth Band unrhyw ystafell yn y tŷ
1af: Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys
2il: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys
Cydradd 3ydd: Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion, Cangen Y Foel, Rhanbarth Maldwyn Powys
Cystadleuaeth y Dysgwyr
Ysgrifennu Erthygl yn mynegi barn am yr amgylchedd
1af: Flo Brady
2il: Joe Thurman
3ydd: J Michael Williams
Poster ar y thema ‘Amgylchedd’
1af: Julia Wilson
Cydradd 2il: Jane Morgan, Joan Gilbert
Cydradd 3ydd: Annie Ball, Jenny Butler
Sgwrs ar dâp
1af: Elinor Joyce Owen yn sgwrsio gyda Mer Evans
2il: Valerie Owen yn sgwrsio gyda Margaret Môn Griffiths
3ydd: Christine Ryder yn sgwrsio gyda Cath Williams
Dominos
1af: Cangen Bronant, Rhanbarth Ceredigion
2il: Cangen Capel Garmon, Rhanbarth Aberconwy
3ydd: Cangen Beca, Rhanbarth Penfro
Bowlio Dan Do
1af: Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys
2il: Cangen Crymych, Rhanbarth Penfro
3ydd: Cangen Llandudoch, Rhanbarth Penfro
Dartiau
1af: Cangen Llansannan, Rhanbarth Colwyn
2il: Cangen Tegryn 1, Rhanbarth Penfro
3ydd: Cangen Tegryn 2, Rhanbarth Penfro
Badminton
1af: Cangen Dinbych, Rhanbarth Glyn Maelor
2il: Clwb Gwawr y Gwyniaid, Rhanbarth Meirionnydd
3ydd: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn-Powys
Gyrfa Chwist Cymar
1af: Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn
Cydradd 2il: Cangen y Dderi, Rhanbarth Ceredigion
Cangen Wrecsam, Rhanbarth Glyn Maelor
3ydd: Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys
Golff
1af: Margaret Roberts, Cangen Rhydypennau, Rhanbarth Ceredigion
2il: Rhiannon Ingam, Cangen Chwilog, Rhanbarth Dwyfor
3ydd: Mair Jones, Cangen Rhuthun, Rhanbarth Glyn Maelor
Tenis Bwrdd
1af: Tîm Rhanbarth Glyn Maelor
2il: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn-Powys
3ydd: Cangen Llangwm, Rhanbarth Colwyn
Dewis Dau Ddwrn
1af: Clwb Gwawr Glyndŵr, Rhanbarth Maldwyn Powys
2il: Cangen Blaenffos, Rhanbarth Penfro
3ydd: Cangen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin
Cwrs Crefft y Gogledd




C wrs Crefft y De
Cwrs Crefft Sbwng Ffwnci
Cynhaliwyd Cwrs Crefft gwneud gemwaith allan o sbwng ffwnci yn y Ganolfan Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 15 Mawrth 2008.