“Y Wawr”   - Hanes y Cylchgrawn

Y Wawr Rhif 1

Ein Cylchgrawn Cenedlaethol

Cychwynnwyd paratoi cylchgrawn yn y flwyddyn 1968. Ac oddi ar hynny ymddangosodd pedwar rhifyn yn flynyddol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Llyfrau Cymru am eu nawdd i gynorthwyo gyda chynhyrchu y Wawr. 

Dyma restr o’r Golygyddion hyd yma :

1968 – 1974              Zonia Bowen

1974 – 1983              Alwena Williams

1983 – 1990              Glenys Jones

1990 – 1993              Rebecca Powell

1993 – 2001              Mair Edwards

2001 – 2005              Janet Evans

2005 -                      Sian Lewis

Annes Glyn

Annes Glyn

Erbyn hyn mae gennym bwyllgor golygyddol o dan arweiniad Siân Lewis, gyda chynrychiolwyr o’r 14 rhanbarth yn mynychu y pwyllgorau yn rheolaidd.

Rydym yn falch o feddwl fod gennym is-olygydd ar y gorwel sef Annes Glyn, a fydd yn cynorthwyo Siân yn awr, ac yna yn cychwyn ar ei gwaith o fod yn olygydd ymhen pedair mlynedd.

Buddsoddwyd eleni mewn Camera Digidol trwy gymorth nawdd a dderbyniwyd gan Grant o Gyngor Sir Ceredigion ac y mae yn rhoi cyfle i ni wella ein deunyddiau marchnata ynghyd a chael mwy o amrywiaeth o luniau i’r Wawr.

Mae ein cynlluniau i’r dyfodol yn cael ei trafod ddwy waith y flwyddyn yn yr is-bwyllgor cenedlaethol a’r gobaith ydyw cael mwy o gylchrediad.  Rydym yn parhau i dapio y “Wawr” ar gyfer y deillion ac y mae 400 copi o’r “Wawr” ar dap yn cael ei danfon i gymunedau.

Aelodau yn recordio Y Wawr i'r deillion

O fewn cloriau y “Wawr” fe gewch erthyglau diddorol, lluniau deniadol, adolygiadau ysgafn, cystadlaethau a gwobrau gwych, dyddiaduron personol, llenyddiaeth swmpus, llen meicro a’r celfyddydau, ryseitiau blasus, ffasiwn a ffitrwydd, hanesion y mudiad, materion cyfoes a llawer iawn mwy!

Cysylltwch a Sian Lewis Y Golygydd drwy ffonio 01974 241 622

neu e-bostio lewis@seraf.freeserve.co.uk

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.