Y Wawr - Haf 2009
Tudalennau or Wawr
Diwrnod yn Mywyd Nia Wyn Smith...Cliciwch yma
Clecs o'r Clybiau....Cliciwch yma
YSGOL BRESWYL YN LLAMBED 2008
Roedd Difyrrwch a Doniau
I'w gweld yn y brasiau
Daeth cannoedd i'r gangen
At ferched oedd eu gwir angen.
Ar ôl I bawb gofrestru
Ac Esyllt I'n croesawu
Llinos a Nerys a'u bysedd yn tincian
Dan arweiniad Carys i gôr Corisma.
Cyn brecwast bob bore rhaid cofio
Bod y blychau i gyd wedi eu ticio
Yr oedd Kevin ar ei orau
Cawsom hanes y Beibl, mewn blodau.
Stondinau 'Dots', 'Igam Ogam' a 'Silibili' cyn cinio
Cyflwyniad gan Rhian Dafydd am 'Ji-binc' a 'Jac-do'
Gwibdaith prynhawn I Llannerchaeron,
Felin wlan, Castell Newi' ac Aberaeron.
Roedd Huw Chiswell yn atseinio
Ar y gitar, ac ar y piano,
Prifardd Idris Reynolds yn trin geire
A beirniadu'r limrige.
Oedfa'r Bore Sul yn ddiddorol
Gan blant oedd o'r Ysgol,
Michael Morris a'r Prifathro
A phawb arall yn ymuno.
Caryl Lewis yn annog pob un
I ysgrifennu hanes am ei hun,
Daeth Luned o Oxfam
I goronu ar y cyfan.
Mae penwythnos fel blwyddyn
Ddwedodd pawb yn gytun,
Am yr holl weithgareddau
Y dalent a'r doniau.
Beryl Eluned George
Cangen Capel Newydd