Y Wawr Rhif 161 Gaeaf 2008

Y Wawr Gaeaf 2008

Llyfr Cownt

Darn o Lyfr Cownt 1951

Ym mis Mehefin fe allech wedi gweld yr awdures a’r ymgyrchwraig Angharad Tomos yn mentro’n llechwraidd draw i ‘Sioe ar Daith: Hanes Menywod Cymru’ yn Archifdy Caernarfon. Roedd llond bag o ddefnyddiau ganddi dan ei chesail. Ond pa drysorau oedd ganddi yn y bag a sut groeso gafodd hi tybed?
Georgia Davies

Gyda llwyddiannau gwych Cymry fel Nicole Cooke a Geraint Thomas a’r nofwyr anhygoel Rebecca Adlington a David Davies yng ngemau Olympaidd Beijing yn haf 2008, braf gwybod bod ambell Gymraes ddawnus iawn yn y sgwad sy wrthi’n ymarfer nawr i gipio gwobrau aur yng ngemau Llundain 2012. Un o’r mwyaf talentog, yn sicr, yw’r nofwraig Georgia Davies o Abertawe a dyma hi’n dweud peth o’I hanes.

 

RemoskaMae’r ddwy chwaer mor enwog ymysg aelodau’r mudiad ag ydi’r ddwy ledi dew yn Lloegr. Ond dwy ledi lon ydi’r ddwy yma – Betty Williams a Mair Davies, a’r ddwy yn byw yn Llansannan. A’r Remoska? Sosban drydan hefo caead sy’n coginio, yn gweithio’n union fel popty. 

Tegwen a Telu

Aled a Ioan yn mwynhau stori a chwtsh gan Tegwen cyn noswylio

Mae’n anodd credu nad yw Tegwen Morris, ein Cyfarwyddwr Cenedlaethol, a mam i ddau o fechgyn bywiog, yn syrthio i gysgu y funud y bydd ei phen yn cyffwrdd â’r gobennydd bob nos, ond na! – mae’n gweithio a darllen drwy’r nos hefyd!

 

  

 

Pwerwyd gan Overseer, Cynlluniwyd gan Telem@ a chymorth Netring.