Y Wawr - Rhifyn 159 Haf 2008

Wawr Rhifyn 159

Ennill tocynnau i Gyngerdd Gala Opera Llangollen

Elin Manahan Thomas

Bydd dwy enillydd lwcus yn ennill pâr o docynnau yr un, i seddi gorau'r Cyngerdd Gala Opera nos Sul, Gorffennaf 13.

 

Pencampwraig Glas Rasio Cenedlaethol

Louise, y Mini a'r cwpan

Pan wnaeth Louise Jones, Ffostrasol, gwblhau ychydig o gylchoedd mewn ras ugain mlynedd yn ôl, ychydig a feddyliodd y byddai'n dod yn bencampwraig dros Brydain ac Iwerddon ym myd y glas rasio.

 

Y Gymraes Gyntaf i rwyfo ar draws Môr Iwerydd

Elin Haf Davies, sy'n enedigol o'r Parc, Y Bala,

Rhwyfo 2,552 o filltiroedd ar draws yr Iwerydd - dyna gamp y tu hwnt i ddychymyg y mwyafrif ohonon ni. Ond yn gynharach eleni, fe gyflawnodd Elin Haf Davies, sy'n enedigol o'r Parc, Y Bala, yr union gamp honno. Nod Elin  oedd codi £250,000 tuag at ymchwil i afiechydon metabolig sy'n amharu ar fywydau plant. Mae Ffibrosis Systig a Chlefyd Gaucher yn enghreifftiau o afiechydon o'r fath.

Dwy Chwaer - Dwy Swydd

Catrin Stevens ac Esyllt Jones

Wrth i Esyllt Jones edrych ymlaen at gael ei hurddo'n Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr ym mis Awst, fe fydd ei chwaer Catrin yn cymryd at awenau'r Wawr.

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.