Penfro

Rhanbarth Penfro

Mae rhanbarth Penfro yn ymestyn o Landudoch i lawr at Hwlffordd a Thyddewi ac ar hyn o bryd mae yna 14 cangen ac tri clwb.  Swyddogion y rhanbarth eleni yw Aeres James, Tudraeth yn llywydd, Bethan Hinde a Gwenda Mathias,Tegryn  yn gyd-ysgrifenyddion a Maureen George, Maenclochog yn drysorydd.

Cynhelir y pwyllgorau rhanbarth mewn amrywiol leoliadau – byddwn yn teithio o amgylch y canghennau ac felly mewn gwahanol ganolfan bob tro.  Bydd yr Is-bwyllgor Celf a Chrefft, a ffurfiwyd yn gymharol ddiweddar, yn cyfarfod yn rheolaidd ac ar hyn o bryd maent wedi cychwyn trafod a threfnu ar gyfer dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’r rhanbarth yn 2013.

Penfro oedd enillwyr Cwpan Radi Thomas yn Sioe Llanelwedd 2011 a daeth Aeres James, Trefdraeth yn drydydd am wneud seren yn Ffair Aeaf  2011.

Cystadleuaeth Cwpan Radi Thomas 2012

radi thomas ail
2il  -   Rhanbarth Penfro
Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.