Penwythnos Preswyl 2009

Cicio’r Bar – Cynhadledd Merched y Wawr

Mae cryn edrych ymlaen ymysg 300 o aelodau Merched y Wawr wrth iddynt baratoi ac edrych ymlaen at un o uchafbwyntiau calendr y mudiad sef y Penwythnos Preswyl a fydd yn cael ei gynnal eleni yn y Brifysgol yn Aberystwyth. 

Bydd y penwythnos yn cychwyn ar brynhawn Gwener Medi 11eg ble fydd cyfle i’r aelodau fynd ar daith dywysiedig o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol neu fwynhau siopa yn y dre.

 Yna bydd hwyl a digon o chwerthin wrth i bawb ymgynnyll i gael swper a noson yng nghwmni Dawnswyr Talog, Rosfa’r Consuriwr a Chwmni Drama’r Cudyll Coch.

Mae yna amrywiaeth o ddarlithoedd wedi eu trefnu ar gyfer fore Sadwrn, a chyfle I glywed a ydi diemwntiau wirioneddol am byth? A hynt a helynt daearyddiaeth Cymru ac yna cyflwyniad am Arad Goch.  Hefyd ceir y cyfle i glywed  am gasgliadau Merched yn y Llyfrgell Genedlaethol gan y llyfrgellydd Andrew Green. Bydd cyfle i fynd ar wibdaith Trên Bach i Bontarfynach neu taith i weld y Barcutiaid yn Bwlch Nant yr Arian, taith gerdded ar hyd y prom i ‘Gicio’r Bar’ neu ymweld ag Arad Goch.  A chyngerdd i gloi yng nghwmni Côr ABC a chyfle i glywed ‘Atgof y Ser’.

Yn ol yr arfer bydd gwasanaeth foreuol ar y Sul yng nghwmni Dana Edwards (Ffagl Gobaith), a bydd Luned Jones o Oxfam Cymru yn cloi y casgliad ‘Bras’ ac i ddilyn hyn cawn wybod beth yw'r prosiect a chynlluniau ar gyfer 2009/10.  I grynhoi’r cyfarfod bydd Beti a’i Phobl yn holi Lowri Davies (artist Cerameg), ac yna cawn eistedd yn nol i wrando ar gyflwyniad gan Kathy Gittins, cyn mwynhau pryd a ffarwelio.

Dywedodd Tegwen Morris Cyfarwyddwraig Merched y Wawr:  ‘Mae wedi bod yn waith caled dros y misoedd diwethaf yn paratoi ond mae’n braf cynnal y Penwythnos ar fy stepen drws yma yn Aberystwyth ac rwyf yn edrych ymlaen i groesawu pawb o bob cwr o Gymru i’r ardal fendigedig hon. 

"Ers mis Medi diwethaf yn Llambed ble lansiwyd yr ymgyrch i gasglu ‘Bras’ i Oxfam gwaith pleserus iawn fydd crynhoi’r fenter yng nghwmni Luned Jones ac yr ydym wedi croesi y 14,000 erbyn hyn!  Yna cawn yrru ymlaen i ddatgelu’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf," ychwanegodd.

                                                **diwedd**

Am fwy o fanylion cysylltwch a swyddfa Merched y Wawr ar 01970 611 661 neu Tegwen Morris ar 07980 504374

~Cyfle i dynnu lluniau neu ddarlledu o’r digwyddiad.

Cliciwch yma am fwy o manylion

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.