Newyddion
CANLYNIADAU GŴYL HAF 2009
Gwobr Patagonia am yr erthygl “Gwragedd Dewr yn Ushindi” Rhifyn Haf 2008

Helen Jones, Madrid, Sbaen.
Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig 2009

Buddugwyr cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig 2009
Mona Morris, Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn
Shelagh M. Jones, Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion
Sian Foulkes, Cangen Llanfair Caereinion, Rhanbarth Maldwyn Powys
Glenys Morris, Cangen Llangwyryfon, Rhanbarth Ceredigion
Cwis Hwyl Cenedlaethol
Cydradd 1af: Cangen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin
Cangen Rhiwlas, Rhanbarth Arfon
3ydd Cangen Bro Ilar, Rhanbarth Ceredigion
Nwydd Newydd
1af: Ann Richards, Clwb Gwawr Llangadog, Rhanbarth Caerfyrddin
2il: Monica Evans, Cangen Afan, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
3ydd: Esyllt Jones, Cangen Gorseinon, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
Ail-gylchu’r Wawr

Cystadleuaeth crefft – defnyddio ôl-rifynnau o’r Wawr, - buddugol – Llinos Roberts, Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn
1af: Llinos Roberts, Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn
2il: Llinos Roberts, Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn
Cydradd 3ydd: Aeres James, Cangen Trefdraeth, Rhanbarth Penfro
Ann Richards, Clwb Gwawr Llangadog, Rhanbarth Caerfyrddin
Cystadleuaeth Sgets/Cyflwyniad/Cân ‘Bro a Bra’

Cangen y Bryniau, Rhanbarth Ceredigion - buddugwyr cystadleuaeth Adloniant ‘Bro a Bra’
1af: Cangen Y Bryniau, Rhanbarth Ceredigion
2il: Cangen Gorseinon, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
Cangen Llanrhaeadr ym Mochnant, Rhanbarth Maldwyn-Powys
Cydradd 3ydd: Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn
Cangen Y Fenni, Rhanbarth Y De-ddwyrain
Cystadleuaeth Dawnsio Creadigol
1af: Cangen Dinbych a’r Cylch, Rhanbarth Glyn Maelor
Cystadleuaeth y Dysgwyr
Ysgrifennu Dyddiadur wythnos
1af: Flo Brady
Cydradd 2il: Alison Coleman a Sally Carr
Cydradd 3ydd: Fiona Collins a Sue Michaels
Creu cerdyn cyfarch doniol
1af: Susan Cain
2il: Denise Murtha
3ydd: Sheila Roberts
Sgwrs ar dâp

Buddugwyr cystadleuaeth y Dysgwyr – Sgwrs ar dâp
1af: Jackie Jennings yn sgwrsio gyda Cath Williams
2il: Rosemary Smyth yn sgwrsio gyda Cath Williams
3ydd: Shirley Williams yn sgwrsio gyda Rhiannon Davies
Dominos
1af: Cangen Trawsfynydd, Rhanbarth Meirionnydd
2il: Cangen Chwilog, Rhanbarth Dwyfor
3ydd: Cangen Penygroes ‘2’ Rhanbarth Arfon
Bowlio
1af: Cangen Tregaron, Rhanbarth Ceredigion
2il: Cangen Bro Alma, Rhanbarth Caerfyrddin
Dartiau

Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys – buddugwyr Dartiau
1af: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn-Powys
2il: Cangen Tegryn, Rhanbarth Penfro
3ydd: Cangen Trawsfynydd, Rhanbarth Meirionnydd
Badminton
1af: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn-Powys
2il: Cangen Mawddwy, Rhanbarth Meirionnydd
Gyrfa Chwist Cymar

Cangen Llaniestyn, Rhanbarth Dwyfor – buddugwyr Gyrfa Chwist Cymar
1af: Cangen Llaniestyn, Rhanbarth Dwyfor
2il: Cangen Tegryn ‘B’, Rhanbarth Penfro
Cydradd 3ydd: Cangen Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhanbarth Glyn Maelor
Cangen Mynytho, Rhanbarth Dwyfor
Golff

Doreen Jones, Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion – buddugol yng nghystadleuaeth y golff
1af: Doreen Jones, Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion
2il: Rhian Roberts, Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn-Powys
3ydd: Iona Wyn Roberts, Cangen Pwllheli, Rhanbarth Dwyfor
Sboncen
1af: Eryl Thomas, Clwb Gwawr Tanat, Rhanbarth Maldwyn-Powys
2il: Nia Llywelyn, Clwb Gwawr Glyndwr, Rhanbarth Maldwyn-Powys
Sgrabl Cymraeg

Cangen Abersoch, Rhanbarth Dwyfor – buddugwyr y Sgrabl
1af: Cangen Abersoch, Rhanbarth Dwyfor
2ail: Cangen Y Bryniau, Rhanbarth Ceredigion
3ydd: Cangen Felinfach a’r Cylch, Rhanbarth Ceredigion
Tenis Bwrdd

Tim Rhanbarth Glyn Maelor – buddugwyr Tenis Bwrdd
1af: Tîm Rhanbarth Glyn Maelor
2il: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn-Powys
3ydd: Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn-Powys
Dewis Dau Ddwrn

Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn – buddugwyr Dewis Dau Ddwrn
1af: Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn
Cydradd 2il: Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn-Powys
Cangen Cylch Wyre, Rhanbarth Ceredigion

Cyfarfod Blynyddol Merched y Wawr 2009
Cafodd Cwisiau Cenedlaethol Merched y Wawr eu cynnal ym mhob rhanbarth drwy Gymru gyfan nos Wener 7 Tachwedd 2008, ac er i bawb fynd ati yn ddygn i ateb y cwestiynau dwy gangen a ddaeth i’r brig.
Roedd dros 100 o dimau yn cystadlu yn y cwis drwy Gymru a changen Rhiwlas, Rhanbarth Arfon a Changen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin a ddaeth i’r brig ac ennill y £100.
Cafodd y cwis Cenedlaethol sydd yn rhan bwysig o galendr blynyddol Merched y Wawr ei ail strwythuro eleni gan roi dewis o bedwar ateb i’r timau.
Bron nad oedd y cwis eleni yn efelychu'r cwis deledu poblogaidd ‘Who wants to be a Millionaire’ arwahan i’r ffaith mai can punt oedd ar gyfer yr enillwyr. Roedd y cwis yn cael ei noddi unwaith eto eleni gan y rhanbarthau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Tegwen Morris bod y cwis ar ei newydd wedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol a bod y noson yn y gwahanol ranbarthau wedi bod yn rhai hwyliog dros ben.
“Gwych, noson benigamp! Roeddwn yn cadw cysylltiad gyda’r holl ranbarthau ar y ffôn ac erbyn deg o’r gloch y nos roeddwn yn gwybod pa ganghennau oedd wedi dod i’r brig. Roedd y cwis yn wych a phawb wedi mwynhau.”
“Llongyfarchiadau i Gangen Rhiwlas a Changen Pencader am ddod i’r brig, ac i’r holl ganghennau eraill am gystadlu ac am fwynhau Cwis Cenedlaethol y Mudiad. Mae’n galonogol gweld bod mwy o dimau yn cystadlu bob blwyddyn,” ychwanegodd.
Yn nhîm Cangen Rhiwlas oedd Lynda Jones, Nia Jones, Annes Glyn a Iona Jones ac yn nhîm Pencader oedd Deci Evans, Sali, Sally Jones a Yvonne Griffiths .
Yn drydydd roedd Cangen Bro Ilar, Rhanbarth Ceredigion. Aelodau’r tîm oedd Siân Lewis, Ada Evans, Jean Evans a Jane Edwards.
Cynhaliwyd y Ffair Aeaf lwyddiannus iawn ar 1-2 Rhagfyr 2008.
Roedd safon gwaith cystadlaethau Merched y Wawr yn arbennig, ac mae’n amlwg bod yr aelodau wedi bod yn brysur iawn yn paratoi’r gwaith.
Eleni roedd y neuadd arddangos yn werth ei gweld gyda nifer o gacennau ffrwythau, ffotograffau a thorchau ar gyfer y Nadolig yn addurno’r lle i gyd, a phawb yn ceisio ac yn gobeithio am y wobr gyntaf.
Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr am sicrhau cystadleuaeth o’r safon uchaf bosibl. Dyma’r canlyniadau:
Cacen Ffrwythau
1af: Ann Owen, Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys
2ail: Eiriola Williams, Cangen Bro Tryweryn, Rhanbarth Meirionnydd
3ydd: Meinir Lloyd Lewis, Cangen Harlech, Rhanbarth Meirionnydd

Torch ar gyfer y Nadolig
1af: Jaqui O’Sullivan, Cangen Llannau’r Tywi, Rhanbarth Caerfyrddin
2ail: Llinos Roberts, Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn
3ydd: Ann Richards, Clwb Gwawr Llangadog, Rhanbarth Caerfyrddin

Ffotograffiaeth – ‘Merched wrth eu gwaith’
1af: Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
2ail: Janice Hughes, Cangen Capel Newydd, Rhanbarth Penfro
3ydd: Bethan Jones, Clwb Gwawr Y Gwyniaid, Rhanbarth Meirionnydd


I wylio clipiau or penwythnos preswyl 2008 cliciwch yma
Gwyl Haf 2008
Mae Geraint Lloyd, Radio Cymru yn cyfaddef nad oes dim yn well na diwrnod o hwyl gyda’r merched a dyma yn union a gafwyd ddydd Sadwrn diwethaf pan ddaeth dros 700 o aelodau a ffrindiau Merched y Wawr ynghyd i’r Ŵyl Haf.
Cynhaliwyd yr ŵyl ym Machynlleth am y drydedd flwyddyn yn olynol a daeth aelodau o ganghennau a chlybiau ar draws Cymru gyfan ynghyd i gystadlu yn y chwaraeon ac i fwynhau pnawn o adloniant yng nghwmni eu cyd-aelodau.
Yn ogystal ag ychydig o golff, badminton, dartiau a llawer mwy cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol.
“Mae’n ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr y mudiad, ac mae pawb wrth eu boddau yn dangos eu sgiliau ym myd y chwaraeon ac ar yr un pryd yn cael y cyfle i glywed datblygiadau’r mudiad yn y cyfarfod,” meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Mudiad.
“Roedd yr Ŵyl Haf eleni yn llwyddiant ysgubol, a mwy o ffrindiau ac aelodau yn mynychu’r ŵyl nag erioed. Yn bendant roedd yr ŵyl yn hwyliog iawn eleni gyda nifer o’r canghennau yn cymryd rhan yng nghystadlaethau’r meim a’r band. Diwrnod bendigedig,” ychwanegodd Tegwen.
Fel rhan o ddigwyddiadau’r diwrnod fe gyflwynwyd gwobr Patagonia i Eiddwen Jones, Cangen Abergele.
“Gofynnwyd i Geraint Lloyd i edrych drwy ôl-rifynnau cylchgrawn Y Wawr eleni a dewis un erthygl a oedd yn denu ei sylw a’i ddiddordeb. Roedd Eiddwen Jones yr enillydd wedi ysgrifennu am daith i bendraw’r byd ac yn ôl a chafodd ei chyflwyno gyda llun o Batagonia sef rhodd gan Gymdeithas Cymraeg y Gaiman i’w gadw am y flwyddyn ynghyd â thystysgrif a rhodd ariannol,” meddai Tegwen Morris.
Daeth y diwrnod i ben a phawb yn ffarwelio ac yn ei throi am adre yn dilyn prynhawn hwyliog. Braf oedd clywed pawb yn canmol yr Ŵyl Haf eleni wedi diwrnod arbennig iawn yn Ysgol a Chanolfan Bro Ddyfi yng nghalon Sir Drefaldwyn.
Dyma restr o fuddugwyr 2008.
Gwobr Patagonia am yr erthygl “I Ben Draw’r Byd ac yn ôl” Rhifyn Haf 2007
Eiddwen Jones, Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn
Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig 2008
Rhian Rees, Cangen Bronant, Rhanbarth Ceredigion
Glenys Williams, Cangen Llanrhaeadr YC, Rhanbarth Glyn Maelor
Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
G Angela Jones, Cangen Llangernyw, Rhanbarth Colwyn
Cwis Hwyl Cenedlaethol
1af: Prentisiaid, Cangen Bro Radur, Rhanbarth Y De-Ddwyrain
Cydradd 2il Cangen Talwrn, Rhanbarth Môn,
Cangen Prestatyn, Rhanbarth Colwyn
Cydradd 3ydd: Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn,
Cangen Aberystwyth A, Rhanbarth Ceredigion
Cangen y Bala, Rhanbarth Meirionnydd
Ffotograffiaeth
1af: Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
2il: Jen Macdonald, Cangen y Garth, Rhanbarth Y De-Ddwyrain
Cydradd 3ydd: Janice Hughes, Cangen Capel Newydd, Rhanbarth Penfro, May Jenkins, Cangen Hwlffordd, Rhanbarth Penfro
Addurno Bag Glas
1af: Mair Davies, Cangen Abergorlech, Rhanbarth Caerfyrddin
2il: Olive Roberts, Cangen Llanfair DC, Rhanbarth Glyn Maelor
3ydd: Cangen Cylch Teifi, Rhanbarth Ceredigion
Cystadleuaeth Meimio unrhyw gân neu hwiangerdd Gymraeg
1af: Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion
2il: Cangen Gorseinon, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
3ydd: Cangen Ffynnon Groes, Rhanbarth Penfro
Cystadleuaeth Band unrhyw ystafell yn y tŷ
1af: Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys
2il: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys
Cydradd 3ydd: Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion, Cangen Y Foel, Rhanbarth Maldwyn Powys
Cystadleuaeth y Dysgwyr
Ysgrifennu Erthygl yn mynegi barn am yr amgylchedd
1af: Flo Brady
2il: Joe Thurman
3ydd: J Michael Williams
Poster ar y thema ‘Amgylchedd’
1af: Julia Wilson
Cydradd 2il: Jane Morgan, Joan Gilbert
Cydradd 3ydd: Annie Ball, Jenny Butler
Sgwrs ar dâp
1af: Elinor Joyce Owen yn sgwrsio gyda Mer Evans
2il: Valerie Owen yn sgwrsio gyda Margaret Môn Griffiths
3ydd: Christine Ryder yn sgwrsio gyda Cath Williams
Dominos
1af: Cangen Bronant, Rhanbarth Ceredigion
2il: Cangen Capel Garmon, Rhanbarth Aberconwy
3ydd: Cangen Beca, Rhanbarth Penfro
Bowlio Dan Do
1af: Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys
2il: Cangen Crymych, Rhanbarth Penfro
3ydd: Cangen Llandudoch, Rhanbarth Penfro
Dartiau
1af: Cangen Llansannan, Rhanbarth Colwyn
2il: Cangen Tegryn 1, Rhanbarth Penfro
3ydd: Cangen Tegryn 2, Rhanbarth Penfro
Badminton
1af: Cangen Dinbych, Rhanbarth Glyn Maelor
2il: Clwb Gwawr y Gwyniaid, Rhanbarth Meirionnydd
3ydd: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn-Powys
Gyrfa Chwist Cymar
1af: Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn
Cydradd 2il: Cangen y Dderi, Rhanbarth Ceredigion
Cangen Wrecsam, Rhanbarth Glyn Maelor
3ydd: Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys
Golff
1af: Margaret Roberts, Cangen Rhydypennau, Rhanbarth Ceredigion
2il: Rhiannon Ingam, Cangen Chwilog, Rhanbarth Dwyfor
3ydd: Mair Jones, Cangen Rhuthun, Rhanbarth Glyn Maelor
Tenis Bwrdd
1af: Tîm Rhanbarth Glyn Maelor
2il: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn-Powys
3ydd: Cangen Llangwm, Rhanbarth Colwyn
Dewis Dau Ddwrn
1af: Clwb Gwawr Glyndŵr, Rhanbarth Maldwyn Powys
2il: Cangen Blaenffos, Rhanbarth Penfro
3ydd: Cangen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin
Cwrs Crefft y Gogledd




C wrs Crefft y De
Cwrs Crefft Sbwng Ffwnci
Cynhaliwyd Cwrs Crefft gwneud gemwaith allan o sbwng ffwnci yn y Ganolfan Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 15 Mawrth 2008.
Fair Aeaf 2007 - Cynnes tu fewn ac allan
Wedi’r tywydd gwael adeg y Sioe yn yr Haf eleni cafodd ymwelwyr i stondin Merched y Wawr yn y Sioe Aeaf ddiwedd mis Tachwedd rywbeth i’w cynhesu yno. Yn lle te a phice bach ( teisennau cri) fel arfer, gwydriad o win cynnes (di-alcohol) oedd yr arlwy wrth iddynt edrych ar yr arddangosfa helaeth. Bu’r cystadlu’n frwd a bron i 200 o addurniadau gogyfer y goeden Nadolig i’w gweld ac roedd pob un yn wahanol, celfydd a lliwgar ac yn wledd i’r llygad . Yr enillydd oedd Ann Williams o Landeilo, Sir Gaerfyrddin. I’r gogledd –Pwllheli- yr aeth y wobr am y llyfr lloffion ac eto roedd y cystadlu’n frwd a safon uchel ar y deg ar hugain ymgais.
Gŵyl Haf - Machynlleth - Rhialtwch y Rhuddem - 19 Mai 2007

Cliciwch yma i weld gweddill y lluniau
Dim ond un o’r cystadleuthau yng Ngwyl Haf Merched y Wawr ym Machynlleth ddydd Sadwrn diwethaf oedd taflu welington goch ond roedd cystadlu brwd a’r enillydd egniol oedd Margaret Davies, Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys. Rhan o ddathliadau penblwydd y Mudiad yn 40oed oedd taflu’r welington yn ogystal a chystadleuaeth addurno welington goch , lle cafwyd creadigaethau diddorol amrywiol a chlyfar iawn. Ar ddechrau’r dydd death cannoedd o ferched ynghyd yn Ysgol Bro Ddyfi i wrando ar anerchiad gan Iona Jones, Prif Weithredwr S4C. Soniodd hi am y newidiadau ym myd darlledu ac am ddyfodol y sianel- neu sianelau!- a’r her o weithio yn y cyfryngau heddiw, ac roedd ei neges yn hyderus a chadarnhaol dros barhad a datblygiad y sianel.
Draw yn y Ganolfan Hamdden roedd cystadlu brwd yn y chwaraeon cenedlaethol hefyd gan gynnwys bowlio, tennis bwrdd a dewis dau ddwrn, ac roedd neuadd yr ysgol yn llawn unwaith eto yn y prynhawn at y gystadleuaeth adloniant ysgafn ar y testun Rhialtwch y Rhuddem ac yna at seremoni gwobrwyo’r dysgwyr. “Diwrnod o hwyl ac asbri’r dathlu” oedd sylw Tegwen Morris y cyfarwyddwr cenedlaethol, “a nawr edrychwn ymlaen a’r un brwdfrydedd at y Pasiant dathlu yn y Bala ddydd Sadwrn 9ed Mehefin”
Buddugwyr yr Ŵyl Haf 2007
Gwobr Patagonia
Sioned Jones, Cangen Glanrafon am yr erthygl "Dilyn ôl Troed Mary Doladd"
Cystadleuaeth Rhaglen y Gangen/Clwb Gwawr
1af Cangen Deudraeth, Rhanbarth Meirionnydd
2il Cangen Castell Nedd, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
2il Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys
3ydd Cangen Felinfach, Rhanbarth Ceredigion
Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig
Glenys Morgan, Cangen Penrhyncoch, Rhanbarth Ceredigion
Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
Cwis Hwyl Cenedlaethol
1af Cangen Bro Radur Rhanbarth y De Ddwyrain
2il Cangen Llanuwchllyn Rhanbarth Meirionnydd
3ydd Cangen Sarnau Rhanbarth Meirionnydd
Llyfrau Lloffion
1af Clwb Gwawr y Gwyniaid, Rhanbarth Meirionnydd
1af Cangen Pwllheli, Rhanbarth Dwyfor
2il Cangen Abersoch, Rhanbarth Dwyfor
2il Cangen Bro Cranogwen, Rhanbarth Ceredigion
3ydd Cangen Bryneglwys a Llandegla, Rhanbarth Glyn Maelor
clod uchel Cangen Llandysul, Rhanbarth Ceredigion
clod uchel Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys
clod uchel Cangen Llanbedr Pont Steffan, Rhanbarth Ceredigion
clod uchel Cangen Uwchaled, Rhanbarth Colwyn
Cystadleuaeth Adloniant Gwyneth Evans
1af Cangen y Parc, Rhanbarth Meirionnydd
2il Cangen Deudraeth, Rhanbarth Meirionnydd
3ydd Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn
Addurno Welington Goch
1af Aeres James, Cangen Trefdraeth, Rhanbarth Penfro
2il Glenys Morgan, Cangen Penrhyncoch, Rhanbarth Penfro
3ydd Mary Griffith, Ann Shivlock, Brenda Owen, Beti Rowlands, Cangen Pencaenewydd, Rhanbarth Dwyfor
Gyrfa Chwist
1af Cangen Rhuthun, Rhanbarth Glyn Maelor
2il Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys
3ydd Cangen Tegryn A, Rhanbarth Penfro
Bowlio
1af Cangen Bro Alma, Rhanbarth Caerfyrddin
2il Cangen Tregaron, Rhanbarth Ceredigion
3ydd Cangen Crymych, Rhanbarth Penfro
Tenis Bwrdd
1af Tîm Rhanbarth Glyn Maelor
2il Cangen Felinfach, Rhanbarth Ceredigion
3ydd Cangen Llangwm, Rhanbarth Colwyn
Golff
1af Margaret Jones, Cangen Cemaes, Rhanbarth Môn
2il Nans Morgan, Cangen Genau’r Glyn, Rhanbarth Ceredigion
3ydd Ruth Morris, Cangen Bro Ilar, Rhanbarth Ceredigion
Badminton
1af Cangen Dinbych, Rhanbarth Glyn Maelor
2il Cangen Llanuwchllyn, Rhanbarth Meirionnydd
3ydd Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys
Taflu Welington Goch
1af Margaret Davies, Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys
2il Wendy Hopkins, Cangen Lôn Las, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
3ydd Ena Morgan, Cangen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin
Ras Rwystr
1af Clwb Gwawr Glyndŵr
Dewis Dau Ddwrn
1af Cangen Beca, Rhanbarth Penfro
2il Cangen Cylch Aeron, Rhanbarth Ceredigion
3ydd Cangen Pentrefoelas, Rhanbarth Colwyn
Dominos
1af Cangen Amlwch, Rhanbarth Môn
2il Cangen Mynytho, Rhanbarth Dwyfor
3ydd Cangen Llandeilo, Rhanbarth Caerfyrddin
Dartiau
1af Cangen Tegryn, Rhanbarth Penfro
2il Cangen y Foel, Rhanbarth Maldwyn Powys
3ydd Cangen Llandysul, Rhanbarth Ceredigion
Cystadleuaeth y Dysgwyr - Ysgrifennu Dyddiadur Wythnos ar y Thema 'Dathlu'
1af Sally Carr
2il C.A. Jones
3ydd Margaret Jones-Robinson
Cystadleuaeth y Dysgwyr - Sgwrs ar dâp ag aelod o Ferched y Wawr yn trafod unrhyw ddathliad
1af Elinor Joyce Owen
2il Geoff Sewell
Cystadleuaeth y Dysgwyr - Poster yn dangos 'Dathlu' ar gyfer y rhai sydd ond megis cychwyn dysgu Cymraeg - wedi derbyn hyd at 100 awr o hyfforddiant
1af Julia Wilson
2il Dennis Stephen a Christine Ryder, Mike Dafforne, Lynda Brodie
3ydd Janet Chester
3ydd Christina Perry
Pasiant y Dathlu Bala 9 Mehefin 2007

Wythnos diwethaf gwnaethpwyd mil a mwy o smoothies yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin ond dydd Sadwrn yma sef y 9fed o Fehefin Bala fydd Mecca y Merched. Bydd dros fil ohonynt yn dod i weld Pasiant Dathlu'r Deugain a gynhyrchwyd gan Mair Penri a Nan Lewis ac a berfformir ddwy waith yn Ysgol y Berwyn. Bydd Mary Price y Llywydd Cenedlaethol wrth ei bodd yn croesawi gweddill Cymru i'r Bala i fod yn rhan o Rialtwch y Rhuddem. Wedyn fe aiff yr aelodau ymlaen i Gapel Tegid y Bala i Gymanfa'r Dathlu lle y bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn recordio y digwyddiad hanesyddol yma o dan arweiniad Maureen Hughes a'r Cyfeilydd Nia Morgan. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol Tegwen Morris "Mi fydd yn ddiwrnod bythgofiadwy, cyfle gwych i gymdeithasu a chael gweld gwir dalent yr aelodau gyda chynrychiolwyr o bob rhanbarth yn y cast o bron 300!"
Trefn y Diwrnod
10.55 Croeso i’r Bala gan Mary Price, Llywydd Cenedlaethol
11.00 Pasiant Perfformiad Cyntaf
12.30 Ail Berfformiad y Pasiant
Cyfarwyddwyr - Mair Penri a Nan Lewis
Rheolwr Llwyfan - Penri Jones
Sain a Goleuo - Derek Willams
Côr - Colwyn
Dechreuadau - Meirionnydd
Dawns - Caerfyrddin
Cân Ysgafn - Dwyfor
Sioe Ffasiwn—Môn
Pwnc - Penfro
Noson Lawen - Glyn Maelor
Cerdd Dant - Arfon
Hwiangerdd - Ceredigion
Dosbarth y Dysgwyr - Gorllewin Morgannwg
Y Dyfodol - Maldwyn Powys
Parti Llefaru - Y De-ddwyrain
Côr - Aberconwy
Cydganu Can y Mudiad
Pobl Cyswllt
Ann Rosser a Rita Rosser - De
Sylwen Davies, Lona Puw a Jane Evans-Gogledd
3.00 Cymanfa Ganu’r Dathlu
Arweinydd : Maureen Hughes
Organydd : Nia Morgan
Llywydd : Mary Price
Llywydd Anrhydeddus: Marged Lloyd Jones
Unawdwyr - Mair Roberts a Beti Puw Richards
Cyfeilydd - Gwenda Clwyd
Cyflwynir arian y casgliad i gynrychiolwyr o
Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith
Deiseb Ymgyrch Achub Ysgolion Bach Cymru
![]() |
Llwyddiant, Cydweithio, Lobio, Partneriaeth a Dathlu - dyma rai o'r pwyntiau a drafodwyd ym mhwyllgor rhyngrhanbarthol Cenedlaethol Merched y Wawr dydd Sadwrn 18fed Chwefror. Gyda'r mudiad ar drothwy dathlu deugain mlynedd - braf iawn ydoedd dathlu llwyddiant gyda chynnydd yn ein haelodaeth ynghyd â chynnydd yn ein grant gan Fwrdd yr Iaith a'r Cyngor Llyfrau. Bydd y grant yma yn ein galluogi i gynhyrchu cylchgrawn "Y Wawr" mewn lliw llawn o fis Mehefin ymlaen. Mae'n rhyfeddod fod mudiad fel Merched y Wawr erbyn hyn yn cydweithio gyda dros 100 o bartneriaid ac yn cynnal dros dair mil o ddigwyddiadau a chyfarfodydd yn flynyddol. |
Credwn yn gryf yn y dywediad "mewn undeb y mae nerth" ac yr ydym fel Merched y Wawr wedi bod yn lobio dros y misoedd diwethaf ar nifer o bynciau gan gynnwys y canlynol:- yr hawl i ddatgan ein Cymreictod ar ffurflen nesaf y cyfrifiad, yr angen am fwy o therapyddion lleferydd Cymraeg a chyrsiau addas ar eu cyfer, stampiau hunan-lynol Cymraeg o'r swyddfa bost, archfarchnadoedd i werthu cynnyrch lleol a Chymreig ac arwyddion dwyieithog o fewn yr archfarchnadoedd a siopau, gwasanaethau Cymraeg gan y banciau a'r ymgyrch i ddiogelu ysgolion bach.
Mae dros 3,000 o bobl eisoes wedi arwyddo y ddeiseb ymgyrch diogelu ysgolion bach ac mi fydd Glenys Thomas ein llywydd cenedlaethol yn cyflwyno'r ddeiseb i'r cynulliad yn fuan.
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i'r gwyliau cenedlaethol ac yn arbennig i'r Ŵyl Haf a gynhelir ar yr 20fed o Fai ym Machynlleth ar y thema "Iechyd a Ffitrwydd" a Dai Jones Llanilar yn ŵr gwadd - estynnwn groeso cynnes i bawb.
Mae brwdfrydedd a bwrlwm o fewn ein broydd yn adlewyrchiad o'r "wawr"
ffactor sydd hefyd yn bodoli ymysg ein clybiau gwawr bywiog. Mae'r clybiau yn datblygu a thyfu ac yn cynnal nifer cynyddol o ddigwyddiadau ar draws Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Clwb Gwawr neu mewn ymuno yn yr hwyl cysylltwch ar 01970 611 661.
Ciniawau Llywydd y De a'r Gogledd

Cynhaliwyd Cinio Llywydd y De yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli, ar ddydd Sadwrn 3 Mawrth 2007. Y Siaradwraig wadd oedd y Dr Rosina Davies, a'r Artistiaid gwadd oedd Glesni Fflur a Kiern Carter. Y cyfeilydd oedd Catherine Lodwick.

Cynhaliwyd Cinio Llywydd y Gogledd ar ddydd Sadwrn 10 Mawrth 20007. Y siaradwraig wadd oedd Nerys Jones a’r adloniant gan Rhys Jones, Elin Blake a Meilir Wyn. Cyfeilydd oedd Magwen Pughe.
Mae llwyddiant digwyddiadau cymdeithasol o'r math yn boblogaidd iawn gyda aelodau Merched y Wawr a'r Clybiau Gwawr.
Taith grwp cerdded Merched y Wawr, Pontarddulais
Dyma lun o ferched grwp cerdded Merched y Wawr, Pontarddulais ar eu hymweliad a Prague fis Mai 2006.

(O'r chwith i'r dde) Yn yr hen sgwâr- Delyth Williams, Gwenda Miles, Beth Leyshon, Esyllt Jones, Einir Evans a Eryl Williams.
Dathlu'r Deugain - Digwyddiadau diddorol yn 2006-2007
Mae llu o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu gan Ferched y Wawr i ddathlu deugain mlynedd o fodolaeth y mudiad.
Bydd garddwest yn cael ei chynnal ar brynhawn Sadwrn 16 Medi 2006, bydd croeso cynnes i holl aelodau y mudiad a chyfeillion i ymuno - Rhaid archebu tocynnau o'r Ganolfan Genedlaethol
Cymanfa Ganu yng Nghapel Tegid yn Y Bala ar Ddydd Sadwrn 9fed o Fehefin 2007.
Pasiant gan Aelodau o Ferched y Wawr wedi ei ysgrifennu gan Mair Penri a Nan Lewis hefyd i'w gynnal ar Ddydd Sadwrn 9fed o Fehefin.
Bydd Garddwest yn Plas Newydd Sir Fôn ar ddydd Sadwrn Medi 15fed 2007 - bydd tocynnau ar gael o'r Ganolfan Genedlaethol.
Bydd cynnyrch arbennig ar gael i ddathlu y deugain mlynedd sef plât a llechi a llyfr lliwio. Edrychwch o dan y nwyddau i gael gweld mwy!
Taith Gerdded
Aeth Catrin Stevens ein cyn-lywydd cenedlaethol o amgylch y 14 o ranbarthau a threfnwyd taith gerdded ymhob un o'r lleoliadau godidog. Codwyd llawer iawn o arian at achosion da. Dyma rai o'r aelodau gweithgar a ymunodd ar y daith:-


Sioe Amaethyddol Cymru 2006
Dyma rai lluniau o Sioe Llanelwedd yn dangos y buddugol yng Nghwpan Radi Thomas sef Rhanbarth Ceredigion a dwy o'r aelodau yn derbyn y cwpan gan lysgenhades y Sioe, yn ail yr oedd Rhanbarth Maldwyn Powys ac yn drydedd Rhanbarth Caerfyrddin.
Yna lluniau o'r cyntaf ac ail am osod y blodau lle y daeth Ceredigion yn gyntaf, Caerfyrddin yn ail a Meirionnydd yn drydydd.
Hefyd llun o ferch Mim sydd wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar i roddi trawsblaniad "bone - marrow". Yna llun o aelodau clwb gwawr Glyndŵr yn gweini paned o de ac Elen Pencwm o deledu Bwmerang yn ffilmio ar ein stondin, a llun o Glenys Thomas, Mary Price, Einir Wyn a Andy Misell o Diabetes Cymru yn lansio ein llyfryn newydd "Diabetes eich dewis o fwyd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ysbrydolwyd aelodau'r mudiad gan gyflwyniad arbennig aelodau Merched y Wawr Gorllewin Morgannwg a gynhyrchwyd gan Catrin Stevens ac a noddwyd gan Afon Tinplate, ar lwyfan y brifwyl Dydd Mercher 9fed Awst.
Tywyswyd hwy'n gelfydd iawn ar daith hanesyddol a diwylliannol Merched y Fro. Cyfarfu â menywod cocos Penclawdd, yna merched y gwaith tun, cyn cael eu harwain gan ferched y diwygiad a gorffen y daith addysgiadol gyda gwragedd y glowyr.
Yn dilyn y cyflwyniad urddwyd Mary Price o Fachynlleth yn Lywydd Cenedlaethol Merched y Wawr 2006-2008 - a hynny ar lwyfan y brifwyl am y tro cyntaf yn hanes deugain mlynedd o fodolaeth y mudiad.
Yn hwyrach yn y prynhawn daeth 400 o gyfeillion ynghyd i dderbyniad i longyfarch Mary lle cafwyd cyfle i fwynhau adloniant gan aelodau gweithgar a nifer o ddysgwyr o Sir Drefaldwyn.
Bu bwrlwm gydol yr wythnos ar stondin Merched y Wawr gydag arddangosfa fendigedig ar y thema Pileri, a chroeso arferol efo paned cymorth deg a phicen ar y maen.
Ymweliad â'r Senedd Ewropeaidd
Llun Senedd Ewropeaidd
Ar un o’r ychydig foreau braf ym mis Mai eleni, cychwynnodd 27 o Ferched y Wawr am Frwsel. Trefnwyd y daith i ymweld â’r Senedd Ewropeaidd gan bwyllgor Cangen y Garth ac yn ogystal â’r dwsin o aelodau o Gangen y Garth daeth ffrindiau o ganghennau eraill a rhai o swyddogion cenedlaethol y mudiad.
Cawsom daith hwylus gyda Gareth o gwmni Edwards yn yrrwr gofalus ohonom a pharod ei gymwynas. Treuliwyd y ddwy noson yng ngwlad Belg yn nhref brydferth Bruges (neu Brugge yn yr iaith Fflemeg)ac ar ddydd Mercher Mai 10ed dim ond taith awr oedd gyda ni i ddinas Brwsel. Gwenodd yr haul a chawsom fore hyfryd o grwydro o amgylch canol hynafol yr hen ddinas...ac efallai mai “crwydro” oedd y gair gorau i ddisgrifio hanes hanner dwsin o’r merched – bu bron i’r bws orfod gadael am y Senedd hebddynt am iddyn nhw gamddeall lleoliad y man cyfarfod. Ond â ninnau ar bigau’r drain heb wybod beth i’w wneud, dyma nhw yn rhuthro â’u gwynt yn eu dwrn i fyny’r rhiw am yr Eglwys Gadeiriol. Roedden nhw wedi anelu am eglwys arall!
Yn griw cyflawn, hapus unwaith eto, cyrhaeddom y Senedd ac wedi mynd trwy rigmarol diogelwch aethom i fewn i’r cyntedd ac yno i gwrdd â ni yr oedd Jill Evans, Aelod Plaid Cymru yn Senedd Ewrop ynghyd â Haf Elgar a Sara sydd yn rhedeg ei swyddfa. Bu Jill yn ein hannerch am rhyw hanner awr mewn ystafell seminar gan egluro beth yw gwaith ASE, pa fath o bwyllgorau y mae hi’n eistedd arnynt a sut yr oedd yn rhannu ei gwaith rhwng Cymru a Brwsel. Mae teithio yn rhan annatod o’r swydd gan ei bod yn cynrychioli Cymru gyfan ac yn teithio led-led Cymru pan fydd hi adre yn ogystal â theithio’n wythnosol i Frwsel ac yn ôl. Ar ben hyn, mae’r Senedd yn cyfarfod unwaith y mis yn Strasbourg a rhaid codi pac a mynd â’r holl bapurau, pamphledi ayyb i lawr yno. Eglurodd Jill bod yr holl aelodau o Senedd Ewrop am newid y drefn hon ond gan ei fod yn ysgrifenedig yn y cytundeb gwreiddiol bod 12 cyfarfod y flwyddyn i fod yn Ffrainc, nid yw llywodraeth Ffrainc am ildio er bod yr Undeb Ewropeaidd wedi newid cryn dipyn ers y dyddiau cynnar. Yn dilyn anerchiad Jill, cawsom gyfle i’w holi ac yr oedd y llu cwestiynau yn dangos y diddordeb mawr yn y Sefydliad ac yng ngwaith Jill. Yn wir, gymaint oedd y nifer y cwestiynau, bu raid i ni ddod â’r cyfarfod i ben wedi awr a chwarter gan fod cyfarfod arall gyda Jill ac yr oedd wedi trefnu ffotograffydd i dynnu ein llun ni gyda hi cyn iddi adael. Dilynwyd hyn gan sesiwn gydag un o’r swyddogion Saenseg a aeth â ni i weld y Siambr a diddorol oedd gweld yr holl flychau ar gyfer y cyfieithwyr, ond trist yw nodi nad yw’r Gymraeg eto yn iaith gydnabyddedig yn Senedd Ewrop. Y mae Prif Weinidog Sbaen newydd sicrhau bod Catalaneg, Basgeg a Galisieg yn cael eu cyfrif yn ieithoedd swyddogol gyda chyfieithwyr wrth law i gyfieithu unrhyw araith yn yr ieithoedd hynny. Ond oni wnaiff ein prif-weinidog ni newid ei gân a phledio achos y Gymraeg, ni fydd y Gymraeg yn cael ei chydnabod yn y Siambr. Yn ôl Jill, pan gododd hi’r mater gydag ef, wfftio a wnaeth a thrin ei chwestiwn fel jôc.
Un pwynt arall a godwyd oedd cysylltiad y pedwar Aelod o Gymru â’i gilydd a siom fawr i ni oedd sylweddoli nad ydynt yn cyfarfod fel grŵp Cymraeg trawsbleidiol i godi llais dros Gymru a sicrhau bod sylw yn cael ei roi i Gymru ar wahan i Loegr. Yr ydym fel cangen yn golygu ysgrifennu atynt i bwyso arnynt i roi eu hymlyniad at blaid yn ail i’w hymlyniad dros bledio achos Cymru yn Ewrop.
Wedi prynhawn o ddysgu a thrafod, roedd yn braf cael ymlacio yn nhawelwch camlesi Bruges a mwynhau swper blasus yn un o’r bwytai bach yn y strydoedd hynafol. A chyn ymadael am adre y bore canlynol, rhaid oedd cael un trip bach arall i siopa neu i fynd yn hamddenol mewn cwch ar hyd y camlesi o dan awyr ddigwmwl.
Aeth i tri diwrnod heibio yn rhy gyflym – gwelsom gymaint ac fe wnaethom ddysgu cymaint a mwynhau mas draw...a sylweddoli hefyd mor agos yw tir mawr Ewrop wedi’r cyfan wrth inni gael brecwast yng Nghaerdydd a swper ym Mruges, ac mor bwysig yw hi i ni ddysgu mwy am Ewrop a’i sefydliadau sydd yn cael cymaint o ddylanwad ar y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau.
Cynhelir taith gerdded y rhanbarthau i ddathlu’r deugain ar 14 Gorffennaf 2007. Am fanylion pellach cysylltwch â’r Ganolfan Genedlaethol, eich Swyddog Datblygu neu swyddogion y rhanbarth.
Bydd y canlynol yn bresennol yn y rhanbarthau:
Aberconwy Maureen Hughes, Ysgrifennydd Cenedlaethol
Arfon Rhianwen Huws Roberts, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Caerfyrddin Margarette Huws, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Ceredigion Glenys Thomas, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Colwyn Elinor Davies, Is-Drysorydd Cenedlaethol
De-Ddwyrain Esyllt Jones, Is-lywydd Cenedlaethol
Dwyfor Einir Wyn, Is-ysgrifennydd Cenedlaethol
Glyn Maelor Mair Penri, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Gorllewin Morgannwg Catrin Stevens, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Maldwyn-Powys Mary Price, Llywydd Cenedlaethol
Meirionnydd Marged Jones, Llywydd Anrhydeddus
Sylwen Davies, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Môn Gwyneth Morus Jones, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Penfro Eirlys Peris Davies, Cyn-lywydd Cenedlaethol
Ras Balŵns - bydd cardiau ar werth yn y teithiau cerdded., gyda’r elw yn mynd tuag at Loches Merched Cymru. Bydd gwobr o £100 i’r balwn sy’n teithio bellaf, a gwobr o £20 i’r person sy’n dychwelyd y balŵn. Bydd y balŵns yn cael eu gollwng yn rhydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar brynhawn dydd Mercher.
