RYSAIT MIS GORFFENNAF

Mousse Mwyar a Chaws Mascarpone

mwyar

CYNHWYSION

1 pwys (450g) o fwyar duon

5 owns (140g) o siwgr mân euraidd

2 gwyn wy

9 owns (250g) o gaws Mascarpone

11g o gelatin (1 pecyn)

3 llond llwy fwrdd o ddŵr

I Addurno:

1.42ml o hufen dwbl

4 owns (100g) o fwyar

Dull

Rhowch y mwyar ac 1 llond llwy fwrdd o siwgr mewn sosban a’u twymo yn araf, nes bod y sudd yn dechrau llifo, yna ei fudferwi am 5 munud.

Gwasgwch drwy rhydull i mewn i bowlen a’i adael o’r neilltu i oeri.

Rhowch 3 llond llwy fwrdd o ddŵr mewn cwpan.

Ysgydwch y gelatine drosto a’i adael am 5 munud, yna dodwch y cwpan mewn sosban yn cynnwys ychydig o ddŵr berw, nes bos y gelatine wedi toddi yn llwyr.

Ychwanegwch at y puree mwyar.

Yn y cyfamser rhowch y gwyn wy mewn i bowlen gyda sudd gweddill y siwgr mân.

Rhowch y bowlen dros sosban o ddŵr sydd yn mudferwi. Gwnewch yn siŵr nad yw’r bowlen yn cyffwrdd a’r dŵr.

Curwch gyda chwisg llaw drydan am 3 munud.

Tynnwch y bowlen y bowlen o’r gwres a churwch am 2 funud.

Mewn basin arall cymysgwch y caws mascarpone gyda llwy bren yna cymysgwch y puree i mewn iddo.

Plygwch hanner y meringue i mewn i’r gymysgedd gan ddefnyddio llwy fetel.

Plygwch y gweddill i mewn. Trowch y gymysgedd i fowlen fawr neu 6 o rai bach, a’u rhoi yn yr oergell am 2-3 awr neu dros nos.

Pan yn barod i’w weini curwch yr hufen dwbl yn ysgafn a’i roi ar wyneb y Mouse.

Addurnwch ag ychydig fwyar a dail mint os dymunwch.

RYSAIT MIS MEHEFIN

Tatws a Chennin mewn Caws Pob

225g (8 owns)- tatws bach

225g (8 owns)- cennin wedi sleisio

15g (1/2 owns)- margarin

15g (1/2 owns)- blawd plaen

1 x 5ml (llwy de)- powdr mwstard

150ml (1/4 peint)- llaeth

1 x 2.5ml (4 owns)- caws Cheddar cryf wedi gratio

1 melynwy

Halen a Phupur

Dull

1.    Rhowch y tatws, cennin a dau lond llwy fwrdd o ddŵr ac ychydig o halen mewn dysgl addas ar gyfer microdon. Gorchuddiwch a choginio ar UCHEL am 7-8 munud nes bod y llysiau wedi eu coginio. Gadewch iddynt oeri.

2.    Curwch y margarin, blawd a mwstard efo’i gilydd ac yna’n raddol, ychwanegu’r llaeth a’r saws Worcester a’i guro mewn.

3.    Coginiwch ar UCHEL am tua 2 funud gan ei guro bob rhyw 30 eiliad.

4.    Curwch y melynwy a’r caws i mewn.

5.    Tywalltwch y dŵr oddi wrth y llysiau a’u rhoi mewn dysgl, taenwch y saws drostynt ac yna eu rhoi dan gril poeth neu bopty nes bod yn frown ar yr wyneb.

 

Mary Thomas, cangen Llanrhaeadr ym Mochnant, Rhanbarth Maldwyn.

 

RYSAIT MIS MAI

CACEN SINSIR

cacen sinsir

CYNHWYSION:

200g – blawd codi
100g – margarin
100g – siwgr
3 llond llwy fwrdd – triog
1 llond llwy de – soda pobi
2 wy
¼ - sbeis cymysg
1 llond llwy de – sinsir mâl
½ - llond cwpan o ddŵr berwedig

DULL:

1. Hufennwch y margarin a’r siwgr
2. Ychwanegwch yr wyau a’r blawd, ac yna’r sinsir a’r sbeis.
3. Toddwch y soda pobi yn y dŵr berwedig, a’i ychwanegi i’r gymysgedd.
4. Trowch â llwy bren.
5. Yn olaf, ychwanegwch y triog, ac yna’i roi mewn tin 2 bwys.

Coginiwch am 30-40 munud, tymheredd 180°C

Grace Williams, Merched y Wawr Y Bermo a’r Cylch

 

RYSAIT MIS EBRILL

Golwythion Cig Oen (i ddau)


4 ystlys o olwythion cig oen (lamb chops)
1 owns o fenyn
8 owns o fadarch bach (rhai ffres neu dun)
8 owns o domatos tun
1 llwy de o flawd corn
1 llwy fwrdd o sos coch (tomato ketchup)
1 pinsiad o berlysiau cymysg
2 llwy de o saws soy (soy sauce)
½ llwy de o siwgr
Halen a phupur

Dull
Sychwch y golwythion, sesno, a ffriwch yn gyflym mewn olew a menyn nes yn frown. Tynnwch o'r badell.
Cymysgwch y blawd corn gyda'r tomatos, sos coch a'r perlysiau. Gadewch am 10 munud.
Rhowch yn y badell. Ar ôl iddo ferwi, gadewch iddo oeri am un funud. Adiwch y saws soy a'r siwgr. Oerwch am 5 munud.
Rhowch y golwythion nol yn y badell, gorchuddiwch, a gadewch i fudferwi am 15-20 munud.

Mary Bewley (Cangen Brynsiencyn)

 

RYSAIT MIS MAWRTH

Tiramisu

Tiramisu Mefus ac Oren

14 owns (400g)- mefus

1 0wns (25g)- siwgr mân

3 llond llwy fwrdd o liqueur blas oren

1 llond llwy fwrdd o frandi

150ml- sudd oren ffres

9 owns (250g)- caws Mascarpone

1 llond llwy fwrdd o siwgr mân

Ychydig ddiferion o fanila

3 llond llwy fwrdd o liqueur blas oren

150ml- hufen sbwng (sponge fingers)

Dull

Golchwch y mefus. Torrwch 12 owns (350g) yn fân. Cadwch y 2 owns (50g) arall o’r neilltu ar gyfer addurno.

Cymysgwch y mefus â’r 4 cynhwysyn nesaf gyda’i gilydd mewn basin a’u rhoi o’r neilltu am ryw hanner awr.

Mewn basin arall cymysgwch y Mascarpone a gweddill y siwgr mân a 3 llond llwy fwrdd o liqueur gyda’i gilydd.

Curwch yr hufen nes ei fod yn dechrau tewhau (peidiwch â’i guro yn ormodol), a phlygwch i mewn i’r Mascarpone.

Hidlwch y ffrwythau gan ddal y sudd mewn basin.

Trochwch y bysedd sbwng yn yr hylif un ar y tro nes eu bod yn dechrau meddalu.

Rhowch hanner y bysedd sbwng ochr wrth ochr mewn dysgl hirsgwar. Rhowch hanner y mefus drostynt yna gorchuddiwch gyda hanner y cymysgedd Mascarpone. Rhowch haenen arall o’r bysedd sbwng ac yna’r mefus gan orffen gyda’r Mascarpone.

Rhowch yn yr oergell am tua 2 awr.

Pan fyddwch yn barod i’w weini addurnwch gyda’r mefus sydd ar ôl. Gellir ei baratoi ddiwrnod o flaen llaw os mynnir.

Yvonne Lewis. Cangen Glannau Pibwr

 

RYSAIT MIS CHWEFROR

Pancos

Pancos

2 wy

Tamaid o ‘Bicarbonate of Soda’

Tamaid o ‘Cream of Tartar’

4 owns o siwgr gwyn

½ peint o laeth

8 owns o fflŵr hunan godi

4 owns o fargarin wedi ei doddi

Dull

Cymysgwch yr wyau, Bicarb a’r Cream of Tartar yn dda.

Ychwanegwch y siwgr a’i guro yn dda gyda chwisg trydan.

Ychwanegwch y llaeth, yna'r fflŵr yn ofalus a’i guro i mewn yn dda.

Ychwanegwch y margarin wedi ei doddi.

Mae modd eu coginio ar blanc trydan.

Byddaf i yn eu coginio drwy roi y planc ar y ‘Rayburn’, ac mae angen tymheredd weddol dwym i’w coginio, rhyw dair munud bob ochr.

Rhaid rhoi rhyw lond llwy bwrdd i wneud un pancogen, yna rhoddaf siwgr ar eu pennau.

Mae hwn yn hen rysáit teuluol.

Aeres James.

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.