Rhanbarth y De –Ddwyrain.

Mae’r rhanbarth yn ymestyn o Glawdd Offa yn y ddwyrain  draw i Borthcawl ac Aberdar , ac o’r Barri yn y de i fyny I  Ferthyr Tudful a’r Fenni.  Mae un ar bymtheg o ganghennau a phedwar  o glybiau Gwawr ar hyn o bryd gydag amrywiaeth o raglenni difyr.

Helen Middleton o gangen Y Fenni  yw Llywydd y rhanbarth gyda dwy ysgrifenyddes , Marian Fairclough o gangen Cwm Rhymni a Shan Morgan o gangen Caerdydd, a Bronwen Green o gangen Casnewydd a’r cylch  yn drysorydd. Mae’r cyfarfodydd  rhanbarth  yn cael  eu  cynnal  yng nghanol Caerdydd yng Nghapel Tabernacl.

Bu’r aelodau yn brysur  gyda dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Fro Morgannwg yn Awst 2012. Bu rhaid ymweld â chaffi Gavin a Stacey yn y Barri ar y cwrs ffotograffiaeth ar gyfer ardddangosfa ym mhabell Merched y Wawr!

gavin

Rhestr o’r canghennau a’r clybiau gydag enwau cyswllt  ac amser  y cyfarfod (cliciwch yma)

Cofnodion y cyfarfod diwetha  (cliciwch yma)

Rhaglenni’r canghennau (cliciwch yma)

Cangen Caerdydd

Dyma lun o aelodau cangen MyW Caerdydd yn mwynhau swper Gwyl Dewi blasus iawn wedi ei baratoi gan Banta la cart yn ddiweddar.

cangen caerdydd

Dyddiadur Rhanbarth 2013

Pwyllgor Rhanbarth  - Chwefror 9

Gwyl Gwanwyn  - Ebrill 26

Pwyllgor Rhanbarth - Mai 11

Taith Gerdded - Gorffennaf 6

Oriel Lluniau

90

Dyma enillwyr Cwis Hwyl y rhanbarth sef tîm Pontypridd gyda swyddogion y rhanbarth

91a

Llun y tîm 

93

Noson Dathlu Dwynwen yng Nghangen Bro Radur gyda’r Llywydd Carys Tudor Williams, Y Llywydd  genedlaethol Gill Griffiths a John Evans  

cor

Gyda chôr y Waun Ddyfal 

cwm rhymni

Dyma Gangen Cwm Rhymni yng nghwmni eu siaradwraig, merch o’r cwm, Llinos Dafydd, sy’n gweithio fel clerc yn y Cynulliad.

gwyl ddewi de ddwyrain

Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi

cangen pontypridd

Cangen Pontypridd gyda'r Llywydd Cenedlaethol, Gill Griffiths a'r siaradwraig wadd Jill Evans ASE

Gwyl Coed Nadolig

Dyma lun o Morina Lloyd a Catherine Watkin Thomas yng Ngwyl Coed Nadolig yn yr eglwys yn y Bontfaen. Mae'n para am 3 diwrnod ac mae rhai cannoedd yn ymweld a hi. Roeddem wedi addurno y goeden efo lluniau bagiau ac wedi ysgrifennu yn ddwyieithog yn egluro beth oedd yr amcan.

Gweithdy Celf Ranbarth y De-ddwyrain 12 Mai 2012

gweithdy celf 1
gweithdy celf 2
gweithdy celf 3

 

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.