Newyddion 2011

Ffair Aeaf 2011

seren

Dyma luniau buddugwyr cystadlaethau Merched y Wawr yn y Ffair Aeaf. Diolch i bawb a fu'n cystadlu a llongyfarchiadau i'r canlynol:

Cystadleuaeth Seren unrhyw gyfrwng (24 wedi ymgeisio)

lluniau seren

1af Janet Evans, Cangen Beulah, Rhanbarth Ceredigion

lluniau seren 2

2ail Dilys Richards, Cangen Pen y Bont ar Ogwr, Rhanbarth De Ddwyran.

lluniau seren 3

3ydd Aeres Jones, Cangen Trefdraeth, Rhanbarth Penfro.

 

Cystadleuaeth Briw Fwyd (64 wedi ymgeisio)

1af  Jayne Hughes, Cangen Bro Cennech, Rhanbarth Caerfyrddin.

2ail. Mary Thomas, Cangen Carno, Rhanbarth Maldwyn Powys.

3ydd. Morfudd Thomas, Cangen Bro Tryweryn, Rhanbarth Meirionnydd.

ffair 3

Map unrhyw gyfrwng

ffair aeaf 1

1af. Sally Rees, Cangen y Bryniau, Rhanbarth Ceredigion.

2ail.  Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg.

Cydradd trydydd:

ffair aeaf 2011

Beti May Thomas, Cangen Bro Elfed, Rhanbarth Caerfyrddin.

ffair

Susan Cain, Cangen y Drenewydd, Rhanbarth Maldwyn Powys

Cwrs Crefft y Gogledd 2011

 Cwrs Crefft y Gogledd cwrs siwgr eisin Cwrs crefft - blodau
 cwrs brodio cwrs crefft y gogledd gosod blodau cwrs crefft grwp siwgr eisin

Petai chi fyw nes eich bod yn gant.... mae modd dysgu rhywbeth newydd bob dydd ....

Dyna’n union beth oedd hanes tua 60 o aelodau Merched y Wawr y gogledd yn Betws y Coed dydd Sadwrn. 

Cynhaliwyd Cwrs Crefft hwyliog tu hwnt gydag arbenigwyr sy’n aelodau yn dysgu i ni llu o sgiliau newydd mewn meysydd amrywiol.  Bu Dilys Morgan yn ein dysgu i frodio blodau ar glustogau.  Yna roedd Bet Thomas yn ein symbylu i greu campweithiau allan o siwgr eisin a braf ydoedd gweld pys per a carnations pinc prydferth wedi cael eu llunio erbyn y prynhawn, byddant yn addurn penigamp i unrhyw gagen.  Hefyd roeddem yn ffodus o gael cwmni Nia a Sioned Rowlands i ddysgu gosod blodau ar gyfer y Briodas Fodern.

Cwrs Crefft y De 2011

Cynhaliwyd Cwrs Crefft yr un mor hwyliog yn y De yng Ngwesty'r Hydd Gwyn, Llandeilo ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth 2011. Dilys Morgan bu'n dysgu sut i frodio blodau ar glustogau, Margaret Williams y grefft Siwgr Eisin, ac yn wahanol i'r Gogledd cafwyd cwrs matiau rhacs yng ngofal Aeres James ac Eiry Ladd Lewis.

 cwrs crefft y de 2011 cwrs crefft y de 2 Cwrs crefft y de 2011 3

Cinio'r Llywydd yn y De a'r Gogledd 2011

Cynhaliwyd cinio llywydd yn y gogledd ar ddydd Sadwrn 2 Ebrill 2011 yng ngwesty'r Meifod, Bontnewydd. Y siaradwraig wadd oedd Mari Gwilym, a'r adloniant yng ngofal Robat Arwyn.

cinio'r gogledd 2011

Cynhaliwyd cinio a swper y llywydd yn y de ar ddydd Sadwrn 26 Mawrth yng ngwesty'r Plu, Aberaeron. Y siaradwraig wadd oedd Siân Thomas, a'r adloniant yng ngofal Meinir Heulyn.

Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

ocsiwn

Roedd cyfnod Mercher y Wawr yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011 yn un byrlymus.

Dechrau’r wythnos roedd cyfle i weld Arddangosfa Esgidiau'r Enwogion ger y Brif Fynedfa a chyfle i roi cynnig amdanynt.  Roedd croeso twymgalon ar stondin Merched y Wawr a chyfle i weld yr arddangosfa “Diwydiant, Diwylliant a Dysg”, gyda blodau bendigedig gan Nia Rowlands.  Yna cafwyd cyfle i gael bisged siâp esgid yn ystod agoriad Swyddogol Siop Esgidiau Achub y Plant, gyda Mererid yn cael y cyfle i agor y siop yn swyddogol.

Yn ystod y dydd Sul, sef di wrnod y Teulu roedd yna baentio wynebau, addurno esgidiau, gemau a llawer iawn mwy i’r plant.  Yn y prynhawn cafwyd Sioe Ffasiwn Esgidiau ym Maes D,  gyda’r wasg yn bresennol a llawer o hwyl, diolch i’r modelau a’r rhai a fu’n cynorthwyo.

Hefyd roedd y Clybiau Gwawr yn trefnu Cystadleuaeth Mabolgiamocs a diolch i Nia Llywelyn am yr holl waith a fu’n gysylltiedig â’r digwyddiad a hefyd bu’r wasg yn recordio'r hwyl a braf yw dweud mai tîm y clwb gwawr ddaeth i’r brig.

Yna fore Llun ar stondin Merched y Wawr - cafwyd sesiwn gan Gymru Masnach Deg.  Mae yna goffi sydd yn cael ei dyfu gan gydweithrediad menywod yn unig yn Wganda gan ‘Equal Exchange’ a bu Jennifer yn siarad ar linc fyw gennym ac roedd cyfle i flasu’r te ac i siarad â hi am ei phrofiad.  Amser cinio fe wnaeth Mererid Jones a Tegwen Morris  gynrychioli’r Mudiad yn nerbyniad Masnach a Diwydiant.

Yna dydd Mawrth roedd Sydney Davies (Glyn Ceiriog) yn derbyn Gwobr Syr T. H. Parry Williams.  Cafwyd ymweliad i’n pabell gan Lywydd y Cynulliad Rosemary Butler, a chawsom gyfle gwych i esbonio ychydig am waith ein Mudiad.  Hefyd bu Ruth Marks Comisiynydd Pobl Hyn Cymru draw yn siarad gyda rhai o’r swyddogion, ac fe fynychodd Mererid Jones ddigwyddiad a drefnwyd ganddi.

Cafwyd cyflwyniad gwefreiddiol gan ranbarth Glyn Maelor ar y thema “Cadw’r Ffin” amser cinio dydd Mercher, a oedd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Radio Cymru.  Yn y prynhawn cawsom wahoddiad i dderbyniad Bwrdd yr Iaith, a chafwyd araith gofiadwy gan Meri Huws, a diolchodd yn benodol i Ferched y Wawr am eu gwaith yn y Gymuned ac yn arbennig am eu cefnogaeth a’r lobio effeithiol, Roedd y ddwy ohonom yn falch iawn o fod yn bresennol ac o glywed y ganmoliaeth i’n Mudiad.  Gyda’r hwyr aeth Mererid Jones a Gill Griffiths i gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Roedd dydd Iau yn ddiwrnod cofiadwy iawn gyda’r Wasg yn garedig iawn i weithgarwch “Sodlau’n Siarad” ac am 5.00 yn y Babell Lên cafwyd ocsiwn - Sodlau’n Siarad.  Cawsom ein gwahodd hefyd i gyfarfod y wasg gyda’r prif weinidog Carwyn Jones.   Roedd Bet Thomas Colwyn wedi paratoi dros gant o esgidiau siwgr eisin arbennig iawn i bawb a brynodd bâr o esgidiau’r enwogion ac roedd Heledd Cynwal a Jenny Ogwen yn wirioneddol wych.  Codwyd dros £1,500 ar y noson. Diolch i bawb am fod mor gefnogol ac am wneud yr amrywiol dasgau.

Ar y dydd Gwener fe aethom i gyfarfod Mudiadau Dathlu’r Gymraeg lle’r oedd trafodaeth ddiddorol am ddyfodol S4C a hefyd y BBC, ac fe ddaeth yn amlwg fod angen i ni lythyru eto.  Yna yn y prynhawn fe aethom i ddigwyddiad y Bedwen Lyfrau a oedd yn cael ei gadeirio gan Catrin Stevens lle lansiwyd cyfres ddyddiaduron Hafina Clwyd “Mynd i’r Gwrych”, ac roedd yn fraint cael bod yn bresennol.

Yn ystod y prynhawn cafwyd Mabolgiamocs arall gyda’r Clybiau Gwawr. Diolch hefyd i’r amryw wirfoddolwyr a fu ar ein Stondin ym Maes D. Llongyfarchiadau i Judith Crompton, aelod yng Nghangen Dolgellau am ennill cadair y dysgwyr.

eisteddfod 1

Arddangosfa aelodau Glyn Maelor ym Mhabell Merched y Wawr.

eisteddfod 2

Hybu coffi masnach deg, drwy gysylltu yn fyw ar y we gyda gwraig o Wganda oedd yn ffermio ffa coffi.

eisteddfod 4

Mererid Jones yn agor y Siop Sgidiau yn yr Eisteddfod ar y Sadwrn cyntaf.

eisteddfod 3

Gwenllian Carr Swyddog y Wasg yr Eisteddfod, Tegwen Morris, Jessica Evans Achub y Plant, Mererid Jones ac Eurgain Haf Achub y Plant tu allan i'r Siop Sgidiau.

eisteddfod 5

Llun o'r ocsiwn esgidiau Merched enwog Cymru a gynhaliwyd yn y Babell Lên dydd Iau. Yr arwerthwr oedd Heledd Cynwal yn cael ei chynorthwyo gan Jenny Ogwen. 

eisteddfod 6

Mererid Jones gyda Suzie Horan, y gemydd arian. Prynwyd ei sgidiau gan Mererid yn yr ocsiwn.

eisteddfod 6eisteddfod 7

Sioe Sgidiau a gynhaliwyd ym Maes D dydd Sul yr Eisteddfod.

eisteddfod 8

Catrin Stevens yn Cadeirio cyfarfod i ddathlu cyfraniad a lansio cyfrol olaf y diweddar Hafina Clwyd, "Mynd i'r Gwrych". 

Sioe Llanelwedd

Bu bwrlwm gydol yr wythnos ar stondin Merched y Wawr yn Neuadd Morgannwg. Braf iawn oedd croesawu Kirsty Allsop, cyflwynydd "Location Location" ar Sianel 4 i stondin Merched y Wawr. Bu Kirsty yn cael gwersi gan Llinos Roberts, Llywydd Rhanbarth Colwyn, ar sut i wneud blodau o gelatin. Bydd yn ymddangos ar gyfres newydd Sianel Pedwar yn yr Hydref.

kirsty

Isod gwelir Mererid Jones ein Llywydd Cenedlaethol yn cael cyfweliad gan Nia Roberts ac yn dangos y catalog 'sgidiau enwogion iddi. Yn y cefndir mae rhan o arddangosfa wych Rhanbarthau Dwyfor, Arfon ac Aberconwy ar gyfer y Sioe. Hefyd yn y llun mae Jane, aelod o gangen Tregarth fu'n gyfrifol am gynllunio'r arddangosfa a chyd-lynu'r gwaith. Roedd yr arddangosfa wedi ei selio ar y gwaith casglu enwau caeau a hynny wedi ei gyflwyno mewn gwaith brodwaith amrywiol a pheintiadau sidan cywrain.

mererid

Cafwyd cystadlaethau rhagorol yn adran Merched y Wawr, gyda 12 rhanbarth yn cystadlu am Wobr Radi Thomas. Rhanbarth Penfro oedd yn fuddugol, gyda rhanbarth Gorllewin Morgannwg yn ail, a rhanbarthau Maldwyn Powys ac Arfon yn rhannu’r drydedd wobr.

Dyma'r buddugwyr:

radi thomas

1af Rhanbarth Penfro

radi thomas 1

Ail Rhanbarth Gorllewin Morgannwg

radi thomas 2

Cydradd 3ydd  Rhanbarth Maldwyn Powys.

Cydradd 3ydd Rhanbarth Arfon

Gill Owen o Faldwyn Powys ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth gosod blodau Merched y Wawr ar y thema  “Y Briodas Fodern”, gyda Siân Pugh, Rhanbarth Meirionnydd yn ail, ac Anwen Davies, Rhanbarth Maldwyn Powys yn drydedd.

blodau 1

1af. Gill Owen, Maldwyn, Powys.

blodau 2

2ail.Sian Pugh, Meirionydd.

blodau 3

3ydd Anwen Davies, Maldwyn, Powys.

Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn

 

Llongyfarchiadau i Mererid Jones ar dderbyn tystysgrif cymeradwyaeth yn seremoni gwobrwyo Gwirfoddolwyr y Flwyddyn, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mererid Jones WCVA

Eisteddfod yr Urdd Abertawe a'r Fro 2011

wawrathon

Cafwyd wythnos arbennig iawn yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe a’r Fro gyda Merched y Wawr yn cychwyn yr wythnos  gyda “Wawrathon” - sef cyn-lywyddion y mudiad yn darllen am 12 awr yn y Ganolfan Groeso a CDT.  Roedd pawb wedi mwynhau'r profiad o ddarllen a diolch i bawb a wnaeth gefnogi. 

Yna gwelwyd llywydd y dydd Lowri Morgan yn cyflwyno pâr o drainers a wnaeth wisgo ar daith yr Arctig fel rhan o’r ymgyrch sodlau’n siarad.

Hefyd fe ddaeth Meri Huws Cadeirydd Bwrdd yr Iaith a pâr o esgidiau pinc a Siân Aman hithau a phâr o esgidiau aur - felly edrychwn ymlaen yn fawr i’r Eisteddfod yn Wrecsam lle fydd yr holl esgidiau yma ar werth.

Lowri Morgan a MereridMeri Huws a Mererid

Gydol yr wythnos roedd arddangosfa yn dangos godidogrwydd y Fro a hefyd yn olrhain hanes “Jac  Abertawe” y ci bach arbennig wnaeth arbed bywydau'r plant a oedd yn cwympo i mewn i’r dociau.  Roedd yna fygydau i’w lliwio a chystadleuaeth ddyddiol i ennill ci bach i’r plantos.

Ar y dydd Mercher cafwyd ymweliad gan ferched “Stwnsh” a ddaeth i wneud Smwddis Arbennig Abertawe, a chafwyd derbyniad gwych iddynt a chymorth oddi wrth y Clybiau Gwawr.  Diolch i bawb a ddaeth â chetris inc, esgidiau a ffonau symudol i mewn atom, bydd Achub y Plant yn elwa o’r holl gyfraniadau yma.

stwnsh smwddis

Cyfarfod Blynyddol a'r Wyl Haf 2011

mererid jones

Llwyddiant ysgubol fu Gŵyl Haf Merched y Wawr y Cyfarfod Blynyddol a Chwaraeon Cenedlaethol a gynhaliwyd Dydd Sadwrn 21 Mai 2011 yn Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi. 

Cafwyd cyflwyniad cofiadwy iawn gan Dr. Prydwen Elfed-Owens ac fe soniodd am ddylanwadau gan gynnwys dylanwad “Nora Isaac” arni, ac ar gydweithio, gwirfoddoli a’n Cymunedau.

Cafwyd adroddiad graenus gan y Trysorydd Cenedlaethol Elinor Davies sydd bellach wedi bod yn uwch swyddog am ddeng mlynedd. Roedd y cyfrifydd yn hapus iawn gyda gwaith arbennig  yr holl drysoryddion.

Yn ystod adroddiad  y Llywydd Mererid Jones a’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol Tegwen Morris soniwyd am lwyddiannau niferus y Mudiad yn ystod y deuddeg mis diwethaf, diolchwyd yn arbennig i’r aelodau am ei haelioni ac am ddyfalbarhau i gasglu, esgidiau, cetris inc, ffonau symudol a stampiau.

Yna cyflwynwyd Gwobr Patagonia am Yr Erthygl Orau yn “Y Wawr” i Ddyddiadur Hafina Clwyd gan y beirniad Dr. Prydwen Elfed-Owens ac yna rhoddwyd cyflwyniad i Olygydd Y Wawr o Gyfrol rwymedig o’i chylchgronau i Catrin Stevens.

Cafwyd cyflwyniad hyfryd gydag Esyllt Jones i Ambiwlans Awyr Cymru o bum blanced arbenigol aerohawk.

Yna fe’m gwahoddwyd i’r Gwyliau Cenedlaethol gan y cynrychiolwyr lleol Annette Hughes, Meryl Davies, Llinos Kilfoil a  Mair Price. 

Wedyn roedd Gill Griffiths a Delyth Fletcher beirniaid y rhaglen orau yn hapus iawn gyda’r safon ac fe aeth y brif wobr i “Gangen Bro Cyfeiliog”.

Fe ddaeth  Marian Evans o  Gangen Beulah a Siân Foulkes o Gangen Llanfair Caereinion i’r brig gyda Chynllunio Cerdyn Nadolig a maent ar werth o hyn allan.

Yna cyflwynwyd tarian Heledd Griffiths ynghyd a £100 i Gangen Rhiwlas, Arfon am ddod i’r brig yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol.

Mae’r Chwaraeon Cenedlaethol yn denu cystadlu brwd ar draws Cymru a phencampwyr y cystadlu eleni oedd fel a ganlyn:

cerdyn 1cerdyn 2

Badminton: 1af: Cangen Llanuwchllyn, Rhanbarth Meirionnydd, 2il: Cangen Mawddwy, Rhanbarth Meirionnydd, 3ydd: Cangen Llandysul, Rhanbarth Ceredigion.

Dominos: 1af: Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys, 2il: Cangen Maes y Waen, Rhanbarth Meirionnydd, 3ydd:  Cangen San Clêr, Rhanbarth Caerfyrddin. 

Dewis Dau Ddwrn: 1af: Cangen Llansannan, Rhanbarth Colwyn, 2il: Cangen Blaenffos, Rhanbarth Penfro, 3ydd:  Cangen rhydypennau, Rhanbarth Ceredigion. 

Dartiau: 1af: Clwb Gwawr Criw Cothi, Rhanbarth Caerfyrddin, 2il: Cangen Tegryn, Rhanbarth Penfro, 3ydd: Cangen Bronant, Rhanbarth Ceredigion. 

Bowlio: 1af:  Cangen Tregaron, Rhanbarth Ceredigion, 2il: Cangen Benllech,  Rhanbarth Môn, 3ydd:  Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys. 

Sgrabl: 1af: Cangen Abersoch, Rhanbarh Dwyfor, 2il:  Cangen Felinfach A, 3ydd:    Cangen Llansannan, Rhanbarth Colwyn.

Gyrfa Chwist Cymar: 1af:  Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys, 2il:  Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys, 3ydd:  Cangen Llanuwchllyn, Rhanbarth Meirionnydd.

Tennis Bwrdd: 1af:  Cangen Llangwm A, Rhanbarth Colwyn, 2il: Cangen Llangwm B,  Rhanbarth Colwyn, 3ydd:  Cangen Y Foel, Rhanbarth Maldwyn Powys.

Golff: 1af:  Rhian Roberts,  Cangen Bro Ddyfi, Rhanbarth Maldwyn Powys, 2il: Ruth Morris,  Cangen Bro Ilar, Rhanbarth Ceredigion, 3ydd: Margaret Roberts,  Cangen Rhydypennau, Rhanbarth Ceredigion.

Yna roedd yna ddathlu mawr ar yr adloniant sef  “Cyflwyniad yn seiliedig ar unrhyw lyfr Cymraeg” gyda’r beirniad Mr Elwyn Jones o’r Cyngor Llyfrau yn dewis  Cangen Caerfyrddin, Rhanbarth Caerfyrddin yn cyflwyno “Si Hei Lwli”, gyda changen Deudraeth, Rhanbarth Meirionnydd yn ail, a changen Henllan, Rhanbarth Colwyn yn drydydd.Buddugol Cyflwyniad

 

Cafwyd datganiad hyfryd gan y delynores - Rhiain Bebb ac unawd arbennig gan Tegan Llio Roberts.  Fe aeth Tlws y Llenor i Helen Emanuel Davies, Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion gyda Glenda Jones, Cangen Llanrhaeadr YC, Rhanbarth Glyn Maelor yn ail a Beti Wyn James, Cangen San Clêr, Rhanbarth Caerfyrddin yn drydedd.tlws y llenor

Hefyd yn y Gampfa roedd cystadlaethau crefft arbennig iawn a ddenodd llu o gystadleuwyr ac arddangosfa gwerth chweil - Yn gyntaf yn y Gystadleuaeth Crefft - Map (unrhyw gyfrwng) roedd Sally Rees, Cangen y Bryniau, Rhanbarth Ceredigion gyda Maureen Hughes, Cangen Carmel, Rhanbarth Aberconwy a Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg yn gydradd ail ac Aeres James, Cangen Trefdraeth, Rhanbarth Penfro yn drydedd.  Yna yn y gystadleuaeth Addurno ffrâm roedd  Ann Jones, Cangen Bae Colwyn, Rhanbarth Colwyn yn gyntaf a Sally Rees, Cangen y Bryniau, Rhanbarth Ceredigion yn ail ac Eleri Jones, Cangen Llanelwy,  Rhanbarth Colwyn yn drydydd. Hefyd roedd cystadleuaeth Cynllunio cerdyn i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol yn 150 gyda Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg yn gyntaf, Shelagh Jones, Cangen Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion yn ail a Meriel Davies, Cangen Pontarddulais, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg yn drydedd.

 map ffram cerdyn

Yna fel pinacl ein gweithgarwch gyda Dysgwyr roedd seremoni arbennig yng ngofal Olwen Rhys a diolch arbennig i’r beirniad “Jo Knell” a hoffwn longyfarch yn fawr yr holl ddysgwyr a ymgeisiodd ac yng nghystadleuaeth  “Llythyr” roedd  Elinor Joyce Owen o Cylch Teifi yn fuddugol gyda Christine Ryder yn ail ac Ann Watt yn drydedd.

Gyda’r gystadleuaeth Sgwrs ar dâp ar y thema “Môr” fe ddaeth  Diane Stirling i’r brig gyda Catrin Hughes yn ail a Jane Burtenshaw-Jones yn drydedd.  Yna gyda chystadleuaeth y  Croesair roedd Jane Burtenshaw-Jones o Lanbedr Pont Steffan gyda Diane Dorrell yn ail a Seth Earl yn drydedd. 

Cynnydd Aelodaeth 2011

Cafwyd newyddion bendigedig yn ein Pwyllgor Rhyngranbarthol, fod yna gynnydd yn aelodaeth y Clybiau Gwawr a’r Canghennau  - mae yn braf iawn meddwl fod yna cymaint o fwrlwm a brwdfrydedd.  Mae digwyddiadau'r Mudiad hefyd yn boblogaidd tu hwnt gyda dros 500 o aelodau yn mynychu Ciniawau'r Llywydd yn Ne a Gogledd Cymru, cyrsiau fel gwneud matiau rhacs, blodau ar glustogau a gosod blodau i’r briodas fodern yn hynod o boblogaidd.  Gwelwyd nifer o glybiau Gwawr newydd yn agor gyda Criw Cothi yn denu 24 o aelodau a Clwb Gwawr Angylion Aber yn denu 43 o aelodau. Yn ogystal â hyn mae rhai canghennau a chlybiau wedi denu llu o aelodau newydd. Wrecsam yn denu 16 aelod, Clwb Gwawr Caerdydd 13 aelod,  Cangen Caerdydd 12 aelod, a changen Llangwyryfon 10 aelod. 

cynnydd aelodaeth

 

 

Mererid Jones yn cyflwyno tystysgrif cynnydd aelodaeth y gogledd i Lywydd cangen Wrecsam yng nghinio llywydd y gogledd.

 

 

Mererid Jones yn cyflwyno tystysgrif cynnydd aelodaeth y de i Catrin Champion, Clwb Gwawr Caerdydd.

cynnydd y de

Penwythnos Preswyl 2011 - Bwrlwm a Bantams

Cynhaliwyd un o ddigwyddiadau pwysicaf yng nghalendr Merched y Wawr sef Penwythnos Preswyl yng Ngholeg Prifysgol Bangor.  Y thema eleni oedd “Bwrlwm a Bantams” ac yn wir fe gafwyd llond lle o fwrlwm ac ambell i fantam ar y llwyfan.

Cafwyd orig ddymunol gyda bron 350 yn aros a nifer yn mynychu yn ddyddiol.  Roedd yr adloniant nos Wener yn amrywio o’r digrifwr Tudur Owen i gerddoriaeth arbennig  Seindorf Arian Deiniolen a’r bytholwyrdd John ac Alun a’r band.

Yna fore Sadwrn roedd sêr “Byw yn yr Ardd” sef  Russell Jones yng nghwmni’r ieir a Sioned Rowlands yng nghanol y blodau ac yna daeth y Doctor dail sef Bethan Wyn Jones a fu’n sôn am lysiau a blodau meddyginiaethol. 

russell

Yn y prynhawn fe ymlwybrwyd i Fetws y Coed, Bangor, Dinorwig, Llanberis a cheisiwyd mynd i fyny’r Wyddfa, ond bu’r tywydd yn drech na’r trên a rhaid oedd troi yn ôl yn fuan wedi gadael yr orsaf! Ond cafodd pawb brynhawn o fwynhad yng Ngogledd Cymru ac wedi dychwelyd cafwyd cyfle i edrych ar yr amrywiol stondinau oedd yn cynnwys Tlws, Pontio, cardiau a So Chic. 

Gyda’r hwyr cafwyd  noson yng nghwmni Da Capo gyda Cefin a Rhian Roberts yn arwain y noson yn hwyliog.  Cychwynnwyd y bore Sul gyda Kelvin Jones o Ymddiriedolaeth Adareg Cymru a ddaeth i lansio cynllun newydd i gael yr aelodau i greu blychau nythu i adar a chofnodi eu presenoldeb.  Yna cafwyd gwasanaeth yng ngofal Swyddogion Rhanbarth Colwyn ar y thema “Gardd Duw”.  Yna cafwyd orig i ddysgu am  Ferched mewn Busnes gyda Daloni Metcalfe yng nghwmni Gaenor Roberts, Cwmni Tlws ac Ela Jones, Cwmni Cwlwm.  Wedyn cafwyd Blwyddyn Gron sef aelodau Clera (Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru) yn cyflwyno portread o flwyddyn yn hanes y werin bobl drwy gyfrwng cân a dawns ac offeryn.

penwythnos preswyl

Hefyd ar y bore Sadwrn cafwyd cronicl o weithgaredd y flwyddyn gan Eurgain Haf o Achub y Plant a amlinellodd y cydweithio arbennig a fu rhwng aelodau Merched y Wawr ag Achub y Plant.  Bu’r aelodau o’r clybiau a’r canghennau yn casglu cetris inc, ffonau symudol, stampiau a hefyd esgidiau, ac yna’r bartneriaeth Sodlau’n Siarad gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. Wedi’r holl gydweithio a braf iawn oedd cael Eurgain Haf, yn datgan ein bod bellach wedi casglu cyfanswm o dros £9,075.55 i’r elusen.

PENWYTHNOS PRESWYL BANGOR  9-11 Medi 2011

Penwythnos arall a aeth heibio

A phawb eto wedi joio,

Roedd y Bantams a hefyd y Bwrlwm

Wedi dod â’r cyfan i gwlwm.

Mererid ein Llywydd a’n croesawodd ni

Pedwar cant o ferched o bob rhan o Gymru,

Seindorf Arian o Deiniolen,

John ac Alun a Tudur Owen.

Cludodd y bysiau ni yn ddi-baid

Er mwyn ein bwydo roedd yn rhaid,

Yna i’r Neuadd a’r stondinau amrywiol

A’r siaradwyr niferus, talentog diddorol.

Russell Jones a’i ieir ar y bwrdd

Ofni y byddent yn hedfan i ffwrdd,

Ond roeddent wedi cael eu hypnoteiddio

Yn gwylio Sioned wrth y blodau yn gweithio.

O Achub y Plant daeth Eurgain Haf

Lansio blychod adar ‘da Kelvin – wel dyna braf,

Yna Bethan Wyn Jones – arbenigwraig llysiau

Bywyd natur, dail a blodau.

Yna wedyn cael teithiau pleserus

I bawb ohonom, roedd ‘na ddewis,

I’r Amgueddfa, Gorsaf Bwer neu i siopa,

Ond welon ni ddim o dop yr Wyddfa!

Da Capo oedd yn noson ddiddorol

Cyn-ddisgyblion Glanaethwy – yr ysgol,

Daloni fu’n holi ‘Merched mewn Busnes’

Ela Jones a Gaenor ddi-rodres.

Ar fore Sul cynhaliwyd gwasanaeth

Gyda Swyddogion Colwyn yn llawn afiaith,

Ac i goroni’r cyfan roedd ‘Blwyddyn Gron’

Gyda chanu, offerynnau a dawnsio llon.

Gan Gill Griffiths roedd y diolchiade

I’r Llywydd a Tegwen am yr holl drefniade,

Canwyd cân y Mudiad, wedyn ffarwelio

A phawb yn hyderus, cawn gyfarfod eto.

Beryl E George, Cangen Capel Newydd, Penfro

Sodlau'n Siarad

Gan ein bod ni fel Mudiad eisoes yn casglu ffônau symudol, cetrisau inc a stampiau i Achub y Plant rydym  am ehangu y prosiect i gynnwys casglu esgidiau.

Gofynnwn felly i chi gyd fel aelodau  rhoi  hen bâr o esgidiau mewn cyflwr da ac os yn bosibl mewn bocs (does dim rhaid iddo fod yn focs gwreiddiol). Bydd y rhain wedyn yn cael eu gwerthu mewn siopau elusen Achub y Plant, gan gynnwys siop arbennig a fydd yn cael ei redeg ar faes Eisteddfod Wrecsam. Gellir trefnu eu casglu yn gyntaf yn y gangen ac yna eu trosglwyddo i’r pwyllgor Rhanbarth neu i’r Swyddog Datblygu yn eich ardal. Bydd hefyd mannau casglu penodol fel  Canolfan Merched y Wawr.

sodlau'n siaradSODLAU’N SIARAD yw enw’r prosiect a’r partneriaid fydd Merched y Wawr, Achub y Plant a’r Eisteddfod Genedlaethol. I gyd redeg â dathliad yr Eisteddfod yn 150 mlwydd oed eleni, byddwn yn casglu 150 o barau esgidiau oddi wrth ferched enwog Cymru, gan ofyn iddynt hefyd nodi stori ddiddorol am eu hatgofion o’r Eisteddfod. Bydd yr esgidiau hyn yn cael eu harddangos yn ystod wythnos yr Eisteddfod  mewn lle amlwg, ac ar y we cyn hynny.

SWYDDFA’N LLAWN O SODLAU’N SIARAD!

Gydag ymgyrch Sodlau’n Siarad wedi bod yn rhedeg ers rhai misoedd bellach, mae cannoedd ar gannoedd o barau o esgidiau wedi cyrraedd Swyddfa Merched y Wawr yn Aberystwyth.  Yn wir, mae’r lle’n boddi mewn esgidiau – a’r staff yn gwybod meintiau traed merched Cymru bron i gyd erbyn hyn, wrth i ragor o barrau gyrraedd yn ddyddiol, gyda phawb yn awyddus i gefnogi’r ymgyrch a drefnir ar y cyd gan Ferched y Wawr, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Achub y Plant.

Mae aelodau Merched y Wawr wedi bod yn eithriadol hael, a mawr yw ein diolch i bawb am eu cefnogaeth.  Bydd yr esgidiau i gyd yn cael eu cludo i Wrecsam ar gyfer yr Eisteddfod ac yn cael eu gwerthu mewn siop arbennig ar y Maes.

Storfa Esgidiau

A thra bo canghennau Merched y Wawr ym mhob cwr o Gymru wrthi’n brysur yn casglu gan eu haelodau, mae’r Eisteddfod, Achub y Plant a swyddfa genedlaethol Merched y Wawr wedi bod yn cysylltu gyda rhai o ferched blaenaf Cymru i ofyn am bâr o ‘sgidiau ar gyfer arwerthiant go arbennig ar Faes yr Eisteddfod. Hyd yn hyn mae sêr fel Alex Jones, Angharad Mair, Caryl Parry Jones, Nia Roberts, Sian Lloyd a llawer llawer mwy wedi addo neu wedi anfon eu sodlau atom, ac mae’r rhain i gyd i’w gweld ar wefan yr Eisteddfod, lle gallwch hefyd wneud cynnig ymlaen llaw am unrhyw bâr cyn yr arwerthiant.

Bob blwyddyn mae dros wyth miliwn o blant o dan bump oed yn marw yn gynamserol ac yn ddi-angen o heintiau y gellir eu hatal yn rhwydd ac yn rhad; rhai fel niwmonia, malaria a dolur rhydd. Gall un pâr o sgidiau sy’n gwerthu am £5.00 frechu hyd at dri phlentyn yn erbyn afiechydon angeuol. Gall pâr sy’n gwerthu am £50 achub deg o fywydau.Ymunwch â ni felly i geisio sathru’r anghyfiawnder yma drwy gyfrannu a phrynu esgidiau i gefnogi’r ymgyrch.

Mae cyfle i unrhyw un gweld yr esgidiau ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol – www.eisteddfod.org.uk – neu ar dudalen arbennig ar facebook –www.facebook.com/sodlaunsiarad.

Cystadleuaeth Bowlio Deg Rhanbarthau'r Gogledd

Dyma luniau enillwyr Bowlio Deg y Gogledd yng Nglasfryn Mehefin 10fed 2011.
Sgor uchaf - Heulwen Parry Jones, Bro Cyfeiliog, Maldwyn Powys

Freda yn cyflwyno gwobr i Heulwen Parry Jones
Canlyniadau'r Timau:

1af Cangen Bro Cyfeiliog Maldwyn Powys

Bro Cyfeiliog 1af bowlio deg
2il Cangen Llanuwchllyn, Rhanbarth Meirionnydd

Llanuwchllyn 2il bowlio deg
3ydd Cangen Bryneglwys a Llandegla, Rhanbarth Glyn Maelor

bryneglwys a llandegla

 

 

Sodlau'n Siarad

llun esgidiau

Yn sodlau uchel, ‘sgidia hoelion mawr, sandalau strapiog neu glocsiau neu wellingtons, mae esgidiau’n rhan angenrheidiol o’n cypyrddau dillad ni i gyd. Ond faint ohonom sy’n ystyried ailgylchu parau sydd wedi colli’u sglein neu sodlau’n sy’n ein gwneud yn rhy sigledig i gerdded mwy nag ychydig gamau?

Mae Merched y Wawr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Achub y Plant wedi gofyn i gant a hanner o ferched amlycaf Cymru i dyrchu’n y cwpwrdd dillad am bâr o esgidiau i’w rhoi i achos da iawn. Sodlau’n Siarad yw teitl yr ymgyrch, ac fe fydd yn cyrraedd ei phinacl gydag arwerthiant go arbennig ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a’r Fro ddechrau Awst eleni.

Felly beth am daro golwg ar esgidiau rhai o ferched amlycaf Cymru...

Cynhelir yr arwerthiant yn y Babell Lên am 5 o'r gloch ar y prynhawn dydd Iau. Medrwch rhoi bid ar unrhyw bâr i fyny at 2 o'r gloch prynhawn dydd Iau 4 Awst drwy glicio www.eisteddfod.org.uk/english/content.php?nID=512

alex jones

Alex Jones (EE93) Maint 6

alice evans

Alice Evans (EE92) Maint 6½

angharad mair

Angharad Mair (EE150) Maint 5

angharad mair 149

Angharad Mair (EE149) Maint 4½

angharad mair 148

Angharad Mair (EE148) Maint 4

angharad mair 147

Angharad Mair (EE147) Maint 4

angharad mair 146

Angharad Mair (EE146) Maint 5

angharad mair 145

Angharad Mair (EE145) Maint 4½

angharad price 91

Angharad Price (91) Maint 5½

ann atkinson

Ann Atkinson (EE144) Maint 7

ann catrin evans

Ann Catrin Evans (EE143) Maint 8½

ann catrin evans 142

Ann Catrin Evans (EE142) Maint 6

ann clwyd

Ann Clwyd (EE085) Maint 5½

bethan dudley

Bethan Dudley (141) Maint 7

Bethan Elfyn

Bethan Elfyn (140) Maint 4

Bethan Gwanas

Bethan Gwanas (139) Maint 6

Bethan Mair

Bethan Mair (138) Maint 6

Caryl Parry Jones

Caryl Parry Jones (137) Maint 7½

Catrin Mara 080

Catrin Mara (EE080) Maint 7

Catrin Mara 79
Catrin Mara (EE079) Maint 6

catrin mara 78

Catrin Mara (EE078) Maint 6½

carin mara 77

Catrin Mara (EE077) Maint 6

Cerys Matthews

Cerys Matthews (EE90) Maint 6

Edwina Hart

Edwina Hart AC (136) Maint 5½

Efa Grufudd Jones

Efa Gruffudd Jones Maint 6½

Eiry Palfrey

Eiry Palfrey - esgidiau'r cymeriad Helen Ambrose o'r opera sebon Dinas (EE135) Maint 4

Eleri Siôn

Eleri Siôn (EE134) Maint 4½

Elin Manahan Thomas

Elin Manahan Thomas (EE084) Maint 4

Elinor Jones

Elinor Jones (EE133) Maint 5

Esyllt Jones

Esyllt Jones (EE132) Maint 6

Gillian Elisa

Gillian Elisa (EE131) Maint 5

Grace Roberts

Grace Roberts (EE130) Maint 5

Gwenda Thomas

Gwenda Thomas AC (EE129) Maint 5

Gwyneth Lewis

Gwyneth Lewis (EE128) Maint 6½

Heather Jones

Heather Jones (EE127) Maint 4

Heddyr Gregory

Heddyr Gregory (EE126) Maint 6½

Heledd Cynwal

Heledd Cynwal (EE125) Maint 5

Helen Mary Jones

Helen Mary Jones (EE124) Maint 7½

heulwen haf

Heulwen Haf (EE076) Maint 5

Jane Edwards

Jane Edwards (EE123) Maint 3½

Jayne James

Jayne James (EE095) Maint 5

Jenny Ogwen

Jenny Ogwen (EE122) Maint 5

julie morgan

Julie Morgan AC (EE075) Maint 5

Leah Owen

Leah Owen (EE121) Maint 5

Linda Griffiths

Linda Griffiths (EE120) Maint 5½

Lisa Jen

Lisa Jen (EE119) Maint 7

Lisa Jen 118

Lisa Jen (EE118) Maint 6

llinor ap gwynedd

Llinor ap Gwynedd (EE074) Maint 5

Lowri Morgan

Lowri Morgan (EE094) Maint 7

Margaret Williams

Margaret Williams (EE117) Maint 5½

Mari Emlyn

Mari Emlyn (EE116) Maint 4

Mari Lovgreen

Mari Lovgreen (EE115) Maint 4

Maureen Rhys

Maureen Rhys (EE114) Maint 5½

Meinir Heulyn

Meinir Heulyn (EE113) Maint 7

Meleri Wyn James

Meleri Wyn James (EE081) Maint 4

Menna Elfyn

Menna Elfyn (EE112) Maint 7½

mererid jones

Mererid Jones (EE073) Maint 6½

Menna Richards

Menna Richards (EE096) Maint 5

Mererid Hopwood

Mererid Hopwood (EE111) Maint 5

Meri Huws

Meri Huws (EE89) Maint 6

Nia Roberts

Nia Roberts (EE110) Maint 6½

Nia Tudur

Nia Tudur (EE109) Maint 5½

Prydwen Elfed-Owens

Prydwen Elfed-Owens (EE108) Maint 4

Rhian Roberts

Rhian Roberts (EE107) Maint 3½

Sandy Mewies

Sandy Mewies AC (EE106) Maint 3½

Sharon Morgan

Sharon Morgan (EE88) Maint 5

Sian Aman

Sian Aman (EE87) Maint 7

Sian Lloyd

Sian Lloyd (EE105) Maint 7

Sian Thomas 104

Sian Thomas (EE104) Maint 5

Sian Thomas 103

Sian Thomas (EE103) Maint 3½

Sian Thomas 102

Sian Thomas (EE102) Maint 4

Sian Thomas 101

Sian Thomas (EE101) Maint 6

Sian Thomas 100

Sian Thomas (EE100) Maint 4

Sian Thomas 99

Sian Thomas (EE099) Maint 4

Sian Thomas 098

Sian Thomas (EE098) Maint 3

sian williams

Sian Williams (EE072) Maint 5

Stacey Wheeler

Stacey Wheeler (EE086) Maint 6

Suzie Horan

Suzie Horan (EE097) Maint 6

victoria plucknett

Victoria Plucknett - esgidiau priodas Diane a Dai Ashurst, Pobol y Cwm (EE071) Maint 4½

 

 

Wawrathon

Ar ddydd Llun 30 Mai 2011 bydd Cyn-Lywyddion y Mudiad yn darllen gwahanol lyfrau am gyfnod o 12 awr yn Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe. Bydd gwahanol themau a slotiau amrywiol megis llyfrau i blant meithrin a llyfrau ar hanes yr Eisteddfod. Os hoffech noddi'r digwyddiad, cliciwch yma am ffurflen noddi...

"Wawrathon"
 
Ble fyddwch chi Dydd Llun, 30 Mai 2012 - beth am ddod draw i'r "Wawrathon" ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe - lle y bydd Merched y Wawr yn cynnal "Wawrathon"
 
Beth yw "Wawrathon"? Darllen Noddedig am 12 awr gan Gyn Lywyddion ein Mudiad a'r Llywydd Presennol Mererid Jones, a'r arlwy ar gyfer plant a phobl ifanc o 3 tan 12 oed.  Rydym yn falch iawn o gefnogaeth deuddeg o bartneriaid sef Bwrdd yr Iaith, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Urdd, Mudiad Meithrin, Twf, Eisteddfod Genedlaethol, UCAC, CFfI, LLyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgolion Cymru a Pabell yr Eglwysi gyda'r "Wawrathon"
 
Ble fyddwn wrthi yn darllen?  Cychwyn y bore am 7.00 byddwn yn y Neuadd Groeso ac yno tan 10.00
Yna o 10.00 tan 4.30 byddwn yn y Ganolfan Gelf, Dylunio a Thechnoleg ac yna o 4.30 tan 7.30 byddwn yn ol yny Neuadd Groeso.
 
Pam ein bod yn gwneud y gweithgaredd yma? Er mwyn codi arian i Fudiad Elusennol Merched y Wawr i'n galluogi i gael presenoldeb yn holl wyliau mawr Cymru, a chynnal y 3,000 o weithgareddau blynyddol ein Mudiad.
 
Dywedodd Mererid Jones "Dyma ydyw un o fy mhrosiectau fel Llywydd eleni, ac mae wedi bod yn gyffrous iawn cael dewis deunydd darllen addas, a chael cydweithio mor hapus gyda chynifer o'n partneriaid, edrychaf ymlaen yn fawr i weld pawb yn y "Wawrathon", a bydd croeso cynnes i chi hefyd alw i fewn yn ein pabell gydol yr wythnos."
 
Os am ragor o wybodaeth cysylltwch a - Swyddfa Merched y Wawr ar 01970 611 661 neu swyddfa@merchedywawr.com
   

Dyma restr y darllenwyr: WAWRATHON

NEUADD GROESO

7-8      Mererid Jones a Catrin Stevens

Bwrdd yr Iaith:  Mr Abracadabra (Mari Stevens)+ Jac Abertawe

8-9      Glenys Thomas a Gwyneth Morus Jones

Urdd:   Dirglwch Gwersyll Llangrannog ( Gareth James)

9-10    Esyllt Jones a Margarette Hughes

Cyngor Llyfrau Cymru:   Diolch Sgrwff (Gwen Redvers Jones)+ Jac Abertawe

CANOLFAN GELF, DYLUNIO a THECHNOLEG

10-11  Sylwen Lloyd Davies a Mair Penri

TWF:Cyfres Pi-po/Paid Eliffant Paid/Beth wyt ti’n ddweud/CyfresSaliMali

11-12  Nan Lewis a Valerie James

Pabell yr Eglwysi:  Lleuad yn Olau (T.Llew Jones) – 4 Stori

12-12.30

1-1.30 Mary Price a Rhianwen Huws Roberts

Canolfannau Cymraeg:  Aderyn Brau (Mared Llwyd)

1.30-2.30    Glenys Thomas a Gwyneth Morus Jones

Mudiad Meithrin:  Cyfres y Dewin / Cyfres Mabli a Mabon

2.30-3.30     Sylwen Lloyd Davies a Mair Penri

Mudiad Ffermwyr Ifanc:  Cylchgronau-4 stori + Yr Allwedd Aur(Eurgain Haf)

3.30-4.30      Nan Lewis a Valerie James

Eisteddfod Genedlaethol:   Cant y Cant (Alun Charles) Gomer

NEUADD GROESO

4.30-5.30      Mary Price a Rhianwen Huws Roberts

UCAC:   Tair Gôl i Al (Add. Llinos Dafydd) + Yani (Mari Stevens)

5.30-6.30      Esyllt Jones a Margarette Hughes

 Llyfrgell Genedlaethol Cymru:   Dirgelwch y Bont (Hywel Griffiths)

6.30-7.30      Mererid Jones a Catrin Stevens

Prifysgolion Cymru:   Bwystfilod a Bwganod, (Manon Steffan Ros)

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.