Dathlu cyhoeddi 175 rhifyn o gylchgrawn "Y Wawr"
![]() |
Ar Fai y 1af cafwyd derbyniad i ddathlu cyhoeddi 175 rhifyn o gylchgrawn "Y Wawr" yng nghanolfan Genedlaethol Merched y Wawr. Roedd yn achlysur o lawenhau, o wrando ar atgofion rhai o'r cyn olygyddion ac edrych ymlaen i'r dyfodol. Gyda'r mudiad yn dathlu 45 mlynedd o fodolaeth hefyd yr wythnos hon a lansio llyfr newydd "Merched y Wawr" mae llawer iawn yn digwydd.
Yn y llun gwelir Janet Evans, Sian Lewis a Rhiannon Parry yn torri y gacen.
Cinio'r Llywydd yn y De
Cynhaliwyd cinio llywydd yn y de ar ddydd Sadwrn 24 Mawrth 2012 yng Ngwesty Hanner Ffordd, Nantgaredig. Y wraig wadd oedd Angharad Mair, a'r adloniant yng ngofal Bois Bro Teifi a Delyth Rees.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Cinio'r Llywydd yn y Gogledd 2012
Cynhaliwyd cinio llywydd yn y gogledd ar ddydd Sadwrn 17 Mawrth 2012 yng Ngwesty Kinmel Manor, Abergele. Y gwr gwadd oedd Ifor ap Glyn, a'r adloniant yng ngofal Geraint Lovgreen.
![]() |
![]() |
![]() |
Cinio'r Llywydd yn y De 2012
Cynhelir cinio'r llywydd yn y de ar ddydd Sadwrn 24 Mawrth yng Ngwesty Hanner Ffordd Nantgaredig. Y siaradwraig wadd yw Angharad Mair, a'r adloniant yng ngofal Bois Bro Teifi.
Cwrs Crefft y De 2012
Cynhaliwyd Cwrs Crefft y De ar Fawrth y 3ydd yn Llandeilo. Bu 14 aelod yn gwneud blychau adar o dan gyfarwyddyd Alun Davies, 10 aelod yn gwneud botwm blodyn o dan gyfarwyddyd Lilwen Thomas, a 14 aelod yn gwneud Gwaith Ffelt a Gwlan. Tiwtoriaid y cwrs hwn oedd Aeres James, a Eiry Ladd Lewis.
![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
![]() | ![]() |

Cwrs Crefft y Gogledd 2012
Cynhaliwyd Cwrs Crefft y Gogledd ar 21 Ionawr yn y Bala. Bu 10 aelod yn gwneud blychau adar o dan gyfarwyddyd Kelvin Jones, a 14 aelod yn gwneud cyfareddwyr. Tiwtor y cwrs hwn oedd Ela Jones.


















